Neidio i'r prif gynnwy

Bydd hosbisau yn cael cyllid ychwanegol i'w helpu i barhau i ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes hanfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid gwerth £5.5 miliwn, sy'n ychwanegol at y cynnydd o £3 miliwn mewn cyllid rheolaidd a gyhoeddwyd yng nghyllideb 2025 i 2026, yn helpu'r 12 hosbis yng Nghymru a gomisiynir gan y GIG, sy'n cynnwys y ddwy hosbis i blant, i fynd i'r afael â phwysau ariannol a sicrhau bod staff yn cael cyflog teg.

Mae hosbisau Cymru yn chwarae rhan hanfodol o ran helpu cleifion ar ddiwedd eu hoes, eu teuluoedd a'u gofalwyr ac maent wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu parhau i gael cymorth urddasol a phersonol mewn hosbis, y tu allan i leoliad ysbyty.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles:

Mae hosbisau yn chwarae rhan hollbwysig o ran helpu teuluoedd ar rai o'r adegau anoddaf.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gryfhau a gwella gofal lliniarol a gofal diwedd oes i sicrhau bod pawb sydd angen cymorth mewn hosbis yn cael cymorth urddasol a phersonol y tu allan i leoliad ysbyty.

Dywedodd Liz Booyse, cadeirydd Hosbisau Cymru:

Rydyn ni'n croesawu'r ymrwymiad o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae'n dangos pwysigrwydd y sector hosbis yn ein system gofal iechyd ac rydyn ni'n hynod o ddiolchgar. Mae ein gwasanaethau yn darparu gofal a chymorth hanfodol i dros 20,000 o blant ac oedolion sy'n cael eu heffeithio gan salwch angheuol bob blwyddyn.

Mae'r cyllid hwn yn gam pwysig ymlaen, a byddwn ni'n parhau â'n hymdrechion i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i sicrhau setliad cyllido cynaliadwy a fydd yn dod â mwy o sefydlogrwydd i'r sector hosbis yng Nghymru.

Dywedodd Matthew Brindley, rheolwr polisi ac eiriolaeth o gangen Cymru Hospice UK:

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn i hosbisau Cymru, a hynny oherwydd costau sy'n codi'n gyflym a'r angen cynyddol am ofal diwedd oes.

Rydyn ni'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gydnabod y pwysau y mae hosbisau yn ei wynebu, ond hefyd y gwerth aruthrol maen nhw'n ei gyfrannu at y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau dull gweithredu mwy cynaliadwy o ran y ffordd rydyn ni'n ariannu gofal hosbis yng Nghymru. Mae ein poblogaeth yn heneiddio ac mae rheoli iechyd pobl yn mynd yn fwy cymhleth. Mae angen arnon ni system gofal lliniarol a gofal diwedd oes gadarn a gwydn ac mae hosbisau Cymru yn barod i chwarae eu rhan.