Y Deyrnas Unedig sydd ag un o’r lefelau uchaf o ordewdra yng Ngorllewin Ewrop.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae’r ddogfen ymgynghori, 'Pwysau Iach: Cymru Iach', yn nodi’r camau gweithredu y mae angen eu cymryd i helpu pobl Cymru i gynnal pwysau iach.

Y Deyrnas Unedig sydd ag un o’r lefelau uchaf o ordewdra yng Ngorllewin Ewrop. Yng Nghymru, mae 27% o blant o bedair i bump oed a 60% o oedolion dros eu pwysau.

Os yw unigolion dros eu pwysau, mae mwy o berygl iddynt ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol fel clefyd coronaidd y galon, diabetes math 2, a rhai mathau o ganser. Mae hefyd yn effeithio ar iechyd meddwl pobl, gan arwain at hunan-barch isel, iselder a gorbryder.

Mae’r cynigion yn y ddogfen ymgynghori yn rhoi pwyslais cryf ar atal, ac maent yn cael eu hategu gan waith ymchwil a thystiolaeth ryngwladol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â’r hyn sy’n gallu helpu pobl i gynnal pwysau iach.

Mae’r gwaith ymchwil wedi helpu i lunio’r cynnwys, sydd wedi’i rannu’n bedair thema:

  • Arweinyddiaeth a Galluogi Newid – cryfhau arweinyddiaeth yn genedlaethol ac yn lleol er mwyn cyflawni newid drwy’r Byrddau Iechyd Lleol a’r Awdurdodau Lleol a’u partneriaid, yn ogystal â’r cymunedau eu hunain.
  • Amgylchedd Iach - creu amgylchedd sy’n helpu pawb i wneud dewisiadau iach o ran bwyd ac yn creu cyfleoedd i bobl fod yn egnïol yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys creu deddfwriaeth ar hyrwyddo prisiau, nodi calorïau ar labeli bwydydd sy’n cael eu bwyta y tu allan i’r cartref,  gwahardd gwerthu diodydd egni i blant, a dod ag amryw o raglenni at ei gilydd i ddatblygu amgylcheddau iach mewn cymunedau.
  • Lleoliadau Iach – sicrhau bod ein cyfleusterau addysg, gwaith a hamdden yn hyrwyddo ac yn rhoi’r cyfle i bobl Cymru gael gafael ar brydau, byrbrydau a diodydd iach a bod yn gorfforol egniol. Mae hyn yn cynnwys rhoi mwy o gymorth i leoliadau’r blynyddoedd cynnar ac ysgolion i gynnig cyfleoedd i fwyta’n iach ac i wneud gweithgarwch corfforol dyddiol. 
  • Pobl Iach - darparu cyfleoedd ac ysbrydoli pobl a chymunedau i gyrraedd a chynnal pwysau corfforol iach. Mae hyn yn cynnwys cymorth i rieni a theuluoedd, gan ganolbwyntio ar y 1000 diwrnod cyntaf allweddol a’r blynyddoedd cynnar, yn ogystal ag adolygu’r gwaith o roi Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan ar waith.
Dywedodd Vaughan Gething: 

“Mae gormod o bobl yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew. 

“Mae’r nifer uchel o blant pedair i bump oed sydd dros eu pwysau yn destun pryder cenedlaethol. Nid yw’r llywodraeth hon yn barod i adael i ddeiet gwael neu ddiffyg ymarfer corff fod yn nodweddion amlwg ym mywydau ein plant a’n pobl ifanc. 

“Rydym yn gwybod y byddai llawer ohonom yn hoffi bwyta’n iachach neu wneud mwy o ymarfer corff. Ond mae cynnwys hyn yn ein bywydau prysur yn gallu ymddangos yn ormod o her. Gall creu amgylchedd lle mae'n arferol ac yn hawdd i bawb fwyta'n dda a bod yn gorfforol egnïol wneud gwahaniaeth sylweddol a'n gwthio i newid ein harferion dyddiol.

“Rydym yn awyddus i annog pobl i reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain, i golli pwysau ac i fod yn egniol. Os na lwyddir i wneud hyn, mae gallu’r Gwasanaeth Iechyd i fod yn gynaliadwy yn y tymor hir yn y fantol. 

“Rydym am i bobl Cymru gael oes hir, iach a hapus. Mae cynnal pwysau iach yn rhan ganolog o gyflawni’r nod hwnnw.

“Mae’r taclo’r hyn sydd wrth wraidd gordewdra yn fater cymhleth, a bydd gofyn cael camau ymyrryd ar bob lefel. Dydyn ni ddim¬ yn diystyru maint yr her – does dim ateb hawdd i’r broblem. Mae’r cynigion sydd wedi’u hamlinellu heddiw wedi’u seilio ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ynglŷn â’r hyn a allai weithio i droi grym y llif o ran gordewdra.

“Allwn ni ddim osgoi’r broblem – dyma her fwyaf ein cenhedlaeth o ran iechyd y cyhoedd ac rwy’n annog pawb i gymryd rhan lawn yn yr ymgynghoriad.”