Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Roedd Gweinidogion Cymru o’r un farn bod angen cyfyngiadau cryfach yng Nghymru yn ystod y cyfnod hyd at y Nadolig gan fod y dystiolaeth yn dangos cynnydd yn nifer yr achosion. Petai hyn yn cael parhau heb weithredu, mae perygl y gallai nifer yr achosion lethu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae gwaith modelu gwyddonol hefyd yn dangos bod modd rheoli lledaeniad y feirws drwy ddefnyddio ymyriadau nad ydynt yn rhai fferyllol, yn enwedig os caiff hyn ei wneud yn gynnar. Byddai gostwng y cyfraddau trosglwyddo yn golygu bod modd inni fynd i gyfnod y Nadolig gyda llai o achosion oherwydd bydd hyn yn lleihau’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â chymysgu rhwng cenedlaethau.

Gallai hyn hefyd liniaru rhywfaint o’r niwed economaidd-gymdeithasol sy’n gysylltiedig â gorfod rhoi cyfnod hirach o gyfyngiadau, a allai fod yn fwy llym, ar waith yn nes ymlaen er mwyn rheoli trosglwyddiad y feirws drachefn.

Penderfynodd Gweinidogion Cymru:

Cymysgu aelwydydd

Cynnal y trefniant presennol sef bod dwy aelwyd yn cael creu un aelwyd estynedig ac mai dim ond yr aelwyd estynedig sy’n cael cwrdd yn y cartref (neu’r ardd)

Cwrdd dan do mewn lleoliadau sy’n cael eu rheoleiddio ac yn yr awyr agored

Cadw'r rheol pedwar

Lletygarwch (tafarndai, bwytai, caffis)

  • Mynnu bod pob safle’n cau am 6pm
  • Gwahardd gwerthu ac yfed alcohol bob amser 

Adloniant ac atyniadau i ymwelwyr

Gorfodi lleoliadau dan do i gau (ac eithrio atyniadau awyr agored) a gwahardd digwyddiadau 

Mannau addoli, priodasau ac angladdau

Mannau addoli yn cael aros ar agor dan y trefniadau cyfredol i addoli ar y cyd gan gadw pellter cymdeithasol.

Priodasau ac angladdau: Caniatáu i seremonïau barhau o dan reolau cadw pellter cymdeithasol (hy cyfyngiad ar sail asesiad risg a’r safle) a chadw’r rheol o hyd at 15 o bobl i ddod at ei gilydd dan do ar gyfer brecwast priodas neu wledd gladdu.

Safleoedd eraill

  • Gwasanaethau Cyhoeddus, siopau nad ydynt yn rhai hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos i aros ar agor
  • Campfeydd, pyllau nofio a chanolfannau hamdden i aros ar agor
  • Llety gwyliau i aros ar agor i bobl yng Nghymru

Gofal plant ac addysg

Gofal plant, ysgolion, sefydliadau AU ac AB i gyd i aros ar agor.

Teithio

Rheoliad i gyfyngu ar deithio yn ôl ac ymlaen i ardaloedd lle ceir lefel uchel o achosion (Haen 3 yn Lloegr, Lefel 3 ac uwch yn yr Alban, Gogledd Iwerddon i gyd) a chyhoeddi canllawiau sy’n cynghori’n gryf na ddylai pobl deithio yn ôl ac ymlaen i ardaloedd Haen/Lefel 2 neu is.

Hysbysiadau Cosb Benodedig

Diwygio’r hysbysiadau cosb benodedig er mwyn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol roi hysbysiadau cosb benodedig os na chydymffurfir â thelerau Hysbysiad Gwella Safle; lleihau’r hysbysiad cosb benodedig am beidio â hunanynysu i £500 a chynyddu’r gosb am drefnu digwyddiad sydd â dros 15 o bobl dan do (ee parti mewn tŷ) neu dros 30 o bobl yn yr awyr agored i £500.

