"Er mwyn cadw pobl yn ddiogel rhag tân, mae'n rhaid inni deall ac ymateb i'r newidiadau i'r risgiau sy'n gallu achosi tân, yn enwedig yn y cartref."
Dyna eiriau Ysgrifennydd y Cabinet dros Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies wrth iddo roi diweddariad ar adroddiad newydd ynghylch cynnydd diweddar yn nifer y tanau domestig dosbarthu trydanol.
Mae nifer y tanau yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers tro, ac erbyn hyn maent ar eu hisaf erioed. Er mwyn sicrhau bod y duedd honno'n parhau, rhaid cael dealltwriaeth lawn o'r newid i risgiau tân, a rhaid i'n Gwasanaethau Tân ac Achub weithredu i fynd i'r afael â'r risgiau hynny. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos tanau yn y cartref, sy'n cyfrif am y mwyafrif o farwolaethau ac anafiadau o dân.
Y llynedd, fe wnaethom ganfod tuedd sy'n achosi pryder o ran tanau domestig dosbarthu trydanol - er enghraifft y rheini sy'n dechrau mewn ceblau, socedi, mesuryddion a blychau ffiwsiau. Yn wahanol i ffynonellau hysbys eraill o danau mewn anheddau, mae'r rhain ar gynnydd cyson. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i ymchwilio i'r cynnydd hwn ac maen cyhoeddi'r canfyddiadau heddiw.
Dywedodd Alun Davies:
"Er bod y duedd sy'n cael ei hamlygu gan yr adroddiad hwn yn achosi pryder, mae'r risg yn parhau'n isel ar y cyfan.
"Roedd llawer o'r tanau a gafodd eu dadansoddi yn yr adroddiad hwn wedi digwydd yn y De, ac mae hyn yn adlewyrchu dosbarthiad poblogaeth Cymru. Nid yw'n awgrymu unrhyw feirniadaeth o gwbl o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Yn y De a gweddill y wlad, mae nifer y tanau mewn cartrefi yn gostwng ar y cyfan, ac rwy'n disgwyl i'r Gwasanaeth Tân weithredu ar y sylwadau yn yr adroddiad hwn er mwyn helpu i gynnal y duedd honno."
Wrth wneud sylwadau am yr adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr yr elusen diogelwch blaenllaw Electrical Safety First, Phil Buckle:
"Rydyn ni'n canmol nod Llywodraeth Cymru o bennu'r hyn sy'n achosi tanau trydanol ar hyd a lled y wlad - yn enwedig ei phwyslais ar wella'r broses o gasglu data.
"Fodd bynnag, mae'r ymchwil hyd yn hyn wedi codi cwestiynau ychwanegol a thynnu sylw at y ffaith bod angen gwneud mwy o waith i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ymysg y cyhoedd. Mae Electrical Safety First wedi ymrwymo i weithio gyda'r Llywodraeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch trydanol a sicrhau bod pobl yn gallu cadw eu hunain, eu teuluoedd a'u cartrefi'n ddiogel."
Mae modd i bobl gadw eu cartrefi'n ddiogel rhag y mathau hyn o danau drwy ddilyn y rheolau syml hyn:
- Peidiwch â gorlwytho cylchedau na defnyddio addaswyr sy'n cynnwys sawl plwg - un offeryn trydan yn unig ar gyfer pob soced ar y wal. Os oes rhaid i chi ddefnyddio gwifrau estyn sy'n cynnwys sawl soced, sicrhewch fod gan bob un ffiws ei hun.
- Peidiwch â cheisio cynnal a chadw neu addasu gosodiadau trydanol, na gosod offerynnau sefydlog fel cawodydd, gwresogyddion stôr neu boptai eich hun. Cyflogwch drydanwr cymwys i wneud y gwaith.
- Os oes gennych flwch ffiws hen ffasiwn, dylech gael un modern yn ei le sy'n defnyddio torwyr cylchedau. Peidiwch byth â cheisio newid ffiws eich hun.
- Cyflogwch drydanwr cymwys bob tua pum mlynedd i wirio eich gosodiadau trydan i gyd.