Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford wedi gosod Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17 Llywodraeth Cymru gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Gyllideb Atodol yn dangos sut mae Cyllideb Derfynol 16-17, a gytunwyd gan y Cynulliad ar 8 Mawrth, wedi cael ei haddasu i adlewyrchu portffolios y Cabinet newydd. Mae hefyd yn cadarnhau ymrwymiadau cyllido a wnaed gan y weinyddiaeth flaenorol, gan gynnwys cyllid ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac atgyweirio camlas Sir Fynwy a Brycheiniog.
Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod y Gyllideb Atodol ar 12 Gorffennaf.
Dywedodd Mark Drakeford:
“Fel llywodraeth, rydym am fod yn glir am ein blaenoriaethau a’n penderfyniadau ariannu. Mae hefyd yn bwysig parhau gyda busnes arferol y Llywodraeth. Dyna pam fy mod i heddiw, yn unol â’r drefn arferol, yn gosod Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17 gerbron y Cynulliad.
“Mae’r Gyllideb Atodol hon yn tynnu sylw at y cyllid sydd wedi’i neilltuo yn ystod y flwyddyn ariannol hon i bortffolios ein Cabinet newydd, ac mae hefyd yn cadarnhau rhai o’r penderfyniadau ariannu a wnaed gan y weinyddiaeth flaenorol.
“Rydyn ni eisoes wedi dechrau o ddifri ar y gwaith o baratoi cyllideb 2017-18 er mwyn datblygu blaenoriaethau’r Llywodraeth i adeiladu gwlad unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.”