Y cefndir deddfwriaethol

Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 i rym ar 26 Mawrth. Cafodd y rhain eu disodli gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Rhif 3) a (Rhif 4) (Cymru) 2020. Mae’r crynodeb o’r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb hwn yn ddiwygiad i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 a ddaw i rym am 6pm ddydd Gwener 4 Rhagfyr. Dysgwch am y cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.

Adolygu

Mae’r Rheoliadau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd. Bydd yr adolygiad nesaf ar 17 Rhagfyr a phob tair wythnos ar ôl hynny.  

Asesiad o effaith y mesurau ar gydraddoldeb

Mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod y Coronafeirws yn effeithio ar gydraddoldeb mewn ffordd anghymesur. Mae pobl hŷn; dynion; pobl sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig a phobl BAME yn fwy tebygol o ddioddef effaith ddifrifol ar eu hiechyd a marw o’i herwydd.  Bydd rheoli’r feirws a lleihau’r trosglwyddiad yn golygu effeithiau cydraddoldeb cadarnhaol i’r grwpiau hyn. Mae Gweinidogion hefyd yn cydnabod y bydd mesurau i reoli lledaeniad y feirws yn siŵr o arwain at effeithiau anghymesur o ran cydraddoldeb ac y dylai lleihau effeithiau niweidiol ar gydraddoldeb, ar bobl hŷn ac ar hawliau plant fod yn rhan annatod o ddyluniad y drefn newydd a’r broses o ddewis mesurau rheoli a’r fframwaith cymorth.

Mae hi’n bosibl lliniaru’r effeithiau niweidiol mwyaf wrth ddewis mesurau a’r pecyn cymorth a gynigir ond ni fydd modd mynd i’r afael â’r holl effeithiau anghymesur a niweidiol.  Mae rhai o’r effeithiau hynny’n rhai tymor byr ond bydd llawer yn cael effeithiau tymor hirach ac yn gwaethygu anfanteision. 

Gan fod y mesurau a amlinellir uchod yn caniatáu i hyd at bedwar o bobl gwrdd mewn lleoliad wedi’i Reoleiddio neu yn yr awyr agored, ystyrir eu bod yn effeithio’n gadarnhaol ar lesiant economaidd a chymdeithasol pobl a allai fod yn ynysig ac nad oes ganddynt deulu neu ffrindiau agos gerllaw i greu aelwyd estynedig â nhw. Fodd bynnag, nid yw mor hawdd i bobl sydd ar incwm is fforddio mynd allan i gaffi, bwyty neu dafarn, felly ni fydd effaith y polisi mor fanteisiol ac efallai na fydd yr hyblygrwydd sydd ar gael drwy’r polisi ar gael iddynt i’r fath raddau. Ar ben hynny, mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn yfed llai yn ystod y cyfnod pan na fydd busnesau lletygarwch yn cael gwerthu alcohol. Gallai hyn gael effaith fanteisiol ar iechyd yr unigolyn hwnnw ac ar y teulu ehangach. Fodd bynnag, gallai hyn annog rhai unigolion i yfed mwy gartref a fyddai’n arwain at amrywiaeth o effeithiau negyddol posibl ee mwy o drais domestig.

Dylai’r mesurau gael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc gan fod cyfleusterau gofal plant, ysgolion, colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch yn cael aros ar agor. Mae hyn yn arbennig o gadarnhaol i blant a phobl ifanc agored i niwed neu o gefndiroedd difreintiedig gan fod tystiolaeth yn dangos mai nhw sydd wedi dioddef y niwed mwyaf o ganlyniad i gau ysgolion, colegau neu brifysgolion. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y mesurau i reoli’r pandemig wedi effeithio ar deuluoedd, o ran perthynas yn chwalu neu wrthdaro rhwng rhieni ac ati, sy’n deillio o amrywiaeth o densiynau a achosir gan effeithiau cymdeithasol ac economaidd yr argyfwng.

Bydd cadw gwasanaethau cyswllt agos, hamdden a manwerthu ar agor yn effeithio’n gadarnhaol ar fenywod a phobl ifanc sy’n cael eu cynrychioli’n anghymesur yn y sectorau hyn. Dylai caniatáu i ddosbarthiadau ymarfer corff barhau hefyd fod yn gadarnhaol i bobl ar incwm isel gan eu bod yn gallu bod yn fwy fforddiadwy nag aelodaeth campfa. Dylai hyn hefyd fod yn gadarnhaol i fenywod sy’n fwy tebygol na dynion o fynd i wersi ymarfer corff. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau ar letygarwch a’r gofyniad i gau’r sector adloniant (sinemâu, alïau bowlio) yn debygol o effeithio’n negyddol ar fenywod, pobl ifanc a phobl o gymunedau BAME sy’n cael eu cynrychioli’n anghymesur yn y sector.  Mae’n debyg y bydd y teulu ehangach, gan gynnwys plant, yn teimlo’r niwed economaidd.  Yn fwy cyffredinol, mae tystiolaeth (Cyngor Ar Bopeth a’r Resolution Foundation) yn dangos nad yw’r effeithiau ar gydraddoldeb yn disgyn yn gyfartal a bod pobl anabl, gofalwyr, pobl sy’n agored i niwed yn glinigol a phobl ar incwm isel mewn mwy o berygl o gael eu diswyddo. 

Ni fydd cyfyngiadau teithio yng Nghymru. Fodd bynnag, ni cheir teithio i ardaloedd sydd â lefel uchel o’r feirws yn y DU ac oddi yno (Haen 3 yn Lloegr, Lefel 3 ac uwch yn yr Alban, Gogledd Iwerddon i gyd) heb esgus rhesymol.  Mae ein canllawiau’n cynghori’n gryf yn erbyn pob taith nad yw’n hanfodol yn y DU. Er y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant llawer, bydd cyfyngiadau ar deithio yn parhau i gael effeithiau negyddol ar gydraddoldeb. Mae’r rhain yn deillio o gyfyngu ar lle caiff pobl gael gwasanaethau a hamdden ac mewn nifer o achosion bydd yn golygu cyfyngu ar gwrdd â theulu a ffrindiau os ydynt yn byw mewn rhannau eraill o’r DU neu dramor, sy’n gallu arwain at deimlo’n fwy unig ac ynysig. Rhagwelir y gallai hyn gael effaith niweidiol ar bobl BAME, sydd â theulu agos a theulu estynedig sy'n byw mewn rhannau eraill o'r DU a thramor. 

Bydd y Rheoliadau’n effeithio’n gadarnhaol ar grwpiau ffydd oherwydd bydd mannau addoli yn aros ar agor.  

Ystyriaethau ychwanegol ac asesiadau effaith eraill

Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol

Mae’r diwygiadau sydd yn y Rheoliadau hyn yn dal i ddod o dan y prif Reoliadau a Swyddogaethau Rheoliadau Awdurdodau Lleol hawliau unigolion o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a Siarter Hawliau Sylfaenol Ewrop, mae’r Llywodraeth o’r farn bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaenu clefydau heintus a/neu mae’r ymyriad yn cael ei ganiatáu ar y sail ei fod yn ceisio cyflawni nod teg, sef diogelu iechyd y cyhoedd a’u bod yn gymesur.

Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol

Mae goblygiadau’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol wedi cael eu hystyried hefyd. Mae asesiad o'r effaith wedi’i amlinellu isod:

 

Hawliau Dynol

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)

Sut byddwch yn lliniaru’r effeithiau negyddol?

Mae Erthygl 11 o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol yn cydnabod hawl pawb i gael safon byw ddigonol ar ei gyfer ei hun a’i deulu, gan gynnwys cartref a digon o fwyd a dillad, ac i sicrhau bod ei amodau byw yn gwella’n barhaus.

Negyddol: Bydd y gofyniad i gau pob safle lletygarwch ac eithrio gwasanaethau tecawê yn cael effaith negyddol ar y gweithwyr yn y sector hwn. Dyma’r adeg brysuraf o’r flwyddyn i lawer o fusnesau yn y sector a phan fyddai llawer o weithwyr yn disgwyl mwy o gildwrn ar ben eu cyflog.  Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol gan fod llawer o’r gweithwyr yn tueddu i ddod o aelwydydd incwm isel.

Bydd gweithwyr yn y sector yn gweithio llai o oriau ac ni fydd llawer yn gweithio o gwbl gan ei bod yn debygol na fydd llawer o safleoedd ar agor o gwbl. Bydd cyflogeion sy’n gallu elwa o gynllun ffyrlo estynedig Llywodraeth y DU yn colli 20% o’u cyflog a’r rhan fwyaf o’r arian cildwrn (os nad y cwbl) y byddent wedi disgwyl ei gael yn ystod y cyfnod hwn.

Mae bygythiad hefyd o ddiweithdra yn y dyfodol os na fydd y busnes yn hyfyw. 

Bydd yr effaith negyddol yn cael ei lliniaru i raddau gan y pecyn cymorth ariannol a chefnogaeth Llywodraeth y DU.

 

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP)

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) wedi cael ei ystyried yn yr asesiad hwn. Mae’r pecyn o fesurau y cytunwyd arnynt yn effeithio ar yr Erthyglau canlynol:

  • Erthygl 3: Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn.
  • Erthygl 6: Mae gan bob plentyn yr hawl i fywyd, dylai Llywodraethau sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu.
  • Erthygl 14: Mae gan blant yr hawl i feddwl a chredu’r hyn maen nhw’n ei ddewis ac i arfer eu crefydd,
  • Erthygl 23: Mae gan blant anabl hawl i fyw bywyd llawn a gweddus gydag urddas ac annibyniaeth, i'r graddau mwyaf posibl, yn ogystal â chwarae rhan weithredol yn y gymuned. Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi plant anabl a’u teuluoedd.
  • Erthygl 27: Mae gan blant yr hawl i safon bywyd sy’n ddigon da i ymateb i’w hanghenion corfforol a meddyliol. Dylai’r Llywodraeth helpu rhieni na allant fforddio i ddarparu hyn
  • Erthygl 31: Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae ac ymuno mewn ystod eang o weithgareddau

Effeithiau ehangach ar yr economi, cymdeithas a llesiant

Er gwaethaf y cymorth sy’n cael ei gynnig i fusnesau mae pandemig Covid-19 wedi effeithio fwyaf arnynt, mae’r effaith ar fywoliaeth pobl wedi bod yn sylweddol.  Mae’r rheini sydd wedi cael eu taro galetaf yn cynnwys y rheini sydd ar gyflogau is, pobl iau, y rheini sydd â lefelau sgiliau / cymwysterau isel, pobl sydd ag iechyd gwael ac anableddau a phobl o gymunedau BAME. 

Yn gyffredinol bydd pobl yn waeth eu byd pan fydd gofyn i fusnesau gau gan nad yw cynlluniau cymorth estynedig Llywodraeth y DU yn cynnwys incwm llawn blaenorol pobl.  Disgwylir nawr y bydd lefelau diweithdra’n cynyddu ac mae arwyddion clir y bydd effeithiau creithio tymor hir.  

Bydd niwed economaidd tymor byr penodol yn dod i’r amlwg drwy fwy o ddiweithdra, a fydd yn gymesur i'r cyfnod pan fydd pethau ar gau. Maes o law, bydd yr effeithiau hyn yn cael effaith niweidiol ar iechyd ac ar lesiant.  Disgwylir effaith economaidd negyddol sylweddol o ganlyniad i’r gofyniad i gau’r holl safleoedd lletygarwch am 6pm a gwahardd gwerthu alcohol, yn enwedig gan mai’r cyfnod cyn y Nadolig yw un o’r cyfnodau prysuraf yn y flwyddyn yn draddodiadol. Bydd y cyfyngiadau teithio hefyd yn cael effaith negyddol ar y sector twristiaeth. Gallai cau safleoedd lletygarwch, y celfyddydau ac adloniant am wythnos arwain at golli tua £70 miliwn o gynnyrch domestig gros. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o syniad o’r effaith wythnosol ar gynnyrch domestig gros petai cyfyngiadau “haen 3” Lloegr yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru. Mae’n debyg y bydd y ffigur yn is gan fod gwasanaethau lletygarwch yn cael aros ar agor tan 6pm er na fydd rhai yn agor gan nad oes modd iddynt werthu alcohol.

Os ydym yn tybio bod y sector llety a gwasanaethau bwyd yn cyflogi 110,000 (Mae’r data diweddaraf sydd ar gael (2019) yn dangos bod 123,000 yn cael eu cyflogi yn y sector. Mae 110,000 yn enghraifft i adlewyrchu’r diswyddiadau disgwyliedig yn 2020) neu 8.3% o’r gweithlu heb gynnwys y rheini sydd eisoes yn gweithio mewn siopau tecawê ac ati a ddangosir isod, byddai hyn yn golygu na fyddai (50%) 55,000 neu dros 4% o weithlu Cymru a fyddai’n gweithio fel arall, yn gweithio, neu (75%) 82,500 neu 6.2% o’r gweithlu a fyddai’n gweithio fel arall. Os byddent i gyd yn cael 80% o’u cyflogau, gallai hyn olygu colli tua £70 miliwn o enillion os na fydd 50% yn gweithio a £100 miliwn os na fydd 75% yn gweithio.

Yng Nghymru, mae 8,900 mewn lletygarwch a 1,905 mewn gweithgareddau eraill sy’n ymwneud â thwristiaeth. Ar draws y sectorau hyn, mae’r rhan fwyaf yn fusnesau bach a chanolig eu maint – gyda chrynodiad uchel yn y band micro. Os cyflwynir cyfyngiadau haen 3 mae’n bosibl y bydd hi’n anodd i rai busnesau oroesi ac ystyried y trafferthion a fu hyd yma eleni.

Gallai hyn arwain at effeithiau canlyniadol i sectorau eraill o’r economi hefyd oherwydd bod llai o alw am nwyddau a gwasanaethau gan effeithio ar gadwyni cyflenwi ac ati. 

Bydd cau lletygarwch hefyd yn effeithio’n negyddol ar bobl sy’n cymdeithasu mewn lleoliadau lletygarwch a gall hyn arwain at deimlo’n fwy ynysig ac effeithio ar lesiant pobl. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer pobl sy’n gweithio yn ystod y dydd ac nad ydynt yn gallu cwrdd ag eraill cyn 6pm yn ystod yr wythnos (neu ar benwythnosau mewn rhai achosion).

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pecyn cymorth gwerth £340 miliwn ar waith. Mae hwn wedi’i anelu’n bennaf at y sectorau lletygarwch a thwristiaeth, i’w ddefnyddio ym mis Rhagfyr 2020-Ionawr 2021 sy’n ategu cynlluniau Llywodraeth y DU.

Effeithiau ar yr amgylchedd

Mae’n debyg y bydd effaith amgylcheddol gadarnhaol yn gyffredinol gan fod llai o bobl yn teithio’n bell i ymweld â ffrindiau a theulu, atyniadau a safleoedd lletygarwch. Fodd bynnag, mae’r rheini sy’n teithio’n debygol o ddefnyddio mwy a mwy o’u ceir eu hunain i wneud hynny pan fyddant yn cael gwneud hynny.

Y Gymraeg

Nid yw’r mesurau a ddisgrifir uchod yn cael unrhyw effeithiau negyddol o bwys ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal ac i hyrwyddo'r iaith Gymraeg.

Effeithiau gwledig

Bydd y cyfyngiadau ar letygarwch ynghyd â chyfyngiadau teithio yn cael effaith niweidiol ar y diwydiant twristiaeth a gan fod y fasnach tafarndai yn canolbwyntio’n drwm ar nosweithiau mewn cymunedau gwledig.

Atodiad A: Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Grŵp neu nodwedd warchodedig

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)

Sut byddwch yn lliniaru’r effeithiau?

Oedran (meddyliwch am wahanol grwpiau oedran)

Cadarnhaol: Gan fod y coronafeirws yn effeithio’n fwy difrifol ar iechyd pobl hŷn, bydd lleihau’r cyfraddau trosglwyddo yn cael effaith gadarnhaol.

