Heddiw (Dydd Iau 18 Chwefror) mae ffigurau mwy cywir ar amseroedd aros sy'n dangos yr amser gwirioneddol a gymerir o’r adeg yr amheuir bod ar bobl ganser nes iddynt gael triniaeth.
Dyma'r tro cyntaf y mae ffigurau’r Llwybr lle'r Amheuir Canser (SCP) yn cael eu hadrodd o system newydd sy'n casglu data ar lefel y claf.
Gan fod SCP yn darparu arhosiadau mwy cywir yn achos cleifion mae'r hen fesurau o Achosion brys o Ganser a Amheuir (USC) ac Achosion o Ganser a Amheuir nad ydynt yn Rhai Brys (NUSC) yn dod i ben.
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i adrodd ar amseroedd aros canser fel hyn. Mae'r llwybr wedi'i gynllunio i dorri amseroedd aros ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser a'r nod yw y bydd pob claf yn dechrau triniaeth heb fod yn fwy na 62 diwrnod o'r tro cyntaf yr amheuir bod canser arnynt.
Cafwyd datganiad ynghylch y dull gweithredu symlach ym mis Tachwedd 2018 ac fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf ochr â'r hen fetrigau ym mis Awst 2019. Er mis Rhagfyr 2020 ni chaniateir unrhyw addasiadau sy'n golygu bod y SCP yn dangos yr union amser yr arhosodd cleifion.
Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer mis Rhagfyr 2020 yn dangos y canlynol:
- dechreuodd 1,345 o gleifion eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ar y llwybr lle'r amheuir canser ym mis Rhagfyr 2020
- o'r rhain, dechreuodd 882, (65.6 y cant) driniaeth ddiffiniol ar gyfer canser o fewn 62 diwrnod o'r adeg yr amheuwyd bod canser arnynt. Mae hwn yn gynnydd cadarnhaol o 2.1 pwynt canran ers mis Tachwedd 2020 (63.5 y cant)
- cadarnhawyd nad oedd canser ar 7,999 o gleifion
Bydd dangosfwrdd manylach ar gael hefyd o fis Mawrth 2021 a fydd yn dangos rhagor o wybodaeth am amseroedd aros megis aros am yr apwyntiad newydd, aros am y diagnosis cyntaf a dadansoddiad yn ôl Bwrdd Iechyd, rhywedd a safle'r tiwmor.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
Bydd canser yn effeithio ar un o bob dau ohonom yn ystod ein bywyd. Canser yw'r achos unigol mwyaf o farwolaeth cyn pryd yng Nghymru ac fe fydd yn cyffwrdd â bywyd pob un ohonom rywbryd.
Mae'n glir yn ystod y pandemig nad yw llawer o gleifion yr amheuir bod arnynt ganser wedi mynd ar eu meddyg teulu. Mae'n hanfodol bwysig ichi ymweld â'ch Meddyg Teulu cyn gynted â phosibl os oes gennych unrhyw fath o symptomau canser.
Rydyn ni am sicrhau bod pawb yr amheuir bod arno ganser yng Nghymru'n cael mynediad at driniaeth amserol a phriodol a fydd yn sicrhau'r canlyniad gorau posibl, neu'n cael gwybod cyn gynted â phosibl nad oes ganddynt ganser.
Er bod y ffigurau a gyhoeddir heddiw yn is na'r targed o 75 y cant sydd wedi'i bennu, maent yn ffordd llawer mwy cywir o fesur pa mor hir y mae'n cymryd i atgyfeirio canser a amheuir, i ymchwilio iddo ac i driniaeth ddechrau. Gwyddom faint yn rhagor o waith y mae ei angen i wella perfformiad.
Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan a Chadeirydd Cynghrair Canser Cymru:
Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dal i ddefnyddio’r canser a amheuir, sy'n golygu mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU i fesur amseroedd aros ar gyfer canser o'r pwynt yr amheuir canser yn hytrach na'r adeg y daw atgyfeiriad i law.
Mae hyn yn rhoi darlun mwy cywir inni o amseroedd aros gwirioneddol ar gyfer canser ac mae wedi datgelu amseroedd aros cudd, sydd wedi bod yn bwysicach byth yn ystod pandemig y coronafeirws lle y mae sgrinio a diagnosteg ym maes canser wedi cael eu haflonyddu.
Nid yw diagnosis o ganser yn gallu aros felly hoffem annog unrhyw un sydd â symptomau newydd sy'n peri pryder megis peswch cyson, lwmpyn neu waedu anesboniadwy, i gysylltu â'u Hymarferydd Cyffredinol cyn gynted â phosibl.
Gall un sydd am gael gwybodaeth, cymorth neu sgwrs am ganser gysylltu â Macmillan am ddim ar 0808 808 0000.