Mae Gweithgor Tirweddau'r Dyfodol o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi cyhoeddi adolygiad o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Sefydlwyd y Grŵp i ystyried argymhellion Adroddiad Marsden ar ddyfodol tirweddau dynodedig Cymru.  Cyflwynwyd 69 o argymhellion i gyd, amrywiol iawn eu cwmpas.

Mae'r adroddiad yn dweud mai'r tirweddau dynodedig ddylai rhoi arweiniad ynghylch sut i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn eu hardaleodd, gan bwysleisio mor bwysig yw cydweithio yn hyn o beth.

Mae'n argymell bod Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r holl dirweddau dynodedig yn rhoi help a chefnogaeth i reolwyr tirweddau eraill ledled Cymru, gan gynnwys perchenogion tir, ffermwyr a'r gymuned wledig ehangach, ar bynciau fel bioamrywiaeth, mynediad a gwarchodaeth, er mwyn i gymdeithas gyfan gael elwa'n llawn ar ein tirweddau.

Mae'r adroddiad yn cydnabod yr heriau a ddaw yn sgil gadael yr UE, gyda chymaint o ddeddfwriaeth amgylcheddol Cymru'n seiliedig ar gyfraith yr UE ac ansicrwydd ynghylch dyfodol y cymorthdaliadau i amaethyddiaeth.  Hyn oll ar adeg pan fo angen inni weithredu i gryfhau'n hecosystemau. Mae'n dod i'r casgliad bod angen gwir bartneriaeth arnom i gael y canlyniad gorau i Gymru.

Dywedodd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas:

"Mae'r gweithgor wedi bod yn pwysleisio'r angen o'r dechrau'n deg am Bartneriaeth sy'n cynnwys pawb o awdurdodau'r parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, o amaethyddiaeth a busnesau twristiaeth, mudiadau gwirfoddol ac ymddiriedoalethau, gyda phawb yn cyfrannu'n gyfartal at y drafodaeth.

"Yr egwyddor sylfaenol sy'n llywio'n gwaith yw peidio ag edrych ar dirweddau dynodedig fel ardaloedd ar wahân eithriedig, ond fel rhan arbennig a all gyfrannu at arfer da ar gyfer gweddill tirwedd y wlad."

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried a oes angen newid deddfwriaeth i roi mwy o bwys ar yr ardaloedd hyn a'u hecosystemau wrth wneud penderfyniadau, yn ogystal a chyflwyno pwyntiau adolygu ffurfiol ar gyfer trefniadau llywodraethu hen a newydd i sicrhau eu bod yn ateb eu diben.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Mae tirwedd Cymru yn rhan anferthol o'n hunaniaeth ac yn ased cenedlaethol pwysig. Mae'n denu twristiaeth, hamddena yn yr awyr agored a gwaith lleol. Mae'n cyfrannu at wella'n hiechyd a'n lles ac mae ganddo botensial aruthrol ar gyfer datblygu atebion ynni gwyrdd.

"Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod yn gwneud y gorau o'n tirwedd eiconig. Mae yna lawer y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd wrth inni chwilio'n ffordd tuag at ddyfodol y tu allan i'r UE.

“Hoffwn ddiolch i'r gweithgor am yr adroddaid. Y cam nesaf yw gwireddu’r uchelgais hwn, nid ar ein pen ein hunain, ond gyda’n gilydd mewn partneriaeth."