Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar sut i ddiogelu eich hun a pha reolau sydd yn eu lle i ddiogelu pobl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd 1 yn llawn o ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf 2021 ymlaen. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr hyn sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac yn gweithio'n agos iawn gyda'r gwledydd eraill hynny. Mae'n bwysig deall bod y rheolau yma yng Nghymru yn wahanol.

Waeth ym mha wlad rydych yn byw - i bawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â Chymru, mae'n bwysig bod pob un ohonom yn dilyn y canllawiau a'r rheolau diweddaraf sy'n berthnasol yma yng Nghymru.

Caiff cyfyngiadau’r coronafeirws eu hadolygu’n rheolaidd.

Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru. I weld y rheolau neu’r canllawiau mewn rhannau eraill o’r DU, ewch i’r gwefannau sy’n berthnasol i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn dilyn y canllawiau hyn?

Mae'r rhan fwyaf o'r hyn a nodir yn y canllawiau hyn yn adlewyrchu’r gofynion yn y Rheoliadau, sydd yn gyfraith ac felly gall yr heddlu neu swyddogion gorfodi mewn awdurdodau lleol eu gorfodi. Fodd bynnag, hyd yn oed os oes hawl i wneud pethau, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i’n diogelu ni ein hunain, ein teuluoedd ac eraill, felly rydym yn gofyn ichi feddwl am beth sy’n synhwyrol i’w wneud i ddiogelu eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned yn hytrach na meddwl am yr hyn a ganiateir yn ôl y gyfraith.

Os byddwch yn torri’r gyfraith, efallai y byddwch yn cael cyfarwyddyd i fynd adref neu byddwch yn cael eich danfon adref. Gallech orfod talu hysbysiad cosb benodedig o £60. Bydd hwn yn codi i £120 am yr ail drosedd ac yn parhau i godi os bydd rhagor o achosion. Am droseddau mwy difrifol, mae cosbau'n dechrau ar £500. Neu gellir cymryd camau troseddol yn eich erbyn. Os cewch eich dyfarnu’n euog, bydd rhaid ichi dalu dirwy.

Pellter cymdeithasol

Beth yw’r rheolau ar gadw pellter cymdeithasol?

Dylech ystyried y risg o ddal COVID-19, neu ei drosglwyddo, cyn ymweld â lleoedd a fynychir gan eraill neu gwrdd â phobl nad ydych yn byw gyda nhw. Er nad oes unrhyw sefyllfa'n ddi-risg, er mwyn lleihau'r risg o ledaenu COVID-19 a sicrhau bod cwrdd â theulu a ffrindiau yn fwy diogel, dylech gadw pellter cymdeithasol lle bynnag y bo'n bosibl.

Negeseuon allweddol:

  • Nid yw COVID-19 wedi diflannu – er bod y cyfyngiadau wedi’u llacio, dylech barhau i fod yn ofalus, hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu.
  • Cadw pellter rhag pobl nad ydych fel rheol yn cymysgu â nhw yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o reoli’r risg o ledaenu COVID-19 o hyd. Dylech gadw pellter rhag pobl eraill nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd, eich aelwyd estynedig neu eich grŵp o chwech o bobl a ganiateir – dylech aros 2 fetr (3 cham) oddi wrth eraill pan fyddwch yn yr awyr agored ac mewn mannau caeedig y tu allan i’r cartref.
  • Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i fusnesau ddilyn mesurau rhesymol i sicrhau bod pobl yn cadw pellter corfforol dan do, a gallai hyn gynnwys mesurau i gadw pellter corfforol yn yr awyr agored.
  • Dylech osgoi cyswllt gydag unrhyw un sy’n dangos symptomau COVID-19. Mae’r symptomau hyn yn cynnwys tymheredd uchel, peswch newydd a pharhaus, neu golli neu newid yn eich synnwyr arogli neu flasu.
  • Golchwch eich dwylo’n dda ac yn rheolaidd, neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo os nad oes modd ichi ddefnyddio dŵr a sebon.
  • Os oes modd, dylech osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os nad yw hynny’n hanfodol. Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Gweithiwch gartref os medrwch.
  • Rhaid i bob cyflogwr a safle sydd ar agor i’r cyhoedd gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 a’i ledaenu. Gallai hyn gynnwys cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb. Dylech lynu wrth unrhyw fesurau cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo neu fesurau eraill sydd yn eu lle bob amser, er mwyn eich diogelu chi a phobl eraill.
  • Dylech osgoi ymgynnull mewn grwpiau mawr mewn mannau cyhoeddus lle nad oes unrhyw fesurau rhesymol ar waith, gan bod heintiau yn gallu lledaenu’n hawdd mewn mannau caeedig pan fydd pobl yn ymgynnull.

Rhaid ichi wneud y canlynol:

Fe’ch cynghorir yn gryf i wneud y canlynol:

  • cyfarfod yn yr awyr agored yn hytrach na dan do gydag unrhyw un nad yw'n rhan o'ch aelwyd estynedig neu eich grŵp o chwech - cofiwch ei bod yn fwy diogel aros yn yr awyr agored
  • gweithio gartref os medrwch
  • cadw pellter corfforol - arhoswch 2 fetr (3 cham) i ffwrdd oddi wrth eraill nad ydynt yn rhan o'ch aelwyd neu'ch aelwyd estynedig yn yr awyr agored

Rhaid ichi hunanynysu gartref:

  • os oes gennych chi, unrhyw un rydych chi'n byw gydag ef, neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau COVID-19, a dylai'r sawl sydd â symptomau hefyd drefnu prawf
  • os ydych chi, unrhyw un rydych chi'n byw gydag ef, neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig wedi profi'n bositif ar gyfer COVID-19

Os bydd y Tîm Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â chi am eich bod wedi cael eich nodi fel cyswllt i rywun sydd wedi profi'n bositif ar gyfer COVID-19 dylech hunanynysu gartref.

Gorchuddion wyneb

Beth yw'r rheolau ar wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do?

Rhaid gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do. Mae hyn hefyd yn berthnasol i drafnidiaeth gyhoeddus a thacsis, a mannau sy’n gwerthu bwyd a diod tecawê. Mae hyn yn berthnasol i bawb sy’n 11 oed a throsodd, oni bai bod eithriad yn berthnasol. Nid oes rhaid i blant o dan 11 oed wisgo gorchudd wyneb.

Gweler ein canllawiau ar orchuddion wyneb i weld y rheolau ynghylch pryd y mae angen gorchudd wyneb a manylion am eithriadau. 

Beth yw'r rheolau ar wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau dan do mewn lleoliadau lletygarwch?

Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb bob amser wrth symud o amgylch y safle. Mae hyn yn cynnwys wrth fynd i'r toiledau, chwarae pŵl, snwcer neu ddartiau ac ati. Fodd bynnag, gallwch dynnu eich gorchudd wyneb pan fyddwch yn eistedd wrth eich bwrdd.

A oes unrhyw eithriadau rhag gwisgo gorchudd wyneb?

Nid oes rhaid i rai pobl wisgo gorchudd wyneb, ac mae nifer o sefyllfaoedd lle gall pobl dynnu eu gorchudd dros dro. Edrychwch ar ein canllawiau i weld a allech fod wedi’ch eithrio. 

Beth yw’r rheolau ar wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau addysg a gofal plant?

Dylai pob aelod o staff a phob dysgwr mewn ysgolion uwchradd a cholegau wisgo gorchuddion wyneb ym mhobman ar dir yr ysgol neu’r coleg, pan nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys yn yr ystafell ddosbarth. Yr eithriad i hyn yw amser bwyd a phan fyddant y tu allan, oni bai bod asesiad risg yr ysgol yn nodi bod angen mesurau ychwanegol, er enghraifft ar yr iard os oes nifer fawr o ddysgwyr mewn ardal gymharol fechan, a’r grwpiau cyswllt heb eu gwahanu, sy’n ei gwneud yn anodd cadw pellter cymdeithasol (er enghraifft, wrth aros i fynd i mewn i’r ysgol).

Dylai holl ddysgwyr blwyddyn 7 a hŷn hefyd wisgo gorchudd wyneb wrth deithio ar gludiant ysgol neu gludiant pwrpasol o’r cartref i’r coleg.

Dylai ymwelwyr i’r ysgol neu i’r lleoliad wisgo gorchudd wyneb, gan gynnwys rhieni sy’n danfon neu’n casglu dysgwyr.

I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar y canllawiau i ysgolion neu golegau.

Nid oes unrhyw ofyniad penodol i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau gofal plant, er efallai y bydd lleoliadau yn dewis gofyn i rieni a phobl eraill sy’n ymweld â lleoliad eu gwisgo. Os bydd y lleoliad gofal plant ar dir ysgol, dylai lynu wrth y gofynion sydd ar waith ar draws ystad yr ysgol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllawiau ar fesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant.  

Beth yw’r rheolau ar wisgo gorchudd wyneb yn y gweithle?

Os ydych yn gweithio mewn man sy'n agored i'r cyhoedd, rhaid ichi wisgo gorchudd wyneb.

