Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi trosolwg o'i chynllun gweithredu ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Mae'r cynllun yn nodi canlyniadau posibl Brexit heb gytundeb ar bob agwedd o fywyd yng Nghymru ac yn crynhoi'r mesurau sydd ar waith i helpu i gyfyngu ar rai o effeithiau gwaethaf ymadael heb gytundeb.
Ond bydd Gweinidogion Cymru yn rhybuddio heddiw na all unrhyw gamau gan Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU ddiogelu'r wlad rhag effeithiau llawn y niwed a ddaw yn sgil Brexit heb gytundeb.
Yn wahanol i ragdybiaethau Operation Yellowhammer y mynnodd Senedd y DU bod Llywodraeth y DU yn eu cyhoeddi'r wythnos diwethaf, mae cynllun Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi i helpu pobl Cymru i ddeall gwir raddfa unrhyw darfu a ddisgwylir os na cheir cytundeb, a'r gwaith sydd wedi'i wneud i liniaru yn erbyn yr effeithiau gwaethaf.
Dywedodd y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles:
"Rydym yn cyhoeddi'r trosolwg hwn o'n cynllun gweithredu ar gyfer Brexit heb gytundeb i sicrhau tryloywder. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i gyfyngu ar y niwed a fydd yn cael ei achosi gan Brexit heb gytundeb.
"Rydym yn gobeithio na fydd angen i ni gymryd y camau yn y cynllun hwn, ond mae un peth yn gwbl sicr, bydd Brexit heb gytundeb yn niweidiol iawn i Gymru. Mae rhagdybiaethau cynllunio Llywodraeth y DU, a ddatgelwyd yr wythnos diwethaf, yn rhagweld prisiau tanwydd uwch, prinder o rai bwydydd, protestiadau ac oedi mewn porthladdoedd, ac y bydd y rheini ar incwm isel yn cael eu heffeithio fwy na neb - nid codi ofn yw diben hyn, ond nodi'r ffeithiau.
"Nid yw ymadael â'r UE heb gytundeb yn opsiwn hyfyw o gwbl. Mae'n union fel llywio'r llong yn fwriadol tuag at y creigiau. Y ffordd orau o osgoi llongddrylliad yw newid cyfeiriad y llong, ac ni wnawn ymddiheuro am barhau i gyflwyno'r achos dros hyn mor bendant ag y gallwn.
"Ond mae gennym ddyletswydd i baratoi ar gyfer yr hyn a all ddigwydd ac rydym yn parhau i wneud hynny, er y bydd yn amhosibl lliniaru effaith ymadael heb gytundeb yn gyfan gwbl."
Bwriad llawer o'r camau gweithredu yn y cynllun yw ymateb i ganlyniadau penodol ymadael â'r UE heb gytundeb, fel cynnydd mewn diweithdra neu unrhyw brinder a achoswyd gan darfu ar fewnforio. Efallai na fydd angen pob un o'r camau gweithredu yn y cynllun os ceir Brexit heb gytundeb.
Mae paratoadau Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar bedwar prif faes:
- Paratoadau ar draws y DU - gweithio gydag adrannau Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill ar brosiectau sy'n ymestyn tu hwnt i Gymru
- Camau gweithredu Llywodraeth Cymru - gweithio gyda phartneriaid a sefydliadau yng Nghymru i roi ymyriadau ar waith i roi sylw i beryglon strategol Brexit heb gytundeb
- Deddfwriaeth - gwneud yn siŵr bod gan Gymru lyfr statud gweithredol cyn y diwrnod ymadael
- Argyfyngau Sifil - datblygu ymateb i'r materion uniongyrchol sydd â'r mwyaf o frys.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio yn ddi-dor ers 2016 i baratoi ar gyfer Brexit a sicrhau'r canlyniad gorau posibl. Dyma rai o'r prif gamau:
- Creu Cronfa Bontio Ewropeaidd gwerth £50m a pharhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU am ragor o gyllid
- Rhoi cyngor i fusnesau ynglŷn â sut i baratoi a chyllid ychwanegol er mwyn gwella eu cadernid
- Buddsoddi mewn warws newydd i'r GIG i ddarparu man storio ychwanegol ar gyfer dyfeisiau meddygol
- Rhoi cynlluniau ar waith i leihau'r tarfu ym mhorthladd Caergybi
- Rhoi cymorth ariannol i'r sectorau ffermio, bwyd a physgota.
Mae'r cynllun gweithredu yn rhoi trosolwg strategol o ystod o risgiau sy'n gysylltiedig â Brexit heb gytundeb. Bydd Gweinidogion yn rhoi rhagor o fanylion ynglŷn ag ystod o ymyriadau mewn datganiadau penodol dros yr wythnosau nesaf.