Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi £210,000 o gyllid i helpu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru i baratoi ar gyfer Brexit.
Cyhoeddodd Mr Gething y cyllid, a ddaw o Gronfa Bontio'r UE gwerth £50m Llywodraeth Cymru, yn dilyn cyfarfod â phartneriaid allweddol ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol am baratoadau Brexit ddoe (dydd Iau, 25 Hydref).
Bydd Conffederasiwn GIG Cymru yn cael £150,000 dros ddwy flynedd i ddarparu cymorth i fyrddau ac ymddiriedolaethau GIG Cymru i baratoi ar gyfer Brexit. Bydd yr arian yn cyllido Rhaglen Cymorth Pontio Brexit er mwyn eu galluogi i godi ymwybyddiaeth, helpu aelodau i baratoi ar gyfer Brexit a chydlynu cynlluniau wrth gefn.
Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael £60,000 i helpu i gryfhau mesurau diogelwch iechyd ac amddiffyn iechyd yng Nghymru.
Dywedodd Mr Gething:
"Ar drothwy'r cyfnod hanfodol bwysig hwn, mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer pob canlyniad posibl i Brexit, gan gynnwys y posibilrwydd o ymadael heb gytundeb.
Bydd y cyllid hwn yn helpu'r gwasanaeth iechyd i sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu yn llyfn ac yn effeithiol i'r cleifion a'r defnyddwyr gwasanaethau ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd."
Dywedodd Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Vanessa Young:
"Rydyn ni'n falch iawn o gael y cyllid hwn a fydd yn ein helpu i gyfathrebu a chynnal cysylltiad rhwng y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Llywodraeth Cymru wrth i ni baratoi ac ymateb i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ar ba bynnag ffurf y bydd hynny'n digwydd.
"Byddwn yn defnyddio'r cyllid i helpu Llywodraeth Cymru i gydlynu camau gweithredu penodol ar Brexit ar draws y Gwasanaeth Iechyd a chynrychioli buddiannau Cymru yng Nghlymblaid Cavendish a Chynghrair Iechyd Brexit ar draws y Deyrnas Unedig.
"Y flaenoriaeth uniongyrchol yw sicrhau bod cynlluniau ar waith ar draws y system iechyd a gofal yng Nghymru i reoli Brexit heb gytundeb, pe bai hynny'n digwydd. Beth bynnag fydd canlyniadau'r trafodaethau, mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn wynebu nifer o heriau posib, gan gynnwys y cyflenwad o nwyddau a meddyginiaethau; diogelu iechyd y cyhoedd; a chynnal ein gweithlu gwerthfawr o'r Undeb Ewropeaidd. Yn y pen draw, ein huchelgais yw sicrhau na fydd cleifion yn gweld unrhyw wahaniaeth yn lefel y gwasanaeth y gallwn ei ddarparu ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd."