Mae Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, wedi cyhoeddi bod £75,000 yn cael ei roi ar gyfer y Cynllun Nofio am Ddim i’r Lluoedd Arfog.
Cychwynnwyd rhoi’r cynllun ar waith yn genedlaethol o fis Tachwedd 2015, ac roedd gan y 22 Awdurdod Lleol gynllun lleol yn ei le erbyn 1 Ionawr 2016. Mae’n rhoi’r cyfle i aelodau sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr i fynd i nofio am ddim mewn canolfannau hamdden a phyllau nofio syn rhan o’r cynllun, gan ddefnyddio Cerdyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Bydd y cyllid, a gyhoeddwyd heddiw, yn help i gyflenwi’r cynllun yn 2017-18.
Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans:
“Mae gweithgarwch corfforol yn cael effaith mawr ar ein iechyd ac mae’ n llesol i ni. Pwrpas y cynllun nofio am ddim yw galluogi aelodau o’r Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr i gael y buddiannau y mae nofio yn ei gynnig o ran iechyd meddwl a chorfforol. Pleser yw cael cyhoeddi bod £75,000 yn cael ei roi tuag at y cynllun yn 2017-18.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau, Carl Sargeant:
Dywedodd Chris Llewelyn, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth CLlLC:“Mae’n dyled ni’n fawr i’r Lluoedd Arfog. Mae’r cynllun nofio am ddim yn rhan o becyn ehangach yr ydym yn ei ddarparu i gymuned y Lluoedd Arfog, i gydnabod eu gwasanaeth.”
“Mae’r Llywodraeth Lleol yn falch iawn o ddarparu nofio am ddim i bersonél ein Lluoedd Arfog a’n Cyn-filwyr. Y gobaith yw bod hyd yn oed rhagor o bobl yn cymryd rhan yn y cynllun y flwyddyn hon, gan elwa ar y manteision niferus a llesol sy’n cael eu cynnig gan weithgarwch corfforol. Mae pyllau nofio sy’n rhan o’r cynllun ar gael gan bob un o awdurdodau lleol Cymru. Ewch ar wefan eich Awdurdod Lleol i weld lle mae’r pwll nofio agosaf i chi.”