Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad diweddaru ar y cynnydd rydym wedi'i wneud i esblygu caffael sector cyhoeddus Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hyn i raddau helaeth yn codi o'r adroddiad a gyhoeddwyd gennym fis Mawrth diwethaf yn nodi'r cynnydd a wnaed i gyflawni Datganiad Ysgrifenedig Caffael 2018 ac ymrwymiadau maniffesto'r Prif Weinidog, yn ogystal ag amlinellu'r daith yr oedd y proffesiwn caffael arni.

Bu'n rhaid i'r proffesiwn addasu i ganlyniadau pellgyrhaeddol ymadawiad y DU â'r UE a phandemig Covid-19 ond mae'r daith wedi parhau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r adroddiad ar gael yma.

Wrth groesawu’r adroddiad, mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig sydd ar gael yma.