Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford wedi cyhoeddi enwau saith aelod newydd o'r Grŵp Cynghori ar Ewrop heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Grŵp, dan gadeiryddiaeth Mr Drakeford, yn darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ar yr heriau a’r cyfleoedd sy'n codi wrth i'r DU ymadael â'r UE. Cafodd ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2016, yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE ym mis Mehefin, ac fe gynhaliwyd y cyfarfod cyntaf fis Medi 2016.

Mae'r Grŵp Cynghori ar Ewrop yn dod â phobl sydd â phrofiad a dealltwriaeth fanwl o faterion Ewropeaidd ynghyd, gan gynnwys Aelodau Senedd Ewrop, arweinwyr busnes a chynrychiolwyr prifysgolion, colegau, undebau llafur, amaethyddiaeth, gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector.

Dyma'r aelodau newydd:

  • Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio
  • Dr Chris Jones, Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru 
  • Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, y cyn Arglwydd Brif Ustus
  • Alison Lea-Wilson, cyd-sylfaenydd Halen Môn Salt
  • Alec Don, Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau
  • Dr Jo Hunt, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Y Farwnes Ilora Finlay o Landaf, Tŷ'r Arglwyddi 

Dywedodd Mark Drakeford:

"Fe gafodd yr aelodau newydd eu recriwtio am eu harbenigedd mewn meysydd a fydd yn wynebu newid anochel yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r materion sy'n codi yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd yn mynd ymhell y tu hwnt i fuddiannau unrhyw blaid neu Lywodraeth. Does dim modd i unrhyw unigolyn neu blaid hawlio monopoli ar syniadau da, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael manteisio ymhellach ar gyngor y grŵp hwn.”