Negyddol: Mae pobl ifanc yn cael eu cynrychioli’n anghymesur yn y sector lletygarwch a bydd y cyfyngiadau’n effeithio’n negyddol arnynt yn y tymor byr ac unrhyw ganlyniadau tymor canolig a thymor hir a gânt ar fusnesau yn y sector.  Mae pobl iau hefyd wedi cael nifer anghymesur o’r hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi cael eu cyhoeddi hyd yma.

Dywedodd y Resolution Foundation ar 27 Hydref fod 9 y cant o’r rhai a oedd ar ffyrlo cyn hynny wedi colli eu swyddi. Roedd y gyfradd hon ar ei huchaf ar gyfer pobl ifanc 18-24 oed, gweithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a’r rhai ar gyflogau isel.

Hyd at 22 Medi, roedd 61% o’r hysbysiadau cosb benodedig a gyhoeddwyd yng Nghymru i bobl dan 35 oed.

Bydd pecyn cymorth Llywodraeth Cymru ac ymestyn cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn helpu i liniaru rhai o effeithiau niweidiol y mesur hwn yn y tymor byr.

Nid yw’n glir beth sydd wedi sbarduno’r gwahaniaethau o ran yr hysbysiadau cosb benodedig neu a oes gwahaniaethau ychwanegol nad ydym yn gwybod amdanynt, o ystyried y data cyfyngedig

Anabledd (meddyliwch am wahanol fathau o anabledd)

Cadarnhaol: Mae COVID-19 yn cael effaith anghymesur sylweddol ar iechyd rhai pobl anabl a rhai pobl sydd â chyflyrau iechyd cronig.  Bydd mesurau cryfach i leihau’r trosglwyddiad yn cael rhai effeithiau cadarnhaol ar bobl anabl. Bydd caniatáu i wasanaethau cyswllt agos aros ar agor hefyd yn helpu i leihau effeithiau niweidiol ar bobl anabl.

Negyddol: Yn ystod camau cynnar y pandemig, roedd pobl anabl yn fwy tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo a gallai’r patrwm hwn gael ei ailadrodd. Mae’r ynysu a’r effeithiau negyddol ar iechyd ar yn gallu bod yn waeth i bobl anabl o ganlyniad i broblemau iechyd meddwl.

Roedd adroddiad Cyngor ar Bopeth: Argyfwng Anghyfartal (Cymru a Lloegr) wedi canfod bod cyfradd uwch o bobl anabl (1 o bob 4) yn wynebu colli eu swyddi na’r boblogaeth gyffredinol (1 o bob 6).

Bydd pecyn cymorth Llywodraeth Cymru ac ymestyn cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn helpu i liniaru rhai o effeithiau niweidiol y mesur hwn yn y tymor byr.

Gallai caniatáu aelwyd estynedig a’r gallu i gwrdd â hyd at bedwar o bobl y tu allan neu mewn lleoliad sy’n cael ei reoleiddio a darpariaeth ar gyfer gweithgareddau wedi’u trefnu dan do helpu i liniaru teimlo’n unig ac yn ynysig.

Ailbennu rhywedd (y weithred o drawsnewid a phobl trawsryweddol)

Ddim yn disgwyl effaith wahaniaethol 

 

 

Beichiogrwydd a mamolaeth

Mae rhai menywod hefyd wedi sôn am bryderon ar ôl geni ynghylch cymorth iechyd meddwl, bwydo ar y fron ac ati.   

 

Rydym yn cynnal y ddarpariaeth sy’n galluogi grwpiau fel rhieni a babanod / plant bach i weithredu mewn cyfleusterau cymunedol o bob math a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Hil (yn cynnwys gwahanol leiafrifoedd ethnig, sipsiwn a theithwyr a mudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid)

Negyddol: mae pobl o gymunedau BAME yn cael eu cynrychioli'n anghymesur yn y sector lletygarwch a bydd y gofyniad i gau am 6pm yn effeithio’n negyddol arnynt. Mae pobl o gymunedau BAME hefyd yn fwy tebygol o fod yn yrwyr tacsi a bydd cau safleoedd lletygarwch am 6pm yn effeithio arnynt yn sylweddol.

