Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi mai Derek Walker fydd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol nesaf Cymru.
Bydd Derek Walker yn dechrau yn y swydd ar ôl i gyfnod y Comisiynydd presennol, Sophie Howe ddod i ben ar ddechrau 2023.
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i greu swydd annibynnol i weithredu fel gwarcheidwad cenedlaethau'r dyfodol. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn swydd unigryw sy'n darparu cyngor a chymorth ar ddatblygu cynaliadwy ac yn annog y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus i arddel safbwynt mwy hirdymor ar benderfyniadau polisi, a diogelu a hyrwyddo anghenion cenedlaethau'r dyfodol.
Yn dilyn proses recriwtio drylwyr, cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford Derek Walker fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol newydd Cymru.
Ar hyn o bryd, Derek Walker yw Prif Swyddog Gweithredol Cwmpas, asiantaeth ddatblygu sy'n gweithio dros newid economaidd a chymdeithasol cadarnhaol. Mae'n un o'r asiantaethau mwyaf o'i fath yn y DU. Yn ystod ei amser fel Prif Swyddog Gweithredol, mae Derek wedi newid cyfeiriad gwaith y sefydliad i ganolbwyntio ar ddulliau datblygu cynaliadwy. Mae wedi goruchwylio rhaglenni sydd wedi arwain at dwf sylweddol yn nifer y cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a busnesau sydd ym mherchnogaeth gweithwyr yng Nghymru.
Mae Cwmpas hefyd wedi dod yn sefydliad y gofynnir iddo am gymorth ar gyfer gwaith i gryfhau cymunedau ac i wneud cymdeithas yn fwy cyfartal. Cyn gweithio yn Cwmpas, bu Derek yn gweithio fel Pennaeth Materion Allanol y Gronfa Loteri Fawr (Cymru), fel Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd TUC Cymru yn Hwlffordd. Derek oedd cyflogai cyntaf Stonewall Cymru hefyd.
Dywedodd Derek Walker:
“Rwy'n falch o gael fy mhenodi'n Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Mae'n rôl hanfodol wrth arwain trawsnewid ar draws ein gwlad, i greu bywydau a dyfodol gwell i'n dinasyddion.
“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi fframwaith deddfwriaethol i Gymru sy'n rhoi'r cyfle inni arwain y byd mewn datblygu cynaliadwy. Nid wyf yn tanbrisio'r her sydd o'n blaenau. Rwy'n ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi cyrff cyhoeddus i sicrhau bod gweithredu'n cyd-fynd ag uchelgais y Ddeddf.”
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Yn awr yn fwy nag erioed, mae rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn hollbwysig. Bydd yn helpu i lywio'r dyfodol tecach, mwy cyfartal rydyn ni i gyd eisiau ei weld. Mae ar Gymru angen unigolyn cryf, annibynnol, ac uchel ei barch i ymgymryd â rôl y Comisiynydd, gan ein helpu i gyd i adael treftadaeth well i bobl a'r blaned.
“Mae gan Derek gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, ac rwy'n gwybod y bydd yn adeiladu'r cydberthnasau ledled Cymru i barhau â'r hwb dros newid a gychwynnwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a gwaith Sophie Howe.
"Hoffwn dalu teyrnged i Sophie Howe am ei holl waith yn ystod ei hamser fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae Sophie wedi gwneud y rôl yn rôl unigryw, gan ysbrydoli ein cenhedlaeth iau a chymdeithas yn gyffredinol, i feddwl yn ofalus am yr holl benderfyniadau rydyn ni'n ei gwneud, a sut y bydd hynny'n effeithio ar y rhai sy'n ein holynu fel arweinwyr yfory.
“Mae Sophie wedi gwneud cyfraniad trawiadol a hirhoedlog at drafodaeth gyhoeddus a pholisi yng Nghymru, a mawr yw ein diolch iddi am lywio rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol cyntaf Cymru."
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, a gadeiriodd y panel dethol trawsbleidiol:
“Mae'n hanfodol bod gan ein Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol nesaf yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r profiad i ymgymryd â'r her enfawr hon.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Derek Walker fel ein Comisiynydd newydd, i sicrhau'r dyfodol teg a chyfartal rydyn ni i gyd am ei weld.
“Hoffwn ddiolch i Sophie Howe am ei holl waith wrth gyflawni ar gyfer cenedlaethau i'r dyfodol, gan ymgysylltu â phobl ifanc i fod yn rhan o'r broses a gwneud Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn beth llawn bywyd. Mae Sophie wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol a rhagweithiol ac am hynny byddwn bob amser yn ddiolchgar iddi am hynny."