Os nad yw’ch gweithle ar agor i’r cyhoedd, bydd eich cyflogwr yn eich cynghori oherwydd rhaid iddynt gynnal asesiad risg a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu. Dylai’r asesiad risg a'r mesurau lliniaru gael eu rhannu â chi, a gallai’r rheini gynnwys gofyniad i wisgo gorchudd wyneb.

Disgwylir i gyflogwyr orfodi'r defnydd o orchuddion wyneb mewn gweithleoedd eraill dan do lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, oni bai bod rhesymau cryf dros beidio. Felly, efallai y bydd yn rhaid ichi wisgo gorchudd wyneb yn y gwaith, hyd yn oed mewn mannau nad ydynt yn agored i'r cyhoedd.

Gweler y canllawiau ar orchuddion wyneb i gael rhagor o wybodaeth.

Aelwydydd estynedig

Beth yw’r rheolau ar aelwydydd estynedig?

Gall eich aelwyd ymuno â hyd at ddwy aelwyd arall i ffurfio aelwyd estynedig. Mae hyn yn golygu y cewch dreulio amser gyda nhw yn eich cartref chi neu yn eu cartref nhw. Mae hyn yn cynnwys aros dros nos yng nghartrefi eich gilydd. Dim ond un aelwyd estynedig ar y tro y caiff aelwyd fod yn rhan ohoni.

Edrychwch ar y canllawiau ar ymgynnull gyda phobl eraill i weld y rheolau ynghylch pwy gaiff fod mewn aelwyd estynedig, sut mae dewis â phwy y dylech ffurfio aelwyd estynedig a sut mae’n gweithio i bobl sydd â mathau gwahanol o drefniadau byw.

Caiff pedwaredd aelwyd ymuno ag aelwyd estynedig o dan amgylchiadau cyfyngedig. Caiff yr aelwydydd canlynol ymuno â thair aelwyd arall i ffurfio aelwyd estynedig:

  • aelwyd lle mae un oedolyn yn byw ar ei ben ei hun
  • aelwyd lle mae un oedolyn cyfrifol*
  • aelwyd lle mae unigolyn 16 neu 17 mlwydd oed yn byw ar ei ben ei hun neu gydag eraill o’r un oed, heb oedolyn.

I gael rhagor o wybodaeth am aelwydydd estynedig, gweler ein canllawiau ar ymgynnull gyda phobl eraill.

*Er enghraifft, os yw Laura yn byw gyda’i rheini ac yn ofalwr iddynt, a bod ganddi ddau o blant ifanc yn byw gyda hi hefyd, mewn gwirionedd hi yw’r unig oedolyn cyfrifol yn yr aelwyd. Felly, byddai ei haelwyd hi’n cael bod mewn swigen gefnogaeth gyda thair aelwyd arall o unrhyw fath.

Safleoedd a reoleiddir

Beth yw safleoedd a reoleiddir?

Safleoedd a reoleiddir yw:

  • safle unrhyw fusnes neu wasanaeth sydd ar agor i’r cyhoedd, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: safleoedd manwerthu, amgueddfeydd, theatrau, neuaddau cyngerdd, campfeydd, cyfleusterau hamdden a ffitrwydd, canolfannau cymunedol, gwasanaethau cyswllt agos, caffis, tafarndai, bariau a bwytai, swyddfeydd cofrestru, mannau addoli a llyfrgelloedd
  • cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys tacsis, trenau a bysiau
  • unrhyw adeilad lle mae gwaith yn cael ei gynnal, gan gynnwys ffatrïoedd a swyddfeydd

Ymgynnull yn yr awyr agored

Beth yw’r rheolau ar ymgynnull yn yr awyr agored?

O ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf ymlaen ni cheir unrhyw gyfyngiadau ar ymgynnull unrhyw le yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, parciau cyhoeddus a thraethau, mannau awyr agored ar safle a reoleiddir neu ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored.

Fe’ch cynghorir o hyd i ddefnyddio’ch crebwyll ac osgoi ymgynnull mewn grwpiau mawr lle bynnag y bo modd.

Mae’n fwy diogel i gwrdd yn yr awyr agored, ac am y rheswm hwn, mae gweithgareddau awyr agored wedi cael blaenoriaeth. Mae’r tebygolrwydd o drosglwyddo COVID-19 yn sylweddol is yn yr awyr agored na dan do. Mae hyn yn rhoi mwy o ryddid i bobl yn gynt, gan leihau’r effaith o ran trosglwyddo’r feirws.

Hyd yn oed wrth i gyfyngiadau gael eu codi, mae’n hanfodol bod pawb yn parhau â’r arferion da i leihau trosglwyddiad y feirws; cofio golchi dwylo’n dda a chael prawf cyn gynted ag y bydd symptomau’n ymddangos, ac aros gartref os ydych yn sâl, er mwyn lleihau’r risg.

Rhaid i fusnesau hefyd barhau i gynnal asesiadau risg a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws a’i ledaenu mewn safleoedd sy’n agored i’r cyhoedd neu i’r staff.

Bydd y system Profi, Olrhain, Diogelu yn parhau i gefnogi’r broses o lacio’r  cyfyngiadau cymdeithasol ac economaidd. Bydd hefyd yn bwysig nodi clystyrau o achosion lleol ac amrywiolion sy’n peri pryder.

Gweithgareddau a digwyddiadau wedi’u trefnu yn yr awyr agored

Rhaid i’r mathau hyn o weithgareddau a digwyddiadau gael eu trefnu gan fusnes, corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, buddiannol, addysgol neu ddyngarol, clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu gorff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall.

Mae gweithgareddau wedi’u trefnu yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys rhai ar raddfa fach, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • chwaraeon tîm
  • dosbarthiadau ymarfer corff
  • cyfarfodydd grwpiau crefyddol a grwpiau cymorth
  • teithiau tywys
  • hrwpiau rhedeg
  • arwerthiannau cist car
  • ffeiriau haf
  • dathliadau, gan gynnwys derbyniadau priodas a phartneriaethau sifil, te angladd a digwyddiadau bywyd eraill

Mae digwyddiadau hefyd yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau ar raddfa fwy, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • cyngherddau cerddoriaeth fyw, a digwyddiadau diwylliannol eraill
  • gwyliau bwyd
  • twrnameintiau chwaraeon

O ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf ymlaen nid oes bellach unrhyw gyfyngiadau ar niferoedd wrth ymgynnull unrhyw le yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, parciau cyhoeddus a thraethau, mannau awyr agored mewn safleoedd a reoleiddir neu ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored.

Fe’ch cynghorir o hyd i ddefnyddio’ch crebwyll ac osgoi ymgynnull mewn grwpiau mawr lle bynnag y bo modd.

Mae’n fwy diogel i gwrdd yn yr awyr agored, ac am y rheswm hwn, mae gweithgareddau awyr agored wedi cael blaenoriaeth. Mae’r tebygolrwydd o drosglwyddo COVID-19 yn sylweddol is yn yr awyr agored na dan do. Mae hyn yn rhoi mwy o ryddid i bobl yn gynt, gan leihau’r effaith o ran trosglwyddo’r feirws.

Hyd yn oed wrth i’r cyfyngiadau gael eu codi, mae’n hanfodol bod pawb yn parhau â’r arferion da i leihau trosglwyddiad y feirws; cofio golchi dwylo’n dda a chael prawf cyn gynted ag y bydd symptomau’n ymddangos, ac aros gartref os ydych yn sâl, er mwyn lleihau’r risg.

Mae gan drefnydd y gweithgaredd ddyletswydd gyfreithiol i gynnal asesiad risg COVID penodol a chymryd pob mesur rhesymol leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu. Rhaid i’r asesiad risg hefyd ystyried mannau cyfyng megis ciwiau i fynd mewn neu allan o’r lleoliad; toiledau neu fannau gwerthu bwyd a diod ac ystyried mesurau lliniaru addas, gan gynnwys cadw pellter corfforol yn y mannau hyn.

Bydd yn dal yn ofynnol i fusnesau a safleoedd ystyried rhoi mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith ar gyfer grwpiau gwahanol a/neu ofyn i orchuddion wyneb gael eu gwisgo mewn rhai mannau penodol fel rhan o’u trefniadau rheoli risg. Bydd yr asesiad risg a’r mesurau lliniaru rhesymol y gallai fod angen i’r lleoliadau a’r safleoedd hyn eu rhoi ar waith yn penderfynu a fydd angen gwneud hyn, ac ymhle.  Dylech lynu wrth unrhyw fesurau cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo neu fesurau eraill sydd yn eu lle bob amser, er mwyn eich diogelu chi a phobl eraill.

Peidiwch â digio os gofynnir ichi gadw pellter oddi wrth bobl eraill ar mewn lleoliad penodol. Gallwch barhau i wneud eich dewis personol eich hun i gadw pellter os ydych yn dymuno. Os yw pobl eraill am gadw pellter, dylech barchu eu penderfyniad hefyd.

Rheolau ar ymgynnull dan do

Beth yw’r rheolau ar ymgynnull dan do?