Negyddol:  Cafwyd rhywfaint o dystiolaeth bod nifer anghymesur o hysbysiadau cosb benodedig wedi cael eu rhoi i bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.  Gallai creu troseddau newydd a allai arwain at gyhoeddi hysbysiadau cosb benodol gael effaith niweidiol ar gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.  Gall y cyfyngiadau ar deithio gael effaith niweidiol ar bobl BAME sydd â theulu mewn mannau eraill yn y DU neu dramor. 

Mae pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cynrychioli 11% o weithwyr y maes bwyd a diod yng Nghymru.

Dywedodd y Resolution Foundation ar 27 Hydref fod 9 y cant o’r rhai a oedd ar ffyrlo cyn hynny wedi colli eu swyddi. Roedd y gyfradd hon ar ei huchaf ar gyfer pobl ifanc 18-24 oed, gweithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a’r rhai ar gyflogau isel.

Mae 24% o famau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn dweud eu bod yn ei chael hi’n anodd bwydo eu plant.

Cafodd 10% o’r hysbysiadau cosb benodedig yng Nghymru hyd at 22 Medi eu rhoi i bobl a oedd yn ystyried eu bod yn Asiaidd neu’n Tsieineaidd, sy’n cynrychioli tua 2% o’r boblogaeth.

 

Bydd pecyn cymorth Llywodraeth Cymru ac ymestyn cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn helpu i liniaru rhai o effeithiau niweidiol y mesur hwn yn y tymor byr. Mae pecyn Llywodraeth Cymru wedi’i dargedu’n benodol at y sector lletygarwch a thwristiaeth.

Nid yw’n glir beth sydd wedi sbarduno’r gwahaniaethau o ran yr hysbysiadau cosb benodedig neu a oes gwahaniaethau ychwanegol nad ydym yn gwybod amdanynt, o ystyried y data cyfyngedig

Crefydd, cred a diffyg cred

Cadarnhaol: Bydd mannau addoli yn aros ar agor ac yn cael gweithredu mewn ffordd sy’n ddiogel o ran Covid.  Bydd hyn yn effeithio’n gadarnhaol ar grwpiau ffydd.

 

 

Rhyw / Rhywedd

Cadarnhaol: Mae tystiolaeth glir bod COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar iechyd dynion.  Felly, bydd mesurau i reoli’r feirws eto a lleihau’r trosglwyddiad yn cael effaith gadarnhaol ar ddynion.

Negyddol: Bydd y cyfyngiadau ar y sector lletygarwch yn effeithio ar fenywod gan eu bod yn cael eu cynrychioli’n anghymesur yn y sector. Os bydd yn rhaid i’w plentyn hunanynysu mae’n fwy tebygol y bydd hyn yn effeithio arnynt gan eu bod yn tueddu i wneud mwy o ofal plant.

Negyddol: Mae dynion wedi cael nifer anghymesur o’r hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi cael eu cyhoeddi.

Roedd 76% o’r hysbysiadau cosb benodedig hyd at 22 Medi wedi cael eu rhoi i ddynion.

Bydd pecyn cymorth Llywodraeth Cymru ac ymestyn cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn helpu i liniaru rhai o effeithiau niweidiol y mesur hwn yn y tymor byr.

Nid yw’n glir beth sydd wedi sbarduno’r gwahaniaeth rhwng dynion a menywod o ran yr hysbysiadau cosb benodedig o ystyried y data cyfyngedig.

Cyfeiriadedd rhywiol (lesbiaidd, hoyw a deurywiol)

Cadarnhaol:  Byddai’r gallu parhaus i gwrdd â hyd at bedwar o bobl mewn lleoliadau wedi’u rheoleiddio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau wedi’u trefnu yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol a fyddai’n bwysig i fynd i'r afael â'r effeithiau niweidiol ar y rheini yr oedd eu haelwyd yn negyddol neu’n elyniaethus tuag at gyfeiriadedd rhywiol yr unigolyn.

