Alun Davies yn rhoi bron i £1.5m o bunnoedd i helpu Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru i gynyddu eu hymdrechion i atal tanau.
Heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru yn cael £1,424,000, er mwyn parhau â'u rhaglenni ar gyfer gostwng nifer y tanau bwriadol, ymgysylltu â phobl ifanc, a phrynu offer diogelwch i'r cartref.
Dywedodd:
“Mae ein Gwasanaethau Tân ac Achub yn gweithio'n hynod o galed i'n cadw ni'n ddiogel ac i'n haddysgu am y peryglon sy'n gysylltiedig â thân. Fodd bynnag, mae hefyd lawer o beryglon eraill i ddiogelwch pobl heblaw am beryglon tân, ac mae'r gostyngiad yn nifer yr achosion o dân yn golygu y gall Awdurdodau Tân ac Achub chwarae mwy o rôl yn y gwaith o geisio lleihau'r peryglon hynny hefyd.
“Mae pawb yn cytuno bod atal tanau rhag digwydd yn y lle cyntaf yn well o lawer nag ymateb iddyn nhw. Dyma nod y rhaglenni hyn. Mae rhai ohonynt yn addysgu pobl ifanc am y peryglon sy'n gysylltiedig â thanau a chynnau tanau, gan helpu i’w hatal rhag troseddu a chyflawni drwgweithredoedd eraill sy'n ymwneud â thân. Mae rhaglenni eraill yn helpu i gadw ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ddiogel rhag tân a pheryglon eraill yn eu cartrefi, fel codymau a diogelwch trydanol.”
Un o'r rhaglenni a fydd yn derbyn cyllid yw Dawns Glaw. Nod y rhaglen hwnnw ydy i addysgu aelodau'r cyhoedd a thirfeddianwyr am beryglon ac effeithiau cynnau tân yn fwriadol, ac mae'n codi ymwybyddiaeth am ganlyniadau cynnau tanau glaswellt yn fwriadol, sef rhywbeth a all arwain at erlyn y troseddwr.
Cafodd Dawns Glaw ei sefydlu yn 2015, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, yr Awdurdodau Tân ac Achub, Gwasanaethau'r Heddlu, yr Awdurdodau Lleol, y Swyddfa Dywydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Crimestoppers ac eraill. Bu gostyngiad o 50% yn nifer y tanau glaswellt yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd diwethaf a gostyngiad o dros 1000 o’r nifer o ddigwyddiadau a fynychwyd gan Wasanaethau Tan ac Achub o ganlyniad i weithio mewn modd amlasiantaethol fel hyn. Mae gwaith yr asiantaethau gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu wedi llwyddo i sicrhau newidiadau mawr mewn ymddygiad, ac nid oes ond nifer bach o achosion o aildroseddu - enghraifft gadarnhaol o effaith hirdymor gwaith ataliol o’r fath.
Dywedodd Cadeirydd tasglu Dawns Glaw, Mydrian Harries:
“Mae tanau glaswellt bwriadol yn peryglu bywydau. Os yw’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn brysur yn diffodd tân bwriadol, gall hynny arwain at oedi cyn ymateb i argyfwng go-iawn sy’n peryglu bywyd fel tân mewn tŷ neu ddamwain ffordd. Mae tanau glaswellt bwriadol hefyd yn niweidio cefn gwlad a’n hamgylchedd, peryglu bywyd gwyllt a da byw, ac yn costio miliynau o bunnoedd i economi Cymru bob blwyddyn.
“Mae rhan gan bob un ohonom rôl i’w chwarae i leihau a dileu achosion o danau glaswellt bwriadol yng Nghymru. Rwy’n apelio ar i’r cyhoedd fod yn wyliadwrus a’n helpu ni i amddiffyn ein cymunedau a chefn gwlad drwy dynnu sylw’r Heddlu at unrhyw ymddygiad amheus ar unwaith.”
Mae'r cyllid hwn hefyd yn caniatáu i'r Awdurdodau Tân ac Achub gynnal archwiliadau o gartrefi pobl i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel. Darperir larymau mwg neu ddillad gwely nad yw’n mynd ar dân yn hawdd am ddim os bydd angen. Mae'r Awdurdodau Tân ac Achub yn cynnal oddeutu 50,000 o archwiliadau o'r fath bob blwyddyn, gan ganolbwyntio ar y bobl sydd yn y perygl mwyaf, megis pobl hŷn neu fregus, pobl ag anableddau, smygwyr a rhieni sengl.