Cartrefi preifat, a llety teithio neu lety gwyliau

Gall aelodau eich aelwyd estynedig neu uchafswm o chwe pherson o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed o unrhyw un o’r aelwydydd hynny neu ofalwyr unrhyw un sy’n bresennol) neu ddwy aelwyd gwrdd dan do ac aros dros nos mewn cartrefi preifat a llety teithio neu lety gwyliau

Tai amlfeddiannaeth

Mae tai amlfeddiannaeth (HMOs) yn cynnwys aelwydydd ar wahân mewn adeilad  sy’n cael ei rannu. Os ydych yn byw mewn adeilad sy’n cael ei rannu gallwch fod mewn aelwyd estynedig gyda hyd at ddwy aelwyd arall y tu allan i’r cartref sy’n cael ei rannu.

Os ydych yn rhannu cyfleusterau fel ystafelloedd ymolchi neu geginau gyda phobl eraill, nid oes angen ichi greu aelwyd estynedig gyda'r bobl hynny er mwyn bod yn yr un ystafell â nhw. Fodd bynnag, yr uchafswm ar gyfer gwneud hynny yw grwpiau o hyd at chwech o bobl ar y tro, heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed sy'n byw yno.

Lleoliadau lletygarwch (fel caffis, bwytai, tafarndai a bariau)

Cewch ymweld â safleoedd lletygarwch dan do fel caffis, bwytai, tafarndai a bariau gydag aelodau o’ch aelwyd neu gyda hyd at chwech o bobl o ddim mwy na chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed o unrhyw un neu ragor o’r aelwydydd hyn neu ofalwyr unrhyw un sy’n bresennol). Nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r grŵp hwn o chwech gadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd. Fodd bynnag, dylech gadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill yn y lleoliad nad ydynt yn aelodau o’ch aelwyd neu’ch grŵp o chwech.

Os byddwch yn ymweld â lleoliad lletygarwch dan do gyda phobl nad ydych yn byw gyda nhw, ond sy’n rhan o'ch aelwyd estynedig, rhaid i hynny gynnwys dim mwy na chwech o bobl o hyd at chwe aelwyd ar unrhyw un adeg (heb gynnwys plant o dan 11 oed o unrhyw un neu ragor o'r aelwydydd hyn neu ofalwyr unrhyw un sy'n bresennol).

Cartrefi gofal

Caniateir ymweliadau arferol â chartrefi gofal dan do, ac fe gaiff hyd at ddau ymwelydd ymweld ar yr un pryd. Dylid profi pob ymwelydd cyn ymweliad dan do, ac mae profion cyflym ar gael i gartrefi gofal i hwyluso hyn.

Gellir parhau i gynnal ymweliadau awyr agored ac ymweliadau mewn podiau ymwelwyr neu fannau caeedig tebyg.

Dylai preswylwyr sy’n dymuno gadael y cartref i ymweld ag eraill neu i fynd ar daith gael cefnogaeth i wneud hynny.

Rydym yn disgwyl i ddarparwyr hwyluso ymweliadau dan do ac ymweliadau allan o’r cartref gofal lle bo modd, a gwneud hynny mewn ffordd sy’n rheoli risgiau. Dylech gysylltu â darparwr y cartref gofal i drefnu i ymweld cyn ichi deithio yno.

Bydd ymweliadau rheolaidd yn cael eu hatal dros dro os bydd achosion o COVID-19 yn y cartref.  Caiff ymweliadau barhau o dan amgylchiadau eithriadol gan gynnwys diwedd oes, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllawiau ar gartrefi gofal.

Ymweld ag ysbytai

Fe’ch cynghorir i edrych ar wefan yr ymddiriedolaeth neu’r bwrdd iechyd i gael gwybodaeth leol cyn ymweld.

Ein blaenoriaeth gyntaf yw atal a rheoli heintiau yn ein lleoliadau gofal iechyd. Pwrpas hyn yw sicrhau iechyd, diogelwch a lles cleifion, staff ac ymwelwyr.

Mae’r canllawiau ar ymweld ag ysbytai yn ystod y coronafeirws yn nodi'r llinell sylfaen i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a darparwyr gofal hosbis ei dilyn ar gyfer ymweld yng Nghymru yn ystod y pandemig. Mae gan ddarparwyr gofal iechyd hyblygrwydd i wyro oddi wrth y canllawiau mewn ymateb i'r amodau yn lleol.

Pobl sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol

Dylai’r rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ac sydd ar y rhestr warchod ddilyn y canllawiau a roddwyd i’r grŵp hwn.

Gweithgareddau preswyl domestig i blant a phobl ifanc

Ers 17 Mai 2021, mae hawl i gynnal teithiau gweithgareddau domestig preswyl sy’n defnyddio llety ar gyfer un aelwyd.

Erbyn hyn hefyd, mae gweithgareddau addysgol preswyl lle mae angen rhannu llety (fel ystafelloedd cysgu sy’n cael eu defnyddio gan aelodau o fwy nag un aelwyd) yn cael eu caniatáu ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd. Dim ond grwpiau cyswllt/swigod ysgol gynradd ddylai gael aros gyda’i gilydd dros nos.

Caniateir i sefydliadau y tu allan i'r ysgol gan gynnwys Brownies, Sgowtiaid a chynllun Dug Caeredin, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, gynnal teithiau erbyn hyn hefyd. Gall y grwpiau hyn drefnu ymweliadau preswyl domestig i blant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed mewn grwpiau cyson o hyd at 30 o bobl, sy'n gallu aros dros nos gyda'i gilydd.

Mae gan drefnwyr ddyletswydd i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal mewn ffordd sy’n lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu. Felly, dylai asesiadau risg ystyried y lle sydd ar gael i alluogi cadw pellter corfforol, cyn belled ag y bo modd gyda phlant.

Gygweithgareddau a digwyddiadau wedi’u trefnu dan do

Beth yw’r rheolau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau wedi’u trefnu dan do?

Rhaid i’r mathau hyn o weithgareddau a digwyddiadau gael eu trefnu gan fusnes, corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, buddiannol, addysgol neu ddyngarol, clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu gorff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall.

Mae gweithgareddau wedi’u trefnu yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys rhai ar raddfa fach, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • chwaraeon tîm
  • dosbarthiadau ymarfer corff
  • cyfarfodydd grwpiau crefyddol a grwpiau cymorth
  • teithiau tywys
  • grwpiau rhedeg
  • arwerthiannau bwrdd / ffeiriau sborion
  • ffeiriau haf
  • dathliadau, gan gynnwys derbyniadau priodas a phartneriaethau sifil, te angladd a digwyddiadau bywyd eraill

Mae digwyddiadau hefyd yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau ar raddfa fwy, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • cyngherddau cerddoriaeth fyw, a digwyddiadau diwylliannol eraill
  • gwyliau bwyd
  • twrnameintiau chwaraeon

Rhaid i drefnydd y gweithgaredd fodloni gofynion y rheoliadau i gynnal asesiad risg COVID penodol a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu. Rhaid i fesur rhesymol hefyd gynnwys cadw pellter corfforol rhwng aelwydydd unigol neu grwpiau o chwech o bobl ac unrhyw rai eraill nad ydynt yn y grwpiau hyn a ganiateir yn ystod y gweithgaredd neu'r digwyddiad.

Rhaid i’r asesiad risg hefyd ystyried mannau cyfyng megis ciwiau i fynd mewn neu allan o’r lleoliad; toiledau neu fannau gwerthu bwyd a diod ac ystyried mesurau lliniaru addas, gan gynnwys cadw pellter corfforol yn y mannau hyn.

Pan fyddwch yn cymryd rhan yn y math hwn o weithgaredd neu ddigwyddiad gyda'ch aelwyd unigol (y rhai rydych yn byw gyda nhw) neu fel grŵp o chwech o bobl, dylech gadw pellter corfforol oddi wrth bobl eraill nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd neu’ch grŵp o chwech (fel sy’n briodol).

Dan do

Os yw'r math hwn o weithgaredd yn digwydd dan do, y nifer mwyaf o bobl all gymryd rhan yw 200 yn sefyll a 1,000 yn eistedd (oni bai ei fod wedi’i drefnu ar gyfer datblygiad neu les plant). Caiff y niferoedd uchaf eu pennu ar sail asesiad risg, sy’n cynnwys cymryd mesurau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a'i ledaenu. Rhaid i fesurau rhesymol hefyd gynnwys sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol rhwng aelwydydd unigol neu grwpiau o chwech o bobl (fel bo’n berthnasol).

Yn yr awyr agored

O ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf ymlaen nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y niferoedd a all ymgynnull unrhyw le yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, parciau cyhoeddus a thraethau, mannau awyr agored mewn safle a reoleiddir neu ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored.

Fodd bynnag, mae gan drefnydd y gweithgaredd ddyletswydd gyfreithiol i gynnal asesiad risg COVID penodol a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu.

Caniateir i weithgareddau sydd wedi’u trefnu’n benodol ar gyfer datblygiad a lles plant a phobl ifanc gael eu cynnal dan do ac yn yr awyr agored. Mae hyn yn cynnwys clybiau chwaraeon, grwpiau rhieni a phlant bach, grwpiau ieuenctid a grwpiau crefyddol. Mae hyn yn berthnasol i blant o dan 18 oed. 

Caniateir cynnal clybiau gofal plant, fel ‘clybiau gweithgarwch gwyliau’ neu ofal cofleidiol i blant.

