Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £9 miliwn ar gael i helpu canol trefi ddod at ei hunain wedi’r coronafeirws. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi y bydd £5.3 miliwn o’r rhaglen Trawsnewid Trefi yn cael ei ddefnyddio i ariannu addasiadau i ganol trefi i gefnogi masnachwyr a sicrhau bod y cyhoedd yn fwy diogel mewn ymateb i’r coronafeirws. Mae £3.7 miliwn arall o gyllid Tasglu’r Cymoedd yn cael ei fuddsoddi i wella canol trefi bach yn y Cymoedd.

Yn ystod ymweliad â’r Rhyl, dywedodd Hannah Blythyn y bydd y cyllid cyfalaf gwerth £5.3 miliwn yn cael ei addasu at ddibenion gwahanol o’r rhaglen Trawsnewid Trefi, ac yn cael ei ddefnyddio i ariannu addasiadau i ganol trefi i hwyluso masnachu a diogelwch y cyhoedd mewn ymateb i’r coronafeirws. Bydd hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i; gysgodlenni awyr agored, byrddau a chadeiriad awyr agored, gwresogi awyr agored, sgrinio awyr agored, bolardau, blychau planghigion, cynlluniau seilwaith gwyrdd bychain, cyflenwad trydan a goleuo lleoliadau masnachu awyr agored a defnyddio adeiladau gwag dros dro a sefydlu marchnadoedd lleol. 

Yn ystod yr ymweliad gwelodd y Dirprwy Weinidog drosto ei hun sut y caiff cyllid Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau seilwaith Gwyrdd y Rhyl ac i wella diogelwch ac amdoau gan gynnwys rhwystro parcio er mwyn cael mwy o le i gerddwyr a beicwyr gadw pellter cymdeithasol ac i wella teithio cynaliadwy ac actif. Mae’r Rhyl eisoes yn elwa o fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys cyllid ar gyfer adnewyddu yr hen Costigans sydd bron ei gwblhau i ddarparu llety busnes o safon uchel. 

Bydd y cyllid gwerth £9 miliwn yn ategu’r cymorth arall sy’n targedu adferiad canol trefi gan gynnwys:

  • £15.4 miliwn o’r gronfa Trafnidiaeth Leol Gynaliadwy i gynnig seilwaith actif a chynaliadwy gwell i’w wneud yn fwy diogel a haws i bobl deithio o amgylch eu trefi lleol
  • Cyllid i gefnogi costau rhedeg yr Ardaloedd Gwella Busnes am dri mis

Meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Mae pawb yn gwybod bod canol trefi yn wynebu heriau enfawr yn dilyn COVID-19 ond rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod canol trefi yng Nghymru nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu. Mae buddsoddi yng nghanol ein trefi mor berthnasol ag erioed ond gan nad ydym yn gwybod eto am yr effaith a gaiff y coronafeirws ar ganol ein trefi, mae’n hanfodol bod unrhyw gamau yn y tymor byr yn cael effaith hirdymor ac yn gwella golwg a theimlad canol ein trefi. 

Dyna pam yr wyf yn cyhoeddi y bydd £5.3 miliwn ar gael yn ystod gweddill 2020-21 i ariannu addasiadau ar gyfer canol trefi, fydd yn hwyluso masnachu a diogelwch y cyhoedd mewn ymateb i’r coronafeirws. Bydd hyn yn cynnwys pethau fel byrddau a chadeiriau awyr agored, cysgodlenni a blychau planhigion i sicrhau bod ardaloedd ar wahân ac yn ddiogel, ac y gall busnesau weithredu o dan y gofynion pellter cymdeithasol presennol. Bydd y camau hyn yn rhoi teimlad o lesiant, diogelwch a hyder i annog pobl i ddychwelyd i’r stryd fawr. 

Wrth inni gynllunio i ail-agor ein mannau cyhoeddus a chanol ein trefi, mae gennym gyfle unigryw i ail-ystyried ac ail-ddychmygu canol ein trefi fel yr hoffem iddynt fod – yn wyrddach, glanach, wedi’u cysylltu’n well.

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Chadeirydd Tasglu’r Cymoedd:

Mae’r Cyllid gwerth £3.7 miliwn o Dasglu’r Cymoedd yn canolbwyntio ar alluogi cymunedau yn y rhanbarth i weithio’n agosach at adref o fewn canol trefi drwy leoliadau cydweithio a gwelliannau cynaliadwyedd a theithio llesol.

Bydd hyn yn hanfodol wrth gefnogi y stryd fawr yn ein trefi llai yn ogystal â chreu ein heconomi sylfaenol.

Nid oes amheuaeth bod y coronafeirws wedi rhoi pwysau a heriau na welwyd mo’u tebyg ar ddyfodol ein heconomi, ond mae hefyd wedi rhoi cyfle i ail-ddychmygu sut yr ydym nid yn unig am weld adferiad, ond i greu rhywbeth gwell. Bydd cyhoeddiad heddiw yn allweddol i hynny ac yn helpu i sicrhau bod ein trefi yn goroesi ac yn ffynnu ymhell i’r dyfodol.

Meddai y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:

Dwi’n croesawu’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cymorth hwn yn helpu canol ein trefi ledled Cymru wrth inni barhau gyda’n hadferiad wedi’r coronafeirws.

Mae pob tref yn Sir Ddinbych yn ei chael yn anodd yn ystod y cyfnod hwn ac mae cefnogi canol trefi a busnesau yn parhau yn flaenoriaeth i’r Cyngor. 

Mae ein cynlluniau ar gyfer y cyfnod adfer yn golygu creu canol trefi gwyrddach, glanach sydd wedi’u cysylltu’n well tra’n cefnogi busnesau a sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Meddai Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol FSB Wales ac aelod o Grŵp Gweithredu Gweinidogol Canol Trefi:

Mae FSB yn falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru yn creu’r gronfa hon, ac wedi cydnabod yr heriau sy’n cael eu hwynebu gan fusnesau yng nghanol trefi, yn enewdig wrth iddynt ymdopi â phroblemau presennol y pandemig, ac rydym yn croesawu’r gronfa yn fawr. Yn ein hadroddiad diweddar ‘Ar Agor am Fusnes’ bu inni nodi rhai o’r heriau hyn a hefyd rhai o’r cyfleoedd i’w goroesi ac mae’r gronfa hon yn rhoi’r cyfle i wireddu’r cyfleoedd hyn ar draws ein cymunedau.

Mae’n bwysig bod y gronfa hon yn cael ei chefnogi gan fusnesau yn ymuno gyda phartneriaid cymunedol a’r sector cyhoeddus i nodi sut y gallai cydweithredu helpu canol trefi i oroesi wedi’r pandemig hwn a chynllunio llwybr y tu hwnt iddo, gan gydnabod y tueddiadau hirdymor sy’n llunio ein trefi. Gall y gronfa hon fod yn gatalydd i rai o’r sgyrsiau a’r partneriaethau hyn yn lleol.

Daw y cyhoeddiad ddiwrnod cyn yr ail gyfarfod gyda Grŵp Gweithredu Gweinidogol Canol Trefi. Mae’r grŵp, a sefydlwyd gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn anelu at benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio y cronfeydd presennol a blaenoriaethu camau ac adnoddau pellach i hybu canol trefi yn y tymor byr a hwy.