Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cafodd gogledd Cymru hwb ddwbl pan gyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates £20miliwn i sefydlu athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd gan yr athrofa, a fydd yn derbyn teitl mwy ffurfiol maes o law, ffocws cryf ar sectorau gweithgynhyrchu uwch gan gynnwys y sectorau awyrofod, modurol, niwclear a bwyd. Ei nod yw targedu ymchwil a datblygu ar y cyd, technegau gweithgynhyrchu uwch a phrosesau cynhyrchu a’r angen am hyfforddiant a sgiliau ar draws y diwydiant. 

Aeth Ken Skates i ffatri Airbus ym Mrychdyn ar gyfer cyfarfod bwrdd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, a dywedodd: 

"Bydd yr athrofa yn rhoi cefnogaeth fydd yn gweddnewid cwmnïau gweithgynhyrchu allweddol yn ogystal â chwmnïau cadwyn gyflenwi amlsector a'r economi BBaChau ehangach.

"Mae’n canolbwyntio ar gynyddu cynhyrchiant, masnacheiddio, arloesi a datblygu sgiliau er mwyn sicrhau canolfan i ddiwydiant cystadleuol sy'n ffynnu ac a fydd yn gatalydd ar gyfer twf a swyddi ar draws y gadwyn gyflenwi yng Nglannau Dyfrdwy, gogledd Cymru, y 'Northern Powerhouse' a thu hwnt."

 

Mae Airbus wedi cadarnhau mai nhw fydd tenant angori cyntaf y ganolfan newydd a fydd yn sicrhau buddion dwy ffordd ar gyfer y gadwyn gyflenwi ac yn creu manteision economaidd ehangach. AMRC Sheffield fydd partner arweiniol y cam profi ymchwil a datblygu ar gyfer y dechnoleg adenydd newydd a elwir "Adenydd y Dyfodol". Mae'n cynnwys y prototeip a'r dyluniad, y beirianneg ac arddangoswr adenydd ym Mrychdyn.

Bydd denu'r prosiect ymchwil a datblygu hwn i Gymru yn cefnogi gallu Brychdyn i sicrhau mai yno y caiff yr adenydd newydd hyn eu cynhyrchu yn y dyfodol gan helpu tuag at ddiogelu miloedd o swyddi hyd at 2030.

 

Bydd yr £20miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i’w neilltuo yn cefnogi buddsoddiad cychwynnol o £10miliwn gan bartneriaid y prosiect i ddatblygu’r Athrofa ac i wneud yn fawr o bob cyfle, gan gynnwys ei lleoliad allweddol yng Nghymru a’r ffaith ei bod mor agos i’r ‘Northern Powerhouse’.

 

Mae’r athrofa, a oedd yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, wedi cael ei datblygu gan Fwrdd Cynghori Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, AMRC Sheffield, Prifysgol Abertawe a Choleg Cambria ar y cyd â busnesau bach a chanolig a chwmnïau mawr. 

 

Bydd yr athrofa yn gweithredu fel un endid, wedi'i rhannu rhwng canolfan ymchwil a datblygu blaengar 4,500m2 arfaethedig ym Mrychdyn a chyfleuster rhwydweithio, hyfforddiant, gwerthu a marchnata 1000-1500m2 ger Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. 

 

Bydd y ganolfan yn gyrchfan agored ac yn edrych yn rhagweithiol am bartneriaethau cydweithredol gyda diwydiant a phartneriaid academaidd lleol, er enghraifft Prifysgol Glyndŵr, ac yn rhyngwladol er mwyn sicrhau’r budd mwyaf a chylenwoldebaeth.

Dywedodd Mr Skates: 

"Yng ngoleuni'r ansicrwydd sy'n wynebu busnesau yn dilyn y bleidlais Brexit, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi eu harloesedd a'u gallu i gystadlu. Bydd y cyfleusterau o'r radd flaenaf a ddarperir yn yr Athrofa yn rhoi'r manteision hyn i fusnesau mawr a bach ac yn cynnig ased sylweddol o ran denu buddsoddiad newydd.

"Rwy'n falch iawn mai rhaglen ymchwil a datblygu Adenydd y Dyfodol Airbus fydd y prosiect cyntaf i ddefnyddio'r cyfleuster. Ni ellir pwysleisio ddigon bwysigrwydd sicrhau mai ym Mrychdyn y cynhyrchir y genhedlaeth nesaf o adenydd ac mae'r cadarnhad gan Airbus y byddan nhw’n cael eu datblygu yng Nghymru yn destament i'w gweithlu a'r sectorau gweithgynhyrchu uwch a deunyddiau yng Nghymru."

Meddai Pennaeth y ffatri Airbus ym Mrychdyn, Paul McKinlay, 

"Mae hyn yn hwb sylweddol i Frychdyn a Chymru. Rydym yn enwog drwy’r byd fel canolfan ragoriaeth ar gyfer gweithgynhyrchu adenydd a bydd yr athrofa newydd hon yn ein helpu i ddatblygu'r dechnoleg i allu gweithgynhyrchu adenydd y dyfodol a pharhau yn aelod pwysig o deulu Airbus."  

Dywedodd David Jones, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Cambria a Chadeirydd Bwrdd Cynghori Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy: 

"Mae'r Bwrdd, sy'n cynnwys arweinwyr busnes lleol, wedi gweithio'n agos â busnesau bach a mawr i ddatblygu cysyniad yr athrofa.

"Gall bron pob diwydiant sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu uwch gael ei gefnogi mewn perthynas â chynnyrch, prosesau ac effeithlonrwydd, naill ai o ran sgiliau neu ymchwil a datblygu." 

  

Caiff Bwrdd Datblygu o dan arweiniad Cyfarwyddwr Datblygu ei benodi cyn hir a bydd yn cynnal profion ‘diwydrwydd dyladwy’ ffurfiol ac yn penderfynu’n derfynol ar y gofyn diwydiannol. Bydd hynny’n cadarnhau manylion a lleoliad y cyfleusterau hynny erbyn haf 2017.