Nid oes uchafswm niferoedd ar gyfer y math hwn o weithgaredd, ond bydd y niferoedd a ganiateir ar gyfer pob un yn cael eu penderfynu ar sail asesiad risg, sy’n  cynnwys cymryd mesurau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a'i ledaenu.  Dylai asesiadau risg ystyried y lle sydd ar gael i allu cadw pellter corfforol, i’r graddau y mae modd gyda phlant, a chyfyngu nifer y plant sy’n cael mynychu.

Beth yw'r rheolau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau a gynllunnir gan unigolyn mewn annedd breifat neu ar dir preifat?

Rhaid i weithgareddau neu ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu neu eu cynllunio gan unigolyn (er enghraifft y cwpl, aelod o’r teulu neu ffrind)), gan gynnwys dathliadau neu gynulliadau cymdeithasol ehangach o deuluoedd a ffrindiau dan do, ddilyn y trefniadau ar gyfer ymgynnull gyda phobl eraill, sef aelwyd unigol, aelwyd estynedig neu hyd at chwech o bobl o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed neu ofalwyr aelodau o’r aelwydydd hyn) mewn anheddau preifat.

Os ydych yn dymuno ymgynnull gyda mwy o bobl i ddathlu neu gymdeithasu dan do, dim ond mewn safle a reoleiddir y gallwch wneud hynny.  Rhaid i’r busnes gynnal asesiad risg a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu. Rhaid i fesur rhesymol gynnwys cadw pellter cymdeithasol rhwng aelwydydd unigol neu grwpiau o chwech o bobl ac unrhyw rai eraill nad ydynt yn y grwpiau hyn a ganiateir yn ystod y gweithgaredd neu'r digwyddiad.

O ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf ymlaen nid oes unryw gyfyngiadau ar y niferoedd a all ymgymryd unrhyw le yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, parciau cyhoeddus a thraethau, mannau awyr agored mewn safle a reoleiddir neu ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored.

Os ydych yn trefnu eich dathliad mewn man agored mewn safle a reoleiddir, mae gan y busnes ddyletswydd gyfreithiol i gynnal asesiad risg COVID penodol a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu. Ond gallai hyn arwain at gyfyngu’r niferoedd.

Mannau addoli a digwyddiadau mawr bywyd

Beth yw’r rheolau ar gyfer mannau addoli?

Caniateir i fannau addoli fod ar agor i’r cyhoedd at ddiben addoli ynddynt a chynnal seremonïau bywyd. Fodd bynnag, lle bynnag y bo modd, rydym yn dal i ddweud y dylai pobl osgoi ymgasglu gyda phobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Er enghraifft, gallai arweinwyr ffydd ddewis darlledu (heb gynulleidfa) weithred o addoli, dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu. Gellir hefyd ddarlledu priodasau ac angladdau o addoldai.

Caniateir seremonïau ar gyfer priodasau, angladdau a digwyddiadau bywyd eraill fel bar mitzvah a bat mitzvah neu fedydd mewn addoldai. Caiff pobl fod yn bresennol drwy wahoddiad y trefnydd. Gweler y canllawiau ar angladdau, y canllawiau ar briodasau a’r canllawiau ar fannau addoli i gael rhagor o wybodaeth.

Beth yw'r rheolau ar gynnal priodasau, seremonïau partneriaeth sifil, angladdau a digwyddiadau bywyd eraill?

Gellir cynnal priodas, seremonïau partneriaeth sifil, angladdau a digwyddiadau bywyd crefyddol eraill dan do neu yn yr awyr agored. Rhaid gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do.

Mae’r nifer sy’n cael mynd i briodas, seremoni partneriaeth sifil neu angladd dan do wedi’i gyfyngu gan gapasiti’r lleoliad lle caiff ei gynnal, ar ôl i fesurau cadw pellter corfforol gael eu hystyried.

Er mwyn sicrhau nad oes mwy na’r uchafswm yn bresennol, rhaid i bobl gael gwahoddiad cyn cael mynychu. Gweler y canllawiau perthnasol ar seremonïau priodas a phartneriaethau sifil.

Beth yw'r rheolau ar gynnal derbyniad priodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd?

Caniateir cynnal y rhain dan do ac yn yr awyr agored, ac os cânt eu trefnu gan fusnes neu eu cynnal mewn safle a reoleiddir. Mae'r rheolau cyffredinol ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau wedi'u trefnu yn berthnasol.

Derbyniad priodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd na threfnir gan fusnes ond a gynhelir ar dir preifat, h.y. wedi’i drefnu gan unigolyn (y cwpl, aelod o’r teulu neu ffrind)

Os caiff ei gynnal mewn annedd breifat:

  • dan do – dim ond aelodau o'r aelwyd, yr aelwyd estynedig neu hyd at chwech o bobl o hyd at chwe aelwyd all ymgynnull; neu
  • yn yr awyr agored – nid oes unrhyw gyfyngiadau bellach ar ymgynnull yn yr awyr agored 

Caiff pabell fawr yn yr awyr agored sydd heb fwy na 50% o ochrau agored ei hystyried yn lleoliad dan do yn ôl y gyfraith. Os yw mwy na 50% ohoni yn agored, caiff ei hystyried yn lleoliad awyr agored.

Er nad oes cyfyngiadau bellach ar gyfer y niferoedd a all ymgynnull yn yr awyr agored, fe’ch cynghorir o hyd i gadw pellter corfforol oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gydag ef neu nad yw’n rhan o’ch aelwyd estynedig, a dylech osgoi rhannu neu ddefnyddio’r un eitemau â phobl y tu allan i’ch aelwyd neu aelwyd estynedig, er enghraifft platiau, cwpanau, pecynnau bwyd, tywelion, blancedi. Bydd pasio unrhyw eitem rhwng pobl o wahanol aelwydydd yn cynyddu’r risg o ledaenu’r feirws.

Os caiff y briodas, y bartneriaeth sifil neu’r te angladd ei gynnal yn yr awyr agored mewn annedd breifat, gan gynnwys mewn gardd, caniateir i bobl fynd i’r tŷ er mwyn defnyddio’r toiled, ond dylid treulio cyn lleied o amser â phosibl dan do. Dim ond un person ar y tro ddylai gael mynd i’r tŷ at y diben hwn (gyda darparwr gofal, os oes angen cymorth oherwydd oedran neu allu).

Dylid cadw unrhyw ffenestri yn y toiled/ystafell ymolchi ar agor a glanhau cyfleusterau’r toiled a’r ystafell ymolchi yn drylwyr ac yn rheolaidd, ar ôl pob tro y cânt eu defnyddio yn ddelfrydol. Ni ddylid rhannu tywelion os oes modd, a dylid eu newid yn rheolaidd. Dylai plant gael help i ddefnyddio’r toiled ac i olchi eu dwylo’n drylwyr (yn ôl eu hoedran a’u gallu), a dylai pob oedolyn olchi ei ddwylo’n drylwyr cyn ac ar ôl helpu plant. Dylid atgoffa plant hŷn a phobl ifanc yn rheolaidd pa mor bwysig yw golchi eu dwylo’n drylwyr ac yn aml, ac i beidio â chyffwrdd â’u hwynebau.

Trafnidiaeth gyhoeddus, tacsis a cheir hurio preifat, rhannu ceir

Beth yw’r rheolau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus?

O ran trafnidiaeth gyhoeddus, rhaid gwisgo gorchudd wyneb ym mhob cerbyd caeedig gan gynnwys bysiau, tacsis, coetsys, trenau, fferïau ac awyrennau (os ydynt yn cychwyn o Gymru neu’n glanio yno). Edrychwch ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth cyn ichi deithio.

Rhaid gwisgo gorchudd wyneb hefyd ym mhob gorsaf, gorsaf reilffordd, maes awyr a phorthladd fferi a dylid cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr.

Rhaid i’r rheini sy’n gyfrifol am y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus fodloni gofynion y rheoliadau i gynnal asesiad risg a chymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu.

Rhaid i fesurau rhesymol hefyd gynnwys cadw pellter cymdeithasol rhwng aelwydydd unigol neu grwpiau o chwech o bobl ac unrhyw rai eraill nad ydynt yn y grwpiau hyn a ganiateir wrth ddefnyddio eu gwasanaethau trafnidiaeth.

Pan fyddwch yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gyda’r aelwyd unigol (y rheini rydych yn byw gyda nhw) neu fel grŵp o chwech o bobl, dylech gadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobl eraill nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd neu’ch grŵp o chwech (fel bo’n berthnasol).

I gael rhagor o wybodaeth am deithio’n ddiogel, ewch i’n canllawiau ar deithio'n ddiogel (coronafeirws).

Beth yw’r rheolau ar dacsis a cherbydau hurio preifat?

Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb mewn tacsis.

Rhaid i’r rheini sy’n gyfrifol am dacsis a cherbydau hurio preifat fodloni gofynion y rheoliadau i gynnal asesiad risg a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu.

