Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhaglen Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynhwysiant digidol yng Nghymru yn parhau am ddwy flynedd arall gyda chefnogaeth gwerth £2miliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cymunedau Digidol Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gynhelir gan Ganolfan Gydweithredol Cymru, yn gweithio gyda sefydliadau partner ar draws Cymru.

Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu nad yw 16%  o bobl yng Nghymru yn defnyddio'r we yn rheolaidd, a’u bod, o bosib, yn colli allan ar y buddion y gall gynnig.  Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio ar lefel leol er mwyn datblygu gweithgareddau cynhwysiant digidol cynaliadwy er mwyn cyrraedd y bobl hynny all elwa fwyaf o'r byd digidol.

Mae'r rhaglen yn darparu cymorth i sefydliadau sy'n gweithio â'r bobl hynny sy'n fwyaf tebygol o gael eu hallgáu'n ddigidol gan gynnwys pobl anabl, preswylwyr mewn tai cymdeithasol, pobl hŷn a phobl ddi-waith.  Ei nod yw helpu i wella eu bywydau, naill ai drwy gael gafael ar nwyddau neu wasanaethau ar-lein rhatach, helpu i leihau unigedd neu ddod o hyd i waith.

Sefydlwyd Cymunedau Digidol Cymru yn 2015 am gyfnod o ddwy flynedd gyda'r opsiwn i'w ymestyn am ddwy flynedd ychwanegol.  

Erbyn mis Rhagfyr 2016 roedd oddeutu 60,000 o unigolion wedi’u cefnogi, diolch i'r rhaglen. Hefyd, darparwyd hyfforddiant i dros 1,100 o staff rheng flaen a dros 435 o wirfoddolwyr.

Dywedodd y Gweinidog:

"Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi gwneud cynnydd da yn gyffredinol ers ei sefydlu ac mae'n gweithio'n effeithiol gyda sefydliadau ledled Cymru.  

"Mae gormod o bobl o hyd nad ydynt yn manteisio ar gyfleoedd technoleg digidol, a'n nod uchelgeisiol yw delio ag allgáu digidol drwy helpu 95% o bobl i ddysgu sgiliau digidol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain erbyn 2021.  

"Bydd Cymunedau Digidol Cymru yn chwarae rôl bwysig wrth gyfrannu at y nod hwn. Dyma pam rwy'n falch o gadarnhau bod y rhaglen wedi cael ei ymestyn am ddwy flynedd arall.

"Mae'r ffordd mae'r rhaglen yn gweithio â sefydliadau ar lefel leol i ddatblygu mentrau cynnal sgiliau digidol cynaliadwy, yn sicrhau ei bod yn gallu cyrraedd y bobl hynny sydd ei angen fwyaf."

Dywedodd Derek Walker, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Gydweithredol Cymru:

"Mae gweithio i hyrwyddo cynhwysiant digidol yn parhau i fod yn rhan bwysig o greu cymdeithas decach. Mae'r bobl sydd heb sgiliau digidol sylfaenol yn fwy tebygol o fod yn hŷn, yn dlotach ac yn wynebu anghydraddoldeb mewn ffyrdd eraill. Mae Canolfan Gydweithredol Cymru yn falch o allu parhau i wneud y gwaith hwn am ddwy flynedd arall a bod effaith y rhaglen wedi cael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â gwerthuswyr annibynnol."