Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi heddiw (16 Rhagfyr) y bydd cyfyngiadau lefel uwch yn dod i rym i reoli cyfraddau’r coronafeirws, sy'n cynyddu’n gyflym ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cadarnhaodd y Prif Weinidog heddiw fod y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd yn cyfateb i’r meini prawf yn y cynllun ‘goleuadau traffig’ newydd Cynllun Rheoli’r Coronafeirws sy’n golygu symud i lefel rhybudd 4.  

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i Gymru gyfan.

  • Bydd pob busnes manwerthu nad yw’n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos, a phob canolfan hamdden a ffitrwydd, yn cau ddiwedd y diwrnod masnachu ar Noswyl Nadolig.
  • Bydd pob safle lletygarwch yn cau o 6pm Ddydd Nadolig.
  • Bydd cyfyngiadau llymach ar gymysgu rhwng aelwydydd, aros gartref, llety gwyliau a theithio yn dod i rym o 28 Rhagfyr, ar ôl cyfnod pum niwrnod y Nadolig.

Anogodd y Prif Weinidog bawb sy'n gallu gweithio gartref i wneud hynny, gan ddweud ei fod yn un o'r cyfraniadau pwysicaf y gallwn i gyd ei wneud i reoli lledaeniad y coronafeirws ac achub bywydau.

Dywedodd Mark Drakeford:

"Mae cyfraddau’r coronafeirws mewn rhai rhannau o'r wlad wedi cyrraedd lefelau nad ydym wedi’u gweld o’r blaen yn ystod y pandemig hwn. Mae'r pandemig yn rhoi straen ddwys a pharhaus ar ein Gwasanaeth Iechyd.

"Mae mwy na 2,100 o bobl â symptomau coronafeirws yn ein hysbytai – sy'n gyfystyr â chael pum ysbyty cyffredinol yn llawn oherwydd cleifion Covid-19.

"Mae eleni wedi bod yn flwyddyn hir ac anodd iawn. Mae angen inni gymryd y camau hyn i achub bywydau a rheoli lledaeniad y feirws ofnadwy hwn."

Cynhaliwyd cyfarfod rhwng pedair llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw i gadarnhau'r trefniadau cyffredin ar gyfer cyfnod pum niwrnod y Nadolig. Cyhoeddir cyngor ar y cyd yn ddiweddarach heddiw.

Yng Nghymru, dim ond dwy aelwyd fydd yn cael dod at ei gilydd i ffurfio swigod Nadolig unigryw yn ystod y cyfnod hwnnw.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

Mae Nadolig llai yn Nadolig mwy diogel. Mae Nadolig byrrach yn Nadolig mwy diogel.

"Po leiaf o bobl rydyn ni'n cymysgu â nhw yn ein cartrefi, y lleiaf o siawns sydd gennym o ddal neu ledaenu'r feirws.

"Does yr un ohonom eisiau bod yn sâl y Nadolig hwn. A dydyn ni ddim eisiau rhoi’r coronafeirws i'n teulu agos na'n ffrindiau."

Bydd y cyfyngiadau lefel rhybudd 4 ar gymysgu rhwng aelwydydd, aros gartref, llety gwyliau a theithio yn dod i rym ar ôl cyfnod pum niwrnod y Nadolig ar 28 Rhagfyr.