Rhaid i fesurau rhesymol hefyd gynnwys cadw pellter cymdeithasol rhwng aelwydydd unigol neu grwpiau o chwech o bobl, ac unrhyw rai eraill nad ydynt yn y grwpiau hyn a ganiateir, wrth ddefnyddio eu gwasanaethau. Wrth ddefnyddio tacsis a cherbydau hurio preifat gyda'ch aelwyd unigol (y rhai rydych yn byw gyda nhw) neu fel grŵp o chwech o bobl dylech gadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill nad ydynt yn eich cartref neu grŵp o chwech (fel sy’n briodol).

Beth yw’r rheolau ar rannu ceir?

Nid ydym yn argymell eich bod yn rhannu car â phobl nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd neu’ch aelwyd estynedig oni bai bod hynny’n angenrheidiol ac nad oes dewis arall. Pan nad oes modd ei osgoi, dylech gymryd camau i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws megis cynyddu pellter cymdeithasol cymaint â phosibl a gwisgo gorchudd wyneb.

Os na allwch weithio gartref a bod angen ichi deithio i’r gwaith, dylech ystyried sut i wneud hynny yn y modd mwyaf diogel posibl. Darllenwch y canllawiau ar deithio'n ddiogel i gael rhagor o wybodaeth.

Hunanynysu

Beth yw’r rheolau ynghylch hunanynysu?

Hunanynysu yw pan rydych yn aros gartref ac yn cyfyngu ar bob cyswllt diangen ag eraill y tu allan i'ch aelwyd os oes gennych symptomau’r coronafeirws neu os ydych wedi cael prawf positif ar gyfer y coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys peidio â mynd i weithio y tu allan i’ch cartref. Diben hyn yw sicrhau nad yw pobl sydd â symptomau’r coronafeirws (ac sy’n aros am y canlyniad), neu sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn ei basio i’w ffrindiau, eu teulu a'u cymuned ehangach, gan gynnwys eu cydweithwyr.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bobl sydd wedi cael prawf coronafeirws positif, neu sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif, hunanynysu am 10 diwrnod pan fydd gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn dweud wrthynt am wneud hynny. Daw’r cyfarwyddyd hwn drwy gyfrwng galwad ffôn, neges destun neu e-bost. Gall peidio â gwneud hynny arwain at hysbysiad cosb benodedig neu erlyniad troseddol.

Rydym yn eich cynghori’n gryf i hunanynysu os cewch gyfarwyddyd i wneud hynny drwy ap COVID-19 y GIG. Fodd bynnag, nid oes dyletswydd gyfreithiol i wneud hynny oherwydd bod yr amddiffyniadau preifatrwydd ac anhysbysrwydd ar yr ap yn golygu nad yw'n casglu unrhyw fanylion personol.

Os oes gennych symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rydym yn eich cynghori’n gryf i ddilyn y canllawiau cyffredinol ar hunanynysu a threfnu i gael prawf (er nad yw hyn chwaith yn ddyletswydd gyfreithiol).

Rydw i wedi cael prawf coronafeirws positif. Am ba mor hir y bydd angen imi hunanynysu?

Os ydych wedi cael prawf coronafeirws positif ac yn gwybod pa bryd y dechreuodd eich symptomau, mae angen ichi hunanynysu nes y bydd o leiaf 10 o ddiwrnodau wedi pasio ers diwrnod cyntaf eich symptomau.

Ond os ydych wedi cael prawf coronafeirws positif ond yn methu â rhoi gwybod i’r swyddogion olrhain cysylltiadau pa bryd y dechreuodd eich symptomau, neu os nad oes gennych symptomau, rhaid ichi hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl cael y prawf. Darllenwch y canllawiau hunanynysu llawn.

Dydw i ddim wedi cael prawf coronafeirws positif ond mae’r swyddogion olrhain cysylltiadau wedi dweud wrtha i am hunanynysu. Am ba mor hir y bydd angen imi wneud hyn?

Bydd angen ichi hunanynysu am 10 diwrnod.

Os nad ydych yn byw gyda’r person sydd wedi cael prawf coronafeirws positif, mae’r 10 diwrnod yn dechrau o’r tro diwethaf y cawsoch gysylltiad agos â’r person hwnnw. Dylai swyddogion olrhain cysylltiadau roi gwybod ichi beth sydd angen ichi ei wneud.

Os ydych yn byw gyda’r person sydd wedi cael prawf positif, mae’r 10 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod pan wnaethant roi gwybod am eu symptomau. Neu, os nad oes ganddynt symptomau, mae’r 10 diwrnod yn dechrau o’r amser y cawsant y prawf.

Pan fydd swyddog olrhain cyswllt yn eich ffonio, bydd hefyd yn eich cynghori i drefnu prawf PCR cyn gynted â phosibl, ac eto ar ddiwrnod 8. Drwy brofi cysylltiadau asymptomatig, mae'n rhoi cyfleoedd pellach i nodi mwy o achosion cyfeirio a'u cysylltiadau agos na fyddent fel arall yn hysbys i’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, ac mae hyn yn helpu i dorri cadwyni trosglwyddo ymhellach.

Nid yw cymryd prawf yn ddewis yn lle hunanynysu. Os yw'r profion yn negatif, bydd angen ichi hunanynysu o hyd am y cyfnod llawn o 10 diwrnod, oherwydd gall gymryd hyd at 10 diwrnod neu fwy i symptomau ddatblygu, neu i'r feirws ymddangos yn eich system.

Os bydd unrhyw un o ganlyniadau'r profion (y prawf ar unwaith neu brawf diwrnod 8) yn dod yn ôl yn bositif byddwch yn dechrau cyfnod newydd o 10 diwrnod o hunanynysu o'r diwrnod y gwnaethoch gymryd eich prawf.

Rwyf wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu – a oes unrhyw sefyllfaoedd lle gallaf adael fy nghartref o hyd?

Mae rhai eithriadau prin lle cewch adael eich cartref pan ydych yn hunanynysu, os yw’n angenrheidiol:

  • i geisio cyngor meddygol brys, neu ar gais gweithiwr meddygol proffesiynol
  • os oes risg o niwed difrifol ichi, fel i osgoi camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol
  • i ddiwallu rhwymedigaeth gyfreithiol neu i gymryd rhan mewn achos llys, os na ellir gwneud hyn o gartref
  • am resymau tosturiol fel mynd i angladd aelod o’r teulu neu ffrind agos, os ydych wedi cael eich gwahodd
  • i siopa am hanfodion, ond dim ond os nad oes unrhyw un arall a all wneud hyn ac na allwch drefnu i’r nwyddau gael eu danfon atoch
  • i symud tŷ, os oes rhaid gwneud hyn gan nad yw bellach yn bosibl ichi aros yn eich cartref presennol
  • i gael gwasanaethau milfeddygol, os na all unrhyw un arall gludo’r anifail i gael y gwasanaethau hynny

Fodd bynnag, er bod gennych hawl i adael eich cartref at y dibenion hyn, dylech feddwl yn ofalus a oes dewis arall ar gael yn lle gwneud hyn.

Os oes rhaid ichi adael eich cartref ac nad oes gennych ddewis arall, yn yr holl achosion uchod, rhaid ichi fod i ffwrdd o’ch cartref am cyn lleied â phosibl o amser a dylech gymryd pob cam posibl i osgoi’r risg o ledaenu’r feirws. Mae hyn yn cynnwys cadw’r pellter mwyaf oddi wrth bobl, osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a gwisgo gorchudd wyneb.

Nid yw’r eithriadau hyn yn berthnasol i bobl y mae’n ofynnol iddynt hunanynysu ar ôl cyrraedd Cymru o wlad sydd o dan fesurau ychwanegol. Yn yr achosion hyn, rhaid ichi ddilyn y cyngor a nodir yn y canllawiau hunanynysu ar gyfer teithio i Gymru.

Mae cymorth ar gael i bobl sy’n gorfod hunanynysu

Gall pobl wneud cais i am daliad o £500 os ydynt wedi cael prawf coronafeirws positif neu os yw swyddogion Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru neu ap COVID-19 y GIG wedi gofyn iddynt hunanynysu gan eu bod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf coronafeirws positif neu os yw eu plentyn yn gorfod hunanynysu.

Mae’r taliad ar gael i bobl ar incwm isel nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac a fyddai’n colli incwm o ganlyniad i hunanynysu. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i bobl fod yn hunanynysu ac yn derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dal penodedig arall.

Gall pobl hefyd wneud cais i'w hawdurdod lleol am daliad dewisol os nad ydynt yn gallu gweithio gartref a'u bod yn colli incwm ac yn wynebu caledi ariannol. Mae rhieni a gofalwyr plant y gofynnwyd iddynt hunanynysu drwy eu lleoliad addysg hefyd yn gallu gwneud cais

Mae’r cynllun Taliad Hunanynysu wedi bod yn fyw ers 16 Tachwedd 2020. Bydd pobl yn gallu gwneud cais am y taliadau ar wefan eu hawdurdod lleol, a rhaid gwneud hawliad o fewn 21 diwrnod i’r cyfnod o hunanynysu ddod i ben. Gweler y dudalen ar y cynllun cymorth hunanynysu i gael gwybod mwy.

Efallai y bydd pobl sy'n hunanynysu hefyd yn gallu cael cymorth gan fudiadau gwirfoddol yn eu hardal os nad oes ganddynt unrhyw ffrindiau neu deulu sy’n gallu eu helpu i gael bwyd a nwyddau hanfodol eraill.

