Heddiw, rydym yn cyhoeddi cynigion cyfreithiol pwysig i gynyddu cyfran y menywod sy'n sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd yn y dyfodol.
Nod Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yw gwneud y Senedd yn fwy effeithiol drwy sicrhau ei bod yn cynrychioli pobl Cymru yn well.
Mae'r Bil yn cyflawni argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, ac a gafodd eu cymeradwyo wedyn gan fwyafrif o Aelodau o'r Senedd ym mis Mehefin 2022. Mae hefyd yn adlewyrchu'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Os daw'r Bil yn gyfraith, bydd angen i bleidiau gwleidyddol sy'n cyflwyno mwy nag un ymgeisydd mewn etholaeth ar gyfer etholiadau'r Senedd sicrhau bod menywod yn ffurfio o leiaf hanner y rhestr.
Er mwyn helpu i sicrhau bod y cynnydd hwn yn arwain at Senedd sydd â chydbwysedd gwell, byddai angen i bleidiau hefyd osod menywod ar frig o leiaf hanner eu rhestrau ymgeiswyr etholaethol.
Ar hyn o bryd, mae menywod yn fwyafrif sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Senedd, maen nhw'n cyfrif am 51% o boblogaeth Cymru ond dim ond 43% o Aelodau o'r Senedd sy'n fenywod.
Yn 2003, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal o ddynion a menywod yn yr hyn, a oedd ar y pryd, yn Gynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, ers hynny mae cyfran y menywod a gynrychiolir yn y Senedd wedi gostwng.
Yn etholiad y Senedd yn 2021, roedd llai na thraean (31%) o'r 470 o ymgeiswyr a gyflwynwyd gan bleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn fenywod, ac o'r 60 o seddi yn y Senedd, 26 (43%) sy'n cael eu dal gan fenywod.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt:
Ugain mlynedd yn ôl, fe wnaeth Cymru greu hanes pan oedd 50% o'r Aelodau a gafodd eu hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd yn fenywod. Ond, ers hynny mae'r nifer hwnnw wedi gostwng.
Nod y Bil yma yw sicrhau Senedd sydd â chydbwysedd o ran rhywedd. Mae cael Senedd sy'n adlewyrchu cyfansoddiad poblogaeth Cymru yn well yn dda i wleidyddiaeth, yn dda i gynrychiolaeth ac yn dda ar gyfer llunio polisïau.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:
Rydyn ni eisiau creu Senedd fwy effeithiol sydd wir yn cynrychioli Cymru, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod mwy o fenywod yn sefyll mewn etholiadau ac yn cymryd seddi yn y siambr.
Mae'r diwygiadau sy'n cael eu cyflwyno yn gam ymlaen i gryfhau democratiaeth yng Nghymru fel bod y Senedd yn adlewyrchu ein cenedl fodern.
Canfu astudiaeth gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Cydraddoldeb Rhywiol yn 2021, fod 11 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd sydd â chwotâu rhywedd deddfwriaethol wedi cynyddu cyfran y menywod yn eu seneddau bron i deirgwaith yn gyflymach na gwledydd heb gwotâu.
Yn Iwerddon, roedd cynnydd o 40% yn nifer y menywod a etholwyd i'r senedd yno yn 2016, ar ôl i gwotâu statudol gael eu cyflwyno.
Mae Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn rhan o becyn ehangach o ddiwygiadau, gan gynnwys Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), sy'n destun craffu gan y Senedd ar hyn o bryd.