Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi'r prosiect cyntaf i'w gefnogi gan y Gronfa Trawsnewid gwerth £100m, i ddatblygu modelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol.
Datblygwyd y prosiect Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, ac mae'n integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn cynnig gofal yn nes at y cartref.
Bydd yn derbyn bron i £7m dros ddwy flynedd o'r Gronfa Trawsnewid er mwyn newid, datblygu a chysoni gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan roi mwy o bwyslais ar atal salwch, a symud gwasanaethau allan o ysbytai i dai a chymunedau.
Crëwyd y Gronfa Trawsnewid i gefnogi camau allweddol o gynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach.
Mae Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned wedi'i seilio ar waith partneriaeth rhwng pob rhan o'r GIG, gwasanaethau awdurdodau lleol, elusennau a'r sector gwirfoddol, er mwyn sicrhau bod unigolion a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn nes at y cartref, ar yr adeg gywir. Y nod yw annog cymaint â phosib o annibyniaeth, sef, yn ôl ymchwil, y canlyniad sydd bwysicaf oll i bobl.
Mae'r prosiect wedi cael ei ddylanwadu gan fenter debyg a ddatblygwyd yng Canterbury, Seland Newydd ac mae ganddo nifer o elfennau allweddol a fydd yn gwella'r ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cydweithio:
- Bydd Get Me Home a Get Me Home Plus yn newid y ffordd y gall sefydliadau partner gydweithio mewn ysbytai. Er enghraifft bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r GIG i ddarparu mwy o gysylltiad dyddiol ar y wardiau. Dan Get Me Home Plus bydd pobl yn cael eu hasesu yn eu cartrefi eu hunain ar ôl eu rhyddhau o'r ysbyty, yn hytrach na chael eu hasesu cyn eu rhyddhau. Bydd hyn yn helpu i roi dealltwriaeth glir o'r cymorth a'r addasiadau sydd eu hangen yn y cartref, ac fe fydd yn caniatáu i bobl ddychwelyd i'r cartref yn gynt ar ôl bod yn yr ysbyty. Bydd gofal cofleidiol yn y cartref yn cael ei ddarparu gan weithwyr iechyd proffesiynol, gofalwyr y gwasanaethau cymdeithasol, a gweithwyr cymdeithasol.
- Bydd gwefan lesiant yn cysylltu gwasanaethau ar draws y gymuned, ac yn caniatáu i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rannu gwybodaeth am gleifion.
- Bydd swyddogion datblygu cymunedol yn datblygu ac yn argymell gofal yn y gymuned - er enghraifft prosiectau garddio cymunedol, grwpiau cerdded, ‘siediau dynion' a ‘chaffis sgwrsio’.
- Datblygu gweithlu llesiant. Yn ogystal â swyddogion llesiant a'r rhai sy'n rhoi presgripsiynau cymdeithasol ar hyn o bryd, bydd staff y dderbynfa yn cael eu hyfforddi i roi gwybodaeth a chyfeirio pobl at weithwyr gofal gwirfoddol yn y gymuned.
- Adnabod pobl agored i niwed a'u helpu i barhau i fod mor annibynnol â phosib. Mae hyn yn cynnwys creu gwell cysylltiadau rhwng ysbytai, meddygon teulu a fferyllwyr i sicrhau bod pawb yn cael gwybod am anghenion cleifion unigol pan fyddant yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty, ac er mwyn i'r cleifion gael un pwynt cyswllt.
- Timau amlddisgyblaethol, dan arweiniad meddyg teulu, i ddatblygu ac adolygu gwasanaethau.
Yn ystod ymweliad â Meddygfa Redlands ym Mhenarth heddiw (dydd Iau 18 Hydref), fe gafodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething gyfle i gyfarfod tîm Caerdydd a'r Fro a rhai o'r ymwelwyr o Seland Newydd sydd wedi dod i weld y prosiect yn datblygu.
Dywedodd Mr Gething:
"Wrth i ddisgwyliad oes gynyddu a'r heriau i iechyd y cyhoedd barhau, bydd pwysau cynyddol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Dyna pam, yn ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ein bod ni wedi nodi'r angen i drawsnewid y ffordd rydyn ni'n darparu gofal i sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Bydd gofyn am integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn well er mwyn dibynnu llai ar ysbytai a darparu gofal yn nes at y cartref. Bydd y Gronfa Trawsnewid yn cael ei defnyddio i ariannu nifer fach o brosiectau a fydd yn cael yr effaith fwyaf wrth ddatblygu a darparu modelau gofal newydd, ac sydd â’r potensial i gael eu hehangu i’w defnyddio ar draws Cymru.
Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r prosiect cyntaf i gael cefnogaeth y Gronfa. Mae gan dîm Caerdydd a'r Fro weledigaeth glir am sut i ddarparu gwell gofal i gleifion a lleihau'r pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai, ac rwy'n edrych ymlaen at weld hyn a modelau newydd eraill yn cael eu datblygu a'u cyflwyno yn fuan."
Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, Aelod o Gabinet Cyngor Caerdydd dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro:
"Dyma gyfle ardderchog i aildrefnu iechyd a gofal cymdeithasol yn sylfaenol, nid yn unig yn y rhanbarth ond hefyd ar draws y wlad, er mwyn cyflawni'r blaenoriaethau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei strategaeth Cymru Iachach.
"Mae'n rhaglen yn canolbwyntio ar deuluoedd ac unigolion. Drwy ganolbwyntio ar y boblogaeth, gall awdurdodau lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gydweithio i ddarparu gwasanaethau ataliol, ar lefel leol, sy'n cynnal annibyniaeth ac sy'n arwain at y canlyniadau y mae pobl yn eu dymuno.
"Mae aelodau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro wedi bod yn gweithio'n galed i wella iechyd a gofal cymdeithasol. Nawr yw'r amser i adeiladu ar y gwaith hwn a gosod egwyddorion y polisi cenedlaethol newydd i arwain ein gwasanaethau."