Mae fy mhlentyn wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu. A oes dyletswydd arno i wneud hynny?

Bydd plant 16 ac 17 oed fel arfer yn cael cyfarwyddyd uniongyrchol gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Dan yr amgylchiadau hynny bydd y plentyn yn cael ei drin fel oedolyn a rhaid iddo hunanynysu yn unol â’r un rheolau.

Gyda phlant iau, rhiant, gwarcheidwad neu oedolyn cyfrifol arall fydd yn cael gwybod bod angen i blentyn hunanynysu. Yn yr achosion hyn y rhiant, gwarcheidwad neu oedolyn cyfrifol sy'n gyfrifol am sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad i hunanynysu. Mewn rhai amgylchiadau, os yw rhiant, gwarcheidwad neu oedolyn cyfrifol yn cael gwybod am blentyn 16 neu 17 oed, bydd angen iddynt gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn hunanynysu.

Os oes rhaid i blentyn hunanynysu oherwydd ei fod wedi dod i gysylltiad â pherson o’r tu allan i’r cartref sydd wedi cael prawf COVID-19 positif, dim ond y plentyn sy’n gorfod cwblhau cyfnod o hunanynysu (nid yr aelwyd gyfan).

A oes rhaid i’m cyflogwr adael imi hunanynysu?

Dylai cyflogwyr alluogi unrhyw weithiwr sy’n gorfod hunanynysu i wneud hynny.  Mae'r canllawiau hunanynysu yn rhoi gwybodaeth am y dystiolaeth y gellir ei darparu i'ch cyflogwr yn cadarnhau'r gofyniad ichi hunanynysu.

A gaf i weithio gartref pan wyf yn hunanynysu?

Os ydych chi’n gallu gweithio gartref, nid oes unrhyw reswm pam na allwch wneud hynny pan fyddwch yn hunanynysu, os oes modd, os ydych yn teimlo’n ddigon da. Dylai eich cyflogwr eich cefnogi i weithio gartref gymaint â phosibl pan ydych yn hunanynysu. Os na allwch weithio gartref, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad hunanynysu neu dâl salwch statudol oherwydd COVID-19 (ar GOV.UK).

Rwyf wedi cael y brechlyn coronafeirws – a oes angen imi hunanynysu o hyd?

Oes – mae'r rheolau yr un fath i bobl sydd wedi cael y brechlyn ag i bawb arall.

Oes angen imi hunanynysu os ydw i wedi cael prawf ac nad oes gen i COVID-19?

Oes – os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru wedi dweud wrthych am hunanynysu, rhaid ichi wneud hynny am y 10 diwrnod llawn. Os ydych yn dal Y coronafeirws gan rywun, gall gymryd amser ichi ddatblygu'r feirws, a dyna pam mae hunanynysu yn bwysig.

Oes angen i mi hunanynysu os ydw i wedi cael y coronafeirws o'r blaen?

Mae'r rheolau yr un fath i bobl sydd wedi cael y coronafeirws o'r blaen ag i bawb arall. Mae'n debyg bod gennych rywfaint o imiwnedd i’r coronafeirws, ond nid yw'n glir am ba mor hir y bydd yr imiwnedd hwnnw'n para. Felly, efallai eich bod yn dal i gario'r feirws ac mewn perygl o'i drosglwyddo i eraill.

Er ei fod yn brin, mae achosion yn bodoli o bobl yn cael eu hailheintio â COVID-19. Yn gyffredinol, mai ailheintio yn golygu bod person wedi cael haint, ac yna yn cael ei heintio eto yn ddiweddarach.

Gweithio gartref

Beth yw'r rheolau ynghylch gweithio gartref?

Rydym yn parhau i annog pobl i weithio gartref os yw hynny’n bosibl. Ond, gall pobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref, ond sy'n gallu gweithio'n ddiogel yn eu gweithleoedd, wneud hynny os yw eu gweithle yn dal ar agor.

Ein canllawiau i gyflogwyr yw na ddylai gweithwyr gael eu rhoi o dan bwysau i ddychwelyd i weithle os nad oes angen busnes clir iddynt wneud hynny. Dylai cyflogwyr sy'n ystyried ei gwneud yn ofynnol i'w staff ddychwelyd i weithleoedd asesu'n gyntaf a oes modd gwneud trefniadau amgen i fodloni’r rhan fwyaf o anghenion y cyflogwr. Dylid trafod hyn gyda staff neu gynrychiolwyr staff.

Beth allaf i ei wneud os wyf yn poeni am y mesurau diogelwch yn fy ngweithle?

Mae'r cyfyngiadau coronafeirws yn gosod rhwymedigaethau ar bobl sy'n gyfrifol am safleoedd lle mae gwaith yn digwydd i gymryd mesurau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl bod busnesau ac eraill yn deall mor ddifrifol yw’r sefyllfa rydym ni fel cymdeithas yn ei hwynebu, ac y byddant yn cymryd y mesurau rhesymol sydd eu hangen.

  • Os oes gennych chi bryderon nad yw rheolau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn yn y gwaith, dylech drafod hyn gyda’ch cyflogwr i ddechrau. Os na allwch ddod o hyd i ddatrysiad, cysylltwch â’ch undeb llafur neu gofynnwch am gyngor gan Acas.
  • Os ydych chi wedi bod yn gwarchod eich hun neu os ydych chi’n pryderu bod mwy o berygl ichi ddioddef symptomau difrifol, gallwch lenwi asesiad risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu. Dylech drafod y canlyniadau gyda’ch cyflogwr, a fydd efallai yn dymuno cymryd camau priodol. Dylech hefyd siarad gyda’ch cynrychiolydd undeb llafur os ydych yn aelod o undeb.

Cymorth ariannol i fusnesau

Pa gymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau?

Mae pecyn cymorth pellach wedi'i gyhoeddi, wedi'i dargedu at fusnesau y mae eu gweithgareddau’n parhau i gael eu heffeithio’n sylweddol gan gyfyngiadau COVID-19. Bydd yn darparu grantiau argyfwng a phontio o hyd at £25k i fusnesau cymwys i helpu i dalu eu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021. 

Bydd y Gronfa Cadernid Economaidd yn cefnogi busnesau:

  1. Sy’n cael eu gorfodi i aros ar gau neu sy’n methu masnachu oherwydd cyfyngiadau parhaus rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021.
  2. Lle mae gofod digwyddiadau ac atyniadau yn cael eu heffeithio’n ddifrifol gan reoliadau cadw pellter cymdeithasol parhaus.
  3. Nad oeddent yn gallu agor dan do cyn 17 Mai 2021, gydag effaith o >60% ar drosiant o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus.
  4. Busnes cadwyn gyflenwi sy'n cynhyrchu 60% neu fwy o'i refeniw gwerthu gan fusnesau sy'n perthyn i gategorïau a), b) a/neu c).

Ac (yn berthnasol i bawb):

  1. Wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol gan lai o drosiant, gwerth 60% neu fwy ym mis Gorffennaf a mis Awst 2021 o'i gymharu â mis Gorffennaf a mis Awst 2019 a achoswyd yn uniongyrchol gan gyfyngiadau COVID-19 parhaus.

Bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Llywodraeth Cymru fydd yn darparu'r cymorth grant i fusnesau sydd â throsiant blynyddol o fwy na £85k ac awdurdodau lleol fydd yn ei ddarparu ar gyfer busnesau sydd â throsiant blynyddol o dan £85k.

Mae gwiriwr cymhwysedd, sy’n dweud faint o arian y bydd busnesau yn gymwys i wneud cais amdano a sut i wneud cais, ar gael ar wefan Busnes Cymru ers 5 Gorffennaf.

Bydd angen i fusnesau cymwys gyflwyno cais a datganiad syml ar-lein i wneud cais hyd yn oed os ydynt wedi derbyn cyllid drwy gylchoedd blaenorol y Gronfa Cadernid Economaidd. Bydd y gwiriwr cymhwysedd yn cyfeirio busnesau i'r lle iawn i wneud eu cais.

Agorodd y cam ymgeisio 13 Gorffennaf a bydd yn agored tan 12pm ddydd Mawrth 27 Gorffennaf.

Dyma fydd y pecyn terfynol o gymorth brys i'r rhai sy'n gallu masnachu, oni bai bod y pandemig yn peri i ni ailgyflwyno mesurau i gau busnesau neu gyfyngiadau masnachu sylweddol iawn.

Mae dros £610 miliwn mewn rhyddhad ardrethi annomestig wedi cael ei roi yn 2021–22. Bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 100% yn 2021–22.  Mae hyn yn golygu na fydd mwy na 70,000 o fusnesau yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi o gwbl am y flwyddyn.

Darllenwch y canllawiau ar y cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch.

Ar 23 Chwefror, cyhoeddwyd £270 miliwn ychwanegol ar gyfer Cronfa Buddsoddi Hyblyg Banc Datblygu Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd mwy na £500 miliwn ar gael drwy'r Gronfa hyd at 2030, i gefnogi llwyddiant a thwf hirdymor cwmnïau.

