Mae Alun Davies, wedi cyhoeddi bod grant o £800,000 ar gael i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i’w helpu i ymateb i’r tirlithriadau diweddar sy’n parhau ym Mhant-teg, Ystalyfera.
Yn dilyn cyfres o dirlithriadau ar hyd Heol Cyfyng, gofynnodd yr awdurdod lleol i Lywodraeth Cymru a fyddai cymorth ariannol ar gael i’w helpu i fynd ati i reoli’r mater.
Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n galed i amddiffyn bywydau ac eiddo. Mae wedi ceisio lleihau’r risg sy’n parhau, ond mae’r costau sy’n gysylltiedig â gwneud hyn yn sylweddol. Cyn hir bydd y gwaith hwn yn cael effaith ar gyllidebau a chronfeydd wrth gefn y Cyngor oni fydd cymorth ar gael i’w helpu i dalu am y gwariant.
Bydd y grant sy’n cael ei gynnig yr wythnos hon yn caniatáu i’r Cyngor wneud gwaith ar waliau cynnal, torri coed a dadansoddi’r tir. Mae’n bwysig ystyried hefyd pa gynlluniau sydd wedi’u pennu ar gyfer y tymor hwy i sicrhau bod yr ardal yn gallu gwrthsefyll tirlithriadau tebyg a pharhau’n gynaliadwy yn y tymor hir.
Dywedodd Alun Davies:
“Mae’n glir bod y Cyngor yn wynebu heriau unigryw wrth ddelio â’r digwyddiad hwn. Mae’r costau sydd wedi cael eu hysgwyddo yn uwch nag y gellid eu disgwyl yn rhesymol wrth gynllunio unrhyw gyllideb.
“Bydd y grant hwn yn helpu’r awdurdod lleol i barhau i ddiogelu bywydau ac eiddo. Bydd hefyd yn rhoi cymorth i’r awdurdod ar gyfer ystyried cynlluniau tymor hwy i sicrhau cadernid a chynaliadwyedd yr ardal yn y dyfodol.”