Heddiw mae Alun Davies wedi croesawu adroddiad terfynol yr adolygiad o gynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.
Fis Mehefin y llynedd, comisynwyd adolygiad annibynnol o swyddogaeth cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.
Gofynnwyd i banel o arbenigwyr, dan gadeiryddiaeth y cyn Aelodau Cynulliad Gwenda Thomas a Rhodri Glyn Thomas, edrych ar swyddogaeth cynghorau Cymuned a Thref yn awr ac yn y dyfodol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Panel wedi cynnal proses ymgysylltu helaeth â’r sector, rhanddeiliaid a’r cyhoedd er mwyn dod i ddeall beth yw’r ffordd orau o wasanaethu cymunedau Cymru drwy’r haen hon o ddemocratiaeth. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau drwy’r wlad, gan gyhoeddi arolygon penodol a gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig.
Mae’r Panel wedi cyflwyno ei adroddiad terfynol i Lywodraeth Cymru heddiw. Un o’i argymhellion yw y dylid gwneud yn siŵr bod pob ardal yng Nghymru yn cael ei gwasanaethu gan Gyngor Cymuned neu Gyngor Tref a bod cynghorau’n cael eu sefydlu mewn ardaloedd lle nad oes rhai ar hyn o bryd. Mae’n argymhell hefyd mai cynghorau Cymuned a Thref ddylai fod yn gyfrifol am bob gwasanaeth sy’n seiliedig ar leoedd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies:
“Y cynghorau Cymuned a Thref sydd wrth wraidd ein trefn lywodraethu yng Nghymru – nhw yw sylfaen democratiaeth leol a’r haen agosaf at ein dinasyddion. Dylent fod yn atebol i’r bobl leol a chynrychioli buddiannau gwahanol rannau o’r gymuned mewn ffordd gyfartal.
“Hoffwn ddiolch yn swyddogol i’r Panel am gyflawni ei ddyletswyddau mewn modd mor gydwybodol ac adeiladol. Byddaf yn mynd ati nawr i ystyried argymhellion y Panel ac i farnu sut y gallwn ni ddefnyddio’r gwerthusiad trylwyr hwn o gynghorau tref a chymuned i helpu ein hamcanion ar gyfer democratiaeth fodern yng Nghymru.”
Dywedodd Gwenda Thomas,
“Ry’n ni’n teimlo ein bod, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi cynnal adolygiad sydd wedi’i seilio’n wirioneddol ar dystiolaeth. Cafwyd dros fil o gysylltiadau â’r cyhoedd, gan gynnwys mwy nag 800 o ymatebion i’n harolygon penodol – a mwy na 100 o’r rheini gan bobl ifanc. Mae’r safbwyntiau hynny wedi llywio ein canfyddiadau a’n hargymhellion. Mae’n bosib y bydd rhai ohonynt yn ymddangos yn radical, ond yn ein tyb ni maen nhw’n dangos y cyfleoedd sydd ar gael i gynghorau tref a chymuned yng Nghymru.”
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas,
“Wrth inni ddysgu oddi wrth y gorffennol a delio â’r presennol, mae cyfrifoldeb arnom hefyd i baratoi cynghorau Cymuned a Thref at y dyfodol. Os ydyn ni am lwyddo i wella llesiant cenedlaethau’r dyfodol, mae gan y cynghorau swyddogaeth allweddol yn hynny o beth – a dylai hynny gael ei gydnabod.”