Heddiw, mae Julie James wedi cyhoeddi'r 14 aelod a fydd yn gweithio ochr yn ochr â'r cadeirydd, Martin Buckle o Bwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Heddiw, mae Julie James wedi cyhoeddi'r 14 aelod a fydd yn gweithio ochr yn ochr â'r cadeirydd, Martin Buckle o Bwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Mae'r unigolion canlynol wedi'u penodi:
- Paul Williams
- Dominic Scott
- Geraint Edwards
- Andrew Stone
- Darren Thomas
- Jeremy Parr
- Mike Wellington
- Paul Blackman
- Catherine Wilson
- Karen Potter
- Jean-Francois Dulong
- Anne-Marie Moon
- Natalie Haines
- Robin Campbell
Disgrifiad o'r rôl a'r sefydliad
Sefydlwyd y pwyllgor yn 2017 o dan ddarpariaeth Deddf yr Amgylchedd (Cymru) ac mae'n rhoi cyngor ar bob agwedd ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, gan gefnogi Gweinidogion Cymru a holl awdurdodau rheoli risg Cymru.
Math o benodiad neu estyniad
Gwnaed y penodiadau hyn yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.
Gwnaed pob penodiad ar sail teilyngdod yn dilyn proses agored, gystadleuol. Nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol.
Bydd y telerau penodi ar gyfer pob aelod am 3 blynedd hyd at fis Mawrth 2026.
Gweithgarwch gwleidyddol
Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, nid oes unrhyw un o’r rhai a benodwyd wedi cael eu cyflogi gan blaid wleidyddol, wedi dal swydd arwyddocaol mewn plaid, wedi sefyll fel ymgeisydd dros blaid mewn etholiad, wedi siarad yn gyhoeddus ar ran plaid wleidyddol, nac wedi darparu rhoddion neu fenthyciadau arwyddocaol i blaid.