Dylai'r rhan fwyaf o fusnesau hefyd allu cael gafael ar gymorth penodol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU – gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi neu'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.

Rwy'n gweithio mewn busnes a fydd yn gorfod cau neu y bydd cyfyngiadau’r coronafeirws yn effeithio arno. A fydd cymorth ariannol ar gael i gefnogi fy swydd?

Bydd, dylai busnesau cymwys y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt gael manteisio ar y  cymorth sydd ar gael oddi wrth Lywodraeth y DU drwy'r Cynllun Cadw Swyddi (ar GOV.UK) a fydd nawr yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth 2021.

A oes unrhyw gymorth ar gael i bobl sydd wedi gweld lleihad yn eu hincwm, er enghraifft y bobl ar gontractau dim oriau?

Mae amryw o ddewisiadau cymorth ariannol ar gael os ydych yn cael llai o waith neu ddim gwaith o gwbl oherwydd COVID-19. Gallwch hefyd wneud cais drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol a gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Pa gymorth sydd ar gael i bobl hunangyflogedig a llawrydd?

Mae’n bosibl y bydd pobl hunangyflogedig yn gymwys i hawlio cymorth ariannol drwy’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (ar GOV.UK).

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr llawrydd oedd dydd Mawrth 1 Mehefin, a chafodd yr arian hwn yn ei weinyddu gan awdurdodau lleol Cymru.

Edrychwch hefyd ar wefan Busnes Cymru i gael manylion a unrhyw becynnau cymorth ychwanegol.

Digartrefedd a chael eich troi allan o’ch cartref

Beth os nad oes gennyf gartref, neu os wyf mewn llety anaddas?

Dylai eich awdurdod lleol eich helpu i ddod o hyd i lety addas mewn argyfwng, a’ch cefnogi os nad oes gennych gartref neu os ydych mewn llety anaddas, gan fod ganddynt gyllid i wneud hyn.

Os oes angen cymorth arnoch, dylech gysylltu â’r tîm dewisiadau tai yn eich ardal leol. Bydd eu manylion cyswllt ar wefan eich awdurdod lleol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Shelter Cymru i ddarparu cyngor a chymorth ar dai annibynnol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth, cyngor a chymorth ar wefan Shelter Cymru.

A allaf i gael fy nhroi allan o’m cartref?

Gallwch gael eich troi allan o’ch cartref ar sail heb fai, ond dim ond ar ôl i’r landlord roi chwe mis o rybudd ichi (gellid rhoi cyfnodau byrrach o rybudd mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol). Os na fyddwch yn gadael ar ôl y cyfnod rhybudd hwn, bydd angen i’r landlord geisio gorchymyn adennill meddiant gan y llys. Gweler y canllawiau ar droi allan o’r cartref yn ystod pandemig y coronafeirws i gael rhagor o wybodaeth ar gyfnodau rhybudd a ble i gael cyngor os ydych yn wynebu cael eich troi allan.

Gweler y canllawiau ar dalu eich rhent yn ystod pandemig y coronafeirws i gael rhagor o wybodaeth.

Ble y gallaf gael gafael ar gymorth, cefnogaeth a llety argyfwng os ydw i yn/wedi profi Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Os ydych mewn perygl uniongyrchol o niwed ffoniwch 999. Os yw’n anodd ichi siarad, dilynwch gyfarwyddiadau’r gweithredwr, pesychu neu wneud sŵn fel bod y gweithredwr yn gwybod nad galwad mewn camgymeriad yw hon, a phwyso 55.

Mae llety argyfwng i’r rheini sy’n dianc rhag sefyllfaoedd cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal ar agor ac yn derbyn atgyfeiriadau drwy linell gymorth Byw Heb Ofn.

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth 24 awr am ddim i unrhyw un sy’n profi trais neu’n cael ei gam-drin.

Os ydych chi, aelod o’ch teulu neu ffrind, neu rywun rydych yn pryderi amdano wedi profi camdriniaeth domestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i gael cyngor a chymorth am ddim neu i drafod eich opsiynau. Gallwch gysylltu â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim drwy:

  • Ffonio: 0808 8010 800
  • Decstio: 078600 77333
  • Sgwrs Fyw

Teithio

Beth yw'r rheolau ar gyfer teithwyr domestig sy’n teithio i mewn neu allan o Gymru?  

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar deithio i mewn neu allan o Gymru cyn belled â'ch bod yn teithio i wlad, neu o wlad, sydd o fewn y DU neu'r Ardal Deithio Gyffredin ehangach (Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel). Fodd bynnag, bydd angen ichi wirio'r cyfyngiadau sydd ar waith yn yr ardal yr ydych yn teithio ohoni neu iddi gan fod cyfyngiadau teithio ar waith mewn rhai gwledydd yn yr Ardal Deithio Gyffredin. Gallai hyn eich atal rhag teithio oni bai bod gennych esgus rhesymol, er enghraifft, teithio i'r gwaith neu i gael addysg.

Os ydych yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus byddem yn eich annog i gynllunio eich taith a defnyddio apiau, fel gwiriwr capasiti Trafnidiaeth Cymru, i geisio osgoi teithio yn ystod cyfnodau prysur i'n helpu i gadw pellter cymdeithasol.

Rydym yn gofyn i bawb feddwl yn ofalus am y teithiau y maent yn eu gwneud a'r bobl y maent yn eu cyfarfod. Dylem i gyd feddwl yn ofalus am ble rydyn ni'n mynd a phwy rydyn ni'n cyfarfod â nhw oherwydd y mwyaf o leoedd rydyn ni'n mynd a'r mwyaf o bobl rydyn ni'n cyfarfod â nhw, y mwyaf yw'r siawns o ddal y coronafeirws. Yn benodol, mae hefyd yn synhwyrol osgoi teithio i ardaloedd sydd â chyfradd uwch o achosion ac allan o ardaloedd o’r fath os gallwch.

Mae gan Lywodraeth y DU ganllawiau ar gyfer pobl sy’n byw yn yr ardaloedd lle mae cyfraddau uwch o’r coronafeirws yn cylchredeg (ar GOV.UK). Mae’r canllawiau’n cynghori pobl i deithio cyn lleied â phosibl ac i gael eu profi’n rheolaidd. Mae rheolau gwahanol yn berthnasol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae’n bosibl fod cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o wahanol leoedd yno.

Nid ydym yn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn y DU ar hyn o bryd, ond ein cyngor clir yw na ddylai pobl deithio i ardaloedd lle mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn uchel os oes modd osgoi hynny. Hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu, mae’r risg o ddal COVID-19 yn uwch yn yr ardaloedd hynny, felly dylech osgoi teithio iddynt os oes modd.

Rydym yn annog unrhyw un sy’n bwriadu dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws i brofi eu hunain ddwywaith yr wythnos, gan ddefnyddio’r profion llif unffordd am ddim, cyn iddynt deithio. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau’r coronafeirws ddylai deithio. Dylai pawb sy’n dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda nhw i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau.

Mae pecynnau profion llif unffordd ar gael o bwyntiau casglu lleol ar draws y DU. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn: profion llif unfordd cyflym a rheolaidd ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) - NHS (www.nhs.uk).

Beth yw’r rheolau ar deithio rhyngwladol?

Esbonnir y sefyllfa bresennol o ran teithio rhyngwladol yn y canllawiau hyn, a’r pwyntiau allweddol yw:

O 19 Gorffennaf mae'r gofynion canlynol yn berthnasol ond yn dibynnu ar ble rydych wedi bod yn y 10 diwrnod blaenorol cyn cyrraedd Cymru;

  • Os ydych wedi bod yn yr Ardal Deithio Gyffredin (y DU, Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel) nid oes angen ichi hunanynysu
  • Os ydych wedi bod mewn gwlad sydd ar y rhestr werdd, nid oes angen ichi hunanynysu 
  • Os ydych wedi bod mewn gwlad sydd ar y rhestr oren, rhaid ichi hunanynysu am 10 diwrnod oni bai eich bod wedi'ch brechu'n llawn neu eich bod o dan 18 oed
  • Os ydych wedi bod mewn gwlad sydd ar y rhesr goch yn ystod y 10 diwrnod blaenorol, ni chaniateir ichi ddod i mewn i Gymru (oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol)

Nodwch fod y gofynion hunanynysu a phrofi a esbonnir yn y canllawiau hyn yn seiliedig ar y wlad yn y categori uchaf yr ydych wedi teithio ynddi neu wedi ymweld â hi yn ystod y 10 diwrnod cyn ichi gyrraedd y DU neu Gymru.

O 4am ar 20 Gorffennaf nid yw rheolau'r rhestr oren ar gyfer pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yn y DU yn berthnasol i Ffrainc. Os ydych wedi bod yn Ffrainc yn y 10 diwrnod cyn i chi gyrraedd Cymru, rhaid i chi ddilyn rheolau safonol y rhestr oren.  Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi fod o dan gwarantin am 10 diwrnod ar ôl cyrraedd Cymru a chael prawf COVID-19 ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8. Bydd angen i chi archebu'r profion hyn ymlaen llaw.

