Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr holl oedolion cymwys yn cael cynnig brechlyn Covid erbyn y hydref, o dan gynlluniau uchelgeisiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, bydd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn cyhoeddi Cynllun Brechu COVID-19, sy'n nodi tair carreg filltir allweddol.

Daw wrth i'r ffigurau diweddaraf ddangos bod mwy na 86,000 o bobl wedi cael y brechlyn yn ystod pum wythnos gyntaf y rhaglen. Bydd Cymru'n cyhoeddi ffigurau brechu dyddiol o heddiw ymlaen.

Dyma’r tair carreg filltir a nodir yn y cynllun:

  • Erbyn canol mis Chwefror – holl breswylwyr a staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; bydd pawb dros 70 oed a phawb sy'n eithriadol agored i niwed yn glinigol wedi cael cynnig brechlyn.
  • Erbyn y gwanwyn – bydd brechlyn wedi'i gynnig i'r holl grwpiau blaenoriaeth cam un eraill. Mae hyn yn bawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd sylfaenol.
  • Erbyn y hydref – bydd brechlyn wedi'i gynnig i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).

Yn dibynnu ar cyngor pellach gan JCVI gall tua 2.5m o bobl ledled Cymru cael cynnig brechlynnau Covid erbyn mis Medi.

Mae'r cynllun yn dibynnu ar gyflenwadau digonol a rheolaidd o'r brechlynnau yn cael eu dosbarthu.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

“Brechlynnau Covid sy’n cynnig y gobaith gorau i ni i ddychwelyd i'r normalrwydd rydym yn edrych ymlaen ato ar ôl blwyddyn mor anodd, sydd wedi troi ein bywydau ni i gyd wyneb i waered.

“Mae darparu'r rhaglen frechu hon i 2.5 miliwn o bobl yng Nghymru yn dasg enfawr ond mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i wneud hyn yn llwyddiant.
“Rydym yn gwneud cynnydd da gyda miloedd yn rhagor o bobl yn cael eu brechu bob dydd.

“Yn ystod yr wythnos sydd i ddod byddwn yn gweld y rhaglen yn cyflymu ymhellach gyda mwy o glinigau'n agor a'r brechlynnau cyntaf yn cael eu rhoi gan fferyllwyr.”

Er mwyn cyrraedd cymaint o bobl mor ddiogel a chyflym â phosibl, rydym yn parhau i gyflymu'r rhaglen frechu wrth i fwy o gyflenwadau o'r ddau frechlyn ddod ar gael.
Mae hyn yn cynnwys:

  • Nifer y canolfannau brechu torfol yn cynyddu i 35 yn ystod yr wythnosau nesaf, gydag o leiaf un ym mhob sir. Roeddem yn dechrau gyda saith, bum wythnos yn ôl.
  • Cymorth milwrol yn y canolfannau brechu torfol – mae 14 o imiwneiddwyr a 70 o bersonél eraill yn darparu cymorth.
  • 100 o feddygfeydd yn darparu clinigau erbyn diwedd yr wythnos hon.
  • Bydd y fferyllfeydd cyntaf i ddarparu brechlyn Oxford-AstraZeneca yn dechrau brechu yng Ngogledd Cymru yn ystod yr wythnos nesaf.
  • 14 uned symudol, yn cael eu gweithredu gan nyrsys cymunedol, sy'n mynd â'r brechlyn i gartrefi gofal.
  • Atgoffa am apwyntiadau brechu drwy negeseuon testun.

Dywedodd Dr Gillian Richardson, sy'n arwain rhaglen frechu Covid yng Nghymru:

“Dyma'r rhaglen frechu fwyaf erioed yng Nghymru ac mae’r GIG yn gweithio'n eithriadol galed i gael y brechlyn i gymaint o bobl a bosib, yn ddiogel a cyn gynted ag y gallwn ni.

“Bydd pobl yn cael eu gwahodd i ddod i gael brechlyn mewn clinig yn agos i'w cartref neu yn un o'r canolfannau brechu torfol. Rwy'n gwybod bod pawb yn awyddus iawn i gael eu pigiad ond arhoswch nes cysylltir â chi am eich tro.

“Bydd brechu’n rhoi llwybr i ni allan o'r pandemig yma ond bydd yn cymryd ychydig o amser i ni ddiogelu pawb yng Nghymru sydd ei angen– dyma pam ei bod mor bwysig bod pawb yn parhau i gymryd camau i ddiogelu eu hunain a'u teuluoedd rhag y coronafeirws.”

Bydd data am nifer y brechlynnau COVID-19 a roddir yng Nghymru ar gael bob dydd o heddiw ymlaen.

Bydd y datganiad dyddiol yn cofnodi cyfanswm y brechlynnau a roddwyd tan 10 pm y diwrnod blaenorol, sydd wedi'u cofnodi ar System Imiwneiddio Cymru COVID-19. Bydd y ffigurau gwirioneddol yn uwch oherwydd cofnodi data'n barhaus.