Mae rhywfaint o dystiolaeth o ran gynnar y pandemig ynghylch effaith negyddol gorfod aros gartref ar gyfer rhai pobl yr oedd eu teuluoedd yn negyddol neu’n elyniaethus tuag at gyfeiriadedd rhywiol yr unigolyn.  

 

Priodas a phartneriaeth sifil

Ddim yn disgwyl effaith wahaniaethol

 

 

Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed

Cadarnhaol: Bydd cadw ysgolion, cyfleusterau chwarae cyhoeddus a cholegau ar agor yn effeithio’n gadarnhaol ar blant a phobl ifanc yn enwedig y rheini sy’n agored i niwed neu’n dod o gefndiroedd difreintiedig. Bydd y penderfyniad i ganiatáu i chwaraeon a gweithgareddau wedi’u trefnu barhau hefyd yn effeithio’n gadarnhaol ar iechyd a llesiant plant yn yr un modd â'r ddarpariaeth i gwrdd yn yr awyr agored neu mewn lleoliadau wedi’u rheoleiddio. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl ifanc yn eu harddegau a fydd yn croesawu’r cyfle i gwrdd â’u ffrindiau.

Negyddol: Bydd yr effeithiau economaidd negyddol ar deuluoedd yn effeithio ar blant.

Negyddol: Mae cau lleoliadau adloniant (sinemâu, arcedau bowlio, lleoliadau chwarae dan do) yn lleihau’r dewisiadau hamdden sydd ar gael i blant a phobl ifanc.

Mae’r dystiolaeth o’r cyfyngiadau symud cyntaf yn dangos bod yr effaith ar blant agored i niwed a phlant difreintiedig wedi bod yn ddifrifol iawn.

Dywedwyd mai peidio â chael gweld ffrindiau oedd yr un peth a oedd wedi effeithio ar sut roedd plant a phobl ifanc yn teimlo yn yr arolwg Coronafeirws a Fi. 

Roedd yr arolwg Coronafeirws a fi wedi datgelu bod plant BAME yn fwy tebygol o ddweud bod angen help arnynt i wneud yn siŵr bod gan eu teulu ddigon o fwyd. Maen nhw’n fwy tebygol o sôn am arwyddion o ansicrwydd bwyd. Mae rhanddeiliaid sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r gymuned BAME hefyd wedi sôn am hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i deuluoedd sydd mewn tlodi drwy, er enghraifft, y Gronfa Cymorth Dewisol a’r Gronfa Datblygu Plant ar gyfer plant sydd mewn perygl o oedi datblygiadol

 

 

 

 

Aelwydydd incwm isel

Negyddol: Mae pobl sydd ar incwm isel yn cael eu cynrychioli’n anghymesur yn y sector lletygarwch a bydd y gofyniad i gau am 6pm yn cael effaith negyddol arnynt. Efallai na fydd hi mor hawdd i bobl o gartrefi incwm is gwrdd mewn lleoliad sy’n cael ei reoleiddio, 

Cadarnhaol: Mae lleihau’r swm am fethu â hunanynysu yn debygol o gael effaith gadarnhaol fach ar grwpiau difreintiedig

Dywedodd y Resolution Foundation ar 27 Hydref fod 9 y cant o’r rhai a oedd ar ffyrlo cyn hynny wedi colli eu swyddi. Roedd y gyfradd hon ar ei huchaf ar gyfer pobl ifanc 18-24 oed, gweithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a’r rhai ar gyflogau isel

Bydd pecyn cymorth Llywodraeth Cymru ac ymestyn cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn helpu i liniaru effeithiau niweidiol y mesur hwn yn y tymor byr, er ein bod yn cydnabod y bydd yn rhaid i lawer o bobl ymdopi ar lai o arian nag arfer gan fod y ffyrlo yn 80% o gyflogau. Mae hi hefyd yn arbennig o anodd i rai categorïau o weithwyr, fel y rheini ar gontractau dim oriau, gweithwyr asiantaeth a chynlluniau lleoliadau gwaith eraill.