Mae pàs COVID y GIG ar gael yn ddigidol i bobl yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o frechlyn ac sydd angen teithio i wlad sy’n gofyn am brawf eich bod wedi caael eich brechu. Gallwch ffonio 0300 303 5667 i ofyn am bàs COVID ar gyfer teithio rhyngwladol os na allwch ddefnyddio pàs COVID digidol y GIG neu os ydych am gael tystysgrif ddwyieithog.

 Dyma’r gofynion ar gyfer teithwyr sy'n cyrraedd o wlad sydd ar y rhestr GOCH:

  1. Rhaid ichi lenwi ffurflen lleoli teithwyr (ar GOV.UK) cyn cyrraedd y DU.
  2. Rhaid ichi gael tystysgrif prawf sy'n dangos ichi gael prawf COVID negatif o fewn 72 awr cyn gadael
    Nid oes angen i blant o dan 11 oed wneud prawf.
  3. Rhaid ichi fod wedi trefnu eich prawf i’w wneud ar Ddiwrnod 2 ar ôl cyrraedd
    Nid oes angen i blant o dan 5 oed wneud prawf.
    Mae'r pecynnau prawf yn costio £170 a gellir eu harchebu drwy Borth CTM (sylwch na chewch archebu prawf drwy ddarparwr profion preifat ar hyn o bryd).
  4. Rhaid ichi fod wedi archebu lle mewn gwesty cwarantin wedi'i reoli sy’n agos at y pwynt mynediad a rhaid ichi (ar GOV.UK) aros yno am 10 diwrnod cyn y gallwch deithio i Gymru. Mae'r pecynnau cwarantin yn dechrau ar £1,750 y pen ar hyn o bryd a gellir eu harchebu drwy Borth CTM

Dyma’r gofynion ar gyfer teithwyr sydd wedi cael eu brechu'n llawn yn y DU a'r rhai o dan 18 oed sy'n cyrraedd o wlad sydd ar y rhestr oren:

  1. Rhaid ichi lenwi ffurflen lleoli teithwyr (ar GOV.UK) cyn cyrraedd y DU.
  2. Rhaid ichi gael tystysgrif prawf sy'n dangos ichi gael prawf COVID negatif o fewn 72 awr cyn gadael
    Nid oes angen i blant o dan 11 oed wneud prawf.
  3. Rhaid ichi fod wedi trefnu eich prawf i’w wneud ar Ddiwrnod 2 ar ôl cyrraedd
    Nid oes angen i blant o dan 5 oed wneud prawf.
    Mae'r pecyn prawf yn costio £88 a gellir ei archebu drwy Borth CTM (sylwch na chewch archebu prawf drwy ddarparwr profion preifat ar hyn o bryd).
  4. Nid oes angen ichi hunanynysu.

I bob teithiwr arall, gan gynnwys y rhai sydd wedi cael eu brechu y tu allan i'r DU, nid yw'r statws brechu yn osgoi nac yn lleihau'r gofynion hunanynysu a phrofi ar ôl cyrraedd Cymru.

Dyma’r gofynion ar gyfer teithwyr nad ydynt wedi cael eu brechu'n llawn yn y DU sy’n cyrraedd o wlad sydd ar y rhestr oren:

  1. Rhaid ichi lenwi ffurflen lleoli teithwyr (ar GOV.UK) cyn cyrraedd y DU.
  2. Rhaid ichi gael tystysgrif prawf sy'n dangos ichi gael prawf COVID negatif o fewn 72 awr cyn gadael
    Nid oes angen i blant o dan 11 oed wneud prawf.
  3. Rhaid ichi fod wedi trefnu eich prawf i’w wneud ar Ddiwrnod 2 a Diwrnod 8 yn ystod eich cyfnod hunanynysu 10 diwrnod
    Nid oes angen i blant o dan 5 oed wneud prawf.
    Mae'r pecyn prawf yn costio £170 a gellir ei archebu drwy Borth CTM (sylwch na chewch archebu prawf drwy ddarparwr profion preifat ar hyn o bryd).
  4. Rhaid ichi hunanynysu am 10 diwrnod. Y gofynion hunanynysu y mae'n rhaid eu dilyn, gan gynnwys hunanynysu ar aelwydydd teuluol, yw'r rhai sy'n gymwys ar y dyddiad cyrraedd yng Nghymru neu weddill y DU.

Dyma’r gofynion ar gyfer teithwyr sy'n cyrraedd o wlad rhestr WERDD;

  1. Rhaid ichi lenwi ffurflen lleoli teithwyr (ar GOV.UK) cyn cyrraedd y DU.
  2. Rhaid ichi gael tystysgrif prawf sy'n dangos ichi gael prawf COVID negatif o fewn 72 awr cyn gadael.
    Nid oes angen i blant o dan 11 oed wneud prawf.
  3. Rhaid ichi fod wedi trefnu eich prawf i’w wneud ar Ddiwrnod 2 ar ôl cyrraedd.
    Nid oes angen i blant o dan 5 oed wneud prawf.
    Mae'r pecynnau prawf yn costio £88 a gellir eu harchebu drwy Borth CTM (sylwch na chewch archebu prawf drwy ddarparwr profion preifat ar hyn o bryd).
  4. Nid oes angen ichi hunanynysu.

Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer gwledydd ar y rhestr WERDD a'r rhestr OREN

Rhaid ichi ddilyn y rheolau yng Nghymru hyd yn oed os cyrhaeddwch Loegr yn gyntaf.  Gallwch gyrraedd Lloegr heb iddi fod yn ofynnol ichi hunanynysu yn Lloegr.  Gallwch deithio drwy Loegr i gyrraedd Cymru ond rhaid ichi ddilyn unrhyw gyfyngiadau lleol yn Lloegr sy'n berthnasol. Gallwch aros dros nos yn Lloegr cyn teithio ymlaen os oes angen. 

Ar gyfer teithwyr sydd heb eu brechu’n llawn sy’n cyrraedd o wlad ar y rhestr Oren, nid oes unrhyw ddarpariaethau sy’n golygu y byddai prawf negatif a gymerwyd cyn teithio neu a gymerwyd yn Lloegr drwy’r Cynllun Profi i Ryddhau neu a gymerwyd wrth gyrraedd Cymru, yn osgoi nac yn lleihau’r gofyniad i hunanynysu yng Nghymru. Nid oes Cynllun Profi i Ryddhau yng Nghymru.

Er mwyn dod i mewn i'r DU, rhaid ichi allu dangos eich bod wedi archebu a thalu am y profion i’w cymryd ar ôl cyrraedd.  Gweler y canllawiau ychwanegol hyn am ofynion profi mewnol.   Os ydych yng Nghymru heb brawf eich bod wedi archebu prawf, gallech gael dirwy o £2,000.  Os ydych yng Nghymru ac wedi archebu profion drwy ddarparwr profion preifat, gallech gael dirwy o £1,000.

Efallai na fydd yn rhaid i gategorïau penodol o bobl sy'n teithio at ddibenion gwaith gymryd rhai profion ac efallai na fydd yn rhaid iddynt hunanynysu neu y gallant adael y lleoliad hunanynysu at ddibenion gwaith.

Ymweliad Byr

  • Rhaid eich bod wedi archebu a thalu am y profion i’w gwneud ar ôl cyrraedd cyn i adael gwlad ar y rhestr OREN.
  • Rhaid eich bod wedi archebu a thalu am y ddau brawf (Diwrnod 2 a Diwrnod 8) hyd yn oed os na fyddwch yn gallu cymryd un ohonynt neu’r ddau.
  • Rhaid ichi aros yn y lleoliad hunanynysu am gyfnod cyfan eich ymweliad, ni allwch gael ymwelwyr ac ni allwch fynd allan i ymweld â phobl eraill ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn megis am resymau tosturiol.
  • Gallwch adael Cymru i ddychwelyd i wlad rhestr OREN ac nid oes angen ichi aros am y 10 diwrnod llawn.

A fydd angen i mi hunanynysu os byddaf yn teithio i Gymru o wlad dramor?

Os ydych wedi bod mewn gwlad sydd ar y rhestr goch yn ystod y 10 diwrnod diwethaf, ni fyddwch yn cael dod i Gymru a bydd raid ichi hunanynysu am 10 diwrnod mewn lleoliad cwarantin wedi’i reoli yn Lloegr neu yn yr Alban. Gweler yr wybodaeth uchod.

Nid oes rhaid i drigolion y DU sydd wedi cael eu brechu'n llawn gydag un o frechlynnau’r GIG fwy na 14 diwrnod yn ôl ac sy'n cyrraedd o wlad ar y rhestr OREN hunanynysu.  

Os nad ydych wedi cael eich brechu’n llawn a’ch bod yn teithio o wlad sydd ar y rhestr oren (unrhyw wlad y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin nad yw ar y rhestr GOCH neu’r rhestr WERDD) rhaid ichi hunanynysu am 10 diwrnod.

Os ydych chi’n cyrraedd o wlad ar y rhestr werdd nid oes angen ichi hunanynysu.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau ar y gofynion profi ac ynysu wrth deithio i Gymru.

A gaf i fynd i faes awyr i ddanfon neu gasglu rhywun os ydynt yn teithio i Gymru am reswm sy’n cael ei ganiatáu?

Cewch, os mai'r unig ddewis arall fyddai iddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu dacsi. Dilynwