Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau i greu Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd yn Llanelli wedi symud gam ymlaen wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd yn ariannu Uwchgynllun y prosiect.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i amrywio telerau’r cytundeb rhwng Cyd-fenter Arfordir Llanelli a Chyngor Sir Caerfyrddin fel ei fod yn cynnwys yn ffurfiol y datblygiad arfaethedig, cyn belled â bod modd cytuno ar y cynllun busnes.

Nod y Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd yw gweddnewid y ffordd y mae gofal a lles yn cael ei hybu yn y rhanbarth. Bydd yn ceisio creu cysylltiadau rhwng iechyd o’r radd flaenaf, ymchwil a gwyddorau bywyd a chyfleoedd hamdden arloesol er mwyn helpu pobl i fyw bywydau mwy iach.

Cyngor Sir Caerfryddin sy’n arwain y datblygiad arfaethedig hwn yn Llynnoedd Delta sy’n werth miliynau o bunnau.  Mae’n rhan o’r cydweithredu rhanbarthol ehangach ar gyfer menter iechyd sy’n cael ei chynnal gan Fyrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda ynghyd â Phrifysgol Abertawe.  Mae’r prosiect hefyd yn cael llawer o sylw yn nogfen Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Bydd yr astudiaeth Uwchgynllun yn ategu’r astudiaeth ddichonoldeb sydd wrthi’n cael ei llunio.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:  

“Mae’r Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd yn gynnig arloesol sydd â’r potensial i gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles preswylwyr.  Mae hefyd wedi cael ei ddylunio i roi hwb i economi’r rhanbarth a’r sylfaen sgiliau sydd yno a hynny mewn dull cynaliadwy ac ar yr un pryd, bydd yn helpu i adfywio’r ardal.  Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi ein bod yn gallu darparu’r cyllid ar gyfer yr uwchgynllun ac unrhyw achosion busnes cysylltiedigfyddai’n helpu i symud y prosiect hwn yn ei flaen.”

Dywedodd Meryl Gravell, cynghorydd gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a chadeirydd gweithgor ARCH – Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd:  

“Mae llawer o waith wedi cael ei wneud ar y cynllun hwn hyd yma.  Mae Rheolwr Prosiect wedi cael ei benodi ac mae cyllid wedi cael ei ddiogelu ar gyfer cynnal astudiaeth ddichonoldeb.

“Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol ac unigryw.  Nid yn unig bydd y cynllun yn ceisio gwella iechyd a lles pobl y rhanbarth ond hefyd, bydd yn ceisio rhoi hwb i’r economi a darparu swyddi o ansawdd uchel.”

Daw’r cysyniad o Bentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd yn sgil trafodaethau i adeiladu canolfan hamdden newydd yn Llanelli a dymuniad y cyngor i gydweithio â phartneriaid iechyd, gan fuddsoddi ymhellach mewn cyfleusterau a gwasanaethau, er mwyn helpu i atal salwch ymysg pobl a lleihau’r pwysau sydd ar staff gofal iechyd rheng flaen.

Mae gwaith cwmpasau’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i fireinio manylion y cynllun, cynllun sy’n torri tir newydd.  Mae ganddo’r potensial i weld canolfan hamdden a lles fodern iawn yn cael ei hadeiladu ynghyd â chyfleusterau gwyddorau bywyd ac ymchwil, a hefydwesty, cyfleusterau cynadledda ac ystafelloedd busnes modern iawn.