Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, heddiw ei Pholisi Adnoddau Naturiol newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r polisi'n gosod allan tair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer rheoli'n hadnoddau naturiol fudd yn ein helpu i wireddu'n holl amcanion llesiant er lles cymunedau a'n heconomi, yn ogystal â gwella'r amgylchedd.

Dyma'r blaenoriaethau: 

  • sicrhau atebion sy'n seiliedig ar natur 
  • cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy a defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon; a
  • gweithredu mewn ffordd sy'n seiliedig ar leoedd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, trwy ganolbwyntio ar feysydd allweddol, byddwn yn gallu mynd i'r afael â'r heriau sy'n effeithio ar ein hadnoddau naturiol a sicrhau'r manteision lu y maen nhw'n eu darparu er ein lles a'n ffyniant fel gwlad. Daw hynny'n bwysicach wrthi inni geisio diffinio lle Cymru yn y byd ar ôl Brexit.

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae'n hadnoddau naturiol o bwys i bawb ac mae gan bawb ran i'w chwarae wrth inni sicrhau bod yr adnoddau hynny'n cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy. Rydym yn ffodus yma yng Nghymru gan fod gennym adnoddau naturiol helaeth a thirweddau hardd.  Maent yn gwbl ganolog i'n llesiant, ac maent hefyd yn cefnogi'n hiechyd, ein bywoliaeth a'n diwylliant llewyrchus.   Ond ni allwn gymryd hyn oll yn ganiataol. Mae'r newid yn yr hinsawdd, dirywiad yn ein bioamrywiaeth a'n hecosystemau a ffactorau eraill i gyd yn sbarduno newid, gyda chanlyniadau real iawn i'n cymunedau.

“Mae gweithio gyda natur a defnyddio’n hadnoddau naturiol mewn ffordd fwy effeithlon yn esgor ar fanteision hollbwysig − llai o lygredd, llai o wastraff a llai o effaith. O’u rheoli yn y ffordd orau bosibl, byddwn yn helpu'n cymunedau ac yn helpu’n hunain i fod yn gystadleuol yn y dyfodol, gan greu swyddi a chyfleoedd i fusnesau yng Nghymru.

“Yn y pen draw, dim ond drwy gydweithio y gallwn fynd ati i wireddu'r blaenoriaethau cenedlaethol yng nghyd-destun anghenion a chyfleoedd lleol.”

Y Polisi Adnoddau Naturiol fydd sylfaen ein gwaith ar draws y llywodraeth. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal nifer o ymweliadau yr wythnos hon fydd yn dangos mor eang yw cwmpas y Polisi Adnoddau Naturiol a'i flaenoriaethau ym meysydd ffermio, cynhyrchu ynni, y môr a physgodfeydd.