Neidio i'r prif gynnwy

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi £4.5m dros y tair blynedd nesaf i gynnal amcanion a gweithgareddau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi £4.5m dros y tair blynedd nesaf i gynnal amcanion a gweithgareddau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru.

Mae’r Cynllun Gweithredu’n rhan o Raglen Lywodraethu a Chytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru

Mae rhagor na £2.8m wedi’i rannu rhwng 22 o gyrff diwylliant, treftadaeth a chwaraeon lleol, rhanbarthol, cenedlaethol ac annibynnol ledled Cymru.

Mae pob un o’r prosiectau sy’n derbyn nawdd yn rhoi sylw arbennig i gynhyrchu ar y cyd, ac ymrwymiad i roi lle canolog i brofiadau byw wrth ddatblygu a chynnal polisïau a gwasanaethau.

Meddai’r Dirprwy Weinidog:

“Mae angen i’n hamgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd, theatrau a chanolfannau chwaraeon cenedlaethol a lleol fod yn gynhwysol i bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a’u lleoedd. Mae angen i’n gwasanaethau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon feddu ar gymhwysedd diwylliannol ac adlewyrchu hanes pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a’u cyfraniad at gymdeithas Cymru.

“Rwyf wedi ymrwymo i wireddu amcanion Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru ac ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu sydd yn fy mhortffolio.  Rwy’n disgwyl ymlaen at barhau i weithio at sicrhau newid ystyrlon gyda help pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru a throstynt.”

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Sian Gwenllian:

"Wrth lansio Cynllun Gweithredu Gwrth Hiliaeth Cymru, fe wnaethom ymrwymo i gymryd camau clir a phwrpasol i wireddu ein gweledigaeth. Mae'r arian hwn yn gam pwysig tuag at wireddu'r weledigaeth a nodwyd yn y cynllun, ac mae ehangder y sefydliadau ledled Cymru a ddyfarnwyd gyllid iddynt yn adlewyrchu cyfle cyffrous i ymgorffori newid drwy'r holl brosiectau a mentrau a fydd yn cael eu cefnogi.

"Gall chwaraeon a'r celfyddydau fod yn ffyrdd pwerus i greu newid ystyrlon wrth i ni ymdrechu i gyrraedd ein gweledigaeth am Gymru wrth-hiliol. Rwy'n falch ein bod, drwy'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi gallu ariannu cymaint o gynlluniau ym mhob rhan o Gymru."

Ymwelodd y Dirprwy Weinidog â Monlife Heritage yn y Fenni a Thŷ Pawb yn Wrecsam, i glywed sut y byddan nhw’n defnyddio’r arian newydd.

Mae MonLife Heritage wedi derbyn arian i ddehongli casgliadau’n well fel eu bod yn adrodd storïau cymhleth yn onest, yn disgrifio’u cysylltiadau â chaethwasiaeth, ymerodraeth a gwladychiaeth yn well ac yn deall eu heffaith ar gymunedau ddoe a heddiw.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy ar faterion Cymunedau Cynhwysol a Gweithgar:

"Rydym yn falch o fod yn rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Mae sicrhau bod ein casgliadau treftadaeth yn wirioneddol gynrychioliadol ac yn adlewyrchu ein cymuned amrywiol yn bwysig iawn.

"Rydym yn benderfynol y dylai holl leoedd diwylliant, celfyddydau a chwaraeon Sir Fynwy fod yn lleoedd cynhwysol ac yn adlewyrchu cyfraniad aruthrol aelodau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig y gymuned. Rydym yn ddiolchgar am gyllid gan Lywodraeth Cymru a fydd yn galluogi MonLife Heritage yn Amgueddfa Y Fenni ac Amgueddfa Cas-gwent i barhau â'r gwaith hwn."

Mae Tŷ Pawb wedi cael help i ddatblygu’r Hyb Amlddiwylliannol sydd newydd ei sefydlu a bydd yr arian yn cefnogi Gofod Celf Defnyddiol Tŷ Pawb ar gyfer cynnal amrywiaeth o weithgareddau o dan arweiniad cymunedau amrywiol Wrecsam. Y rheini sy’n cymryd rhan fydd yn eu llywio a byddant yn cynnwys crefftau, cerdd a dawns, prosiectau bwyd, dathliadau diwylliannol a gweithgareddau cyffrous eraill.

Dywedodd y Cyng Hugh Jones, Aelod Arweiniol CBDW sy’n gyfrifol am Dŷ Pawb:

"Mae clywed ein bod wedi cael y grant yn newyddion gwych a bydd yn allweddol i’n helpu i roi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru ar waith.

“Bydd yr arian yn cefnogi’r gwaith partneriaeth rhagorol sy’n cael ei wneud gan Dŷ Pawb, ein tîm Cydlynu Cymunedol a Race Council Cymru i estyn allan at grwpiau cymunedol amrywiol lleol a rhanbarthol a’u grymuso i arwain a manteisio ar gyfleoedd mewn diwylliant, y celfyddydau, treftadaeth a chwaraeon.

“Hoffwn ddymuno pob hwyl i’r timau gyda’r prosiect a dwi’n disgwyl mlaen at weld datblygiad HYB Amlddiwylliannol newydd peilot y Gogledd.”

Mae £1.67m wedi’i neilltuo i gyrff lled braich diwylliannol a chwaraeon Llywodraeth Cymru.

Bydd Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru,  Chwaraeon Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn defnyddio’r arian i ddatblygu rhaglenni gweithgarwch hen a newydd i hwyluso’u gwaith ar atal hiliaeth ar y lefel genedlaethol.

Bydd yr arian i Chwaraeon Cymru’n rhoi sylw arbennig i ddatblygu a chynnal hyfforddiant mewn gwrth-hiliaeth dros gyfnod o dair blynedd. Bydd yr arian i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn cefnogi nifer o brosiectau gan gynnwys Cymunedau Cymru sy’n adrodd storïau trwy lygaid pobl sydd wedi symud i Gymru.  Ac mae’r arian i Amgueddfa Cymru yn rhoi cyfle i fudiadau, unigolion ac artistiaid cymunedol i gyd-ddylunio rhaglenni a digwyddiadau diwylliannol.

Bydd yr arian i Gyngor Celfyddydau Cymru yn ei gwneud yn bosibl penodi mwy o ymarferwyr creadigol Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a bydd yr arian i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ddatblygu prosiect 'Lleoedd rydyn ni'n eu Cofio' sy'n cofnodi treftadaeth cymunedau Asiaidd Cymru yng Nghymru.

Dyfyniadau ychwanegol:

Dywedodd yr Athro Uzo Iwobi CBE – Sylfaenydd a Phennaeth Race Council Cymru:

“Mae Race Council Cymru yn hynod falch bod Hyb Amdlddiwylliannol Wrecsam wedi gweithio gyda’i bartneriaid i gynnig menter ardderchog a fydd yn gwneud byd o wahaniaethau i fywydau ein cymunedau ethnig ar lawr gwlad ac ar y rheng flaen.  Rydyn ni’n disgwyl ymlaen at weld y gweddnewid a ddaw gyda’r grant hwn.”

Dywedodd Iolanda Viegas – Race Council Cymru, Cynrychiolydd y Gogledd:

"Rydyn ni wedi’n gwefreiddio ac yn ddiolchgar iawn am yr arian hwn fydd yn helpu’r Hyb Amlddiwylliannol i weithio gyda chymunedau amrywiol y Gogledd."