Heddiw Carl Sargeant gynllun Cyflawni i fynd i’r afael â Throseddau Casineb blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17, sy’n anelu at leihau nifer y troseddau a digwyddiadau casineb ar draws Cymru.
Mae’r cynllun yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r heddlu, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector er mwyn mynd i’r afael â throseddau casineb ac i annog dioddefwyr i adrodd digwyddiadau a chynnig cefnogaeth iddynt.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb drwy fentrau megis Diwrnod Cofio’r Holocost, Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb a’r Wythnos Gwrth-Fwlio, gan weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn ysgolion, a gyda grwpiau cymunedol er mwyn eu haddysgu am y materion. Bydd y cynlluniau hefyd yn cynyddu hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ar draws y sector cyhoeddus er mwyn adnabod a mynd i’r afael â throseddau casineb, ac yn darparu cyllid i Gymorth i Ddioddefwyr Cymru er mwyn rhedeg y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer rhoi Cymorth ac Adrodd am Droseddau Casineb.
Wrth gyflwyno’r cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Yn anffodus, mae cryn dipyn o sôn wedi bod yn y wasg am droseddau a digwyddiadau casineb yng Nghymru yn dilyn canlyniad Refferendwm yr UE. O ganlyniad, nawr yw’r amser gorau i gyhoeddi ein cynllun i fynd i’r afael â throseddau casineb. Mae troseddau casineb yn ffiaidd ac rydym yn parhau â’n hymagwedd o ddim goddefgarwch at droseddau o’r fath.”
“Mae ystadegau diweddar yn awgrymu er bod 20% yn fwy o droseddau casineb wedi cael eu hadrodd, mae nifer y troseddau wedi gostwng 28% rhwng 2008 a 2015. Mae hyn yn arwydd positif sy’n dangos fod dioddefwyr yn adrodd am droseddau casineb a bod ganddynt ffydd y bydd y bobl briodol yn delio â’r troseddau. Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn parhau i weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag anoddefgarwch a chasineb yn ein cymdeithas, ac i wneud yn siŵr bod gan y dioddefwyr ffydd y bydd eu pryderon yn cael eu hystyried.”
“Mae’n briodol iawn fy mod i’n cyhoeddi’r cynllun hwn ar yr un diwrnod y mae’r Prif Weinidog yn mynychu gwasanaeth offa cenedlaethol Cymru ar gyfer hil-laddiad Srebrenica. Yn ystod y gwasanaeth hwn, bydd yn trafod yr angen i uno yn erbyn casineb a’r rheini sy’n ceisio ein gwahanu, fel bod ein pobl ifanc, a chenedlaethau i ddod, yn gallu dysgu pa mor bwysig yw byw mewn cymdeithas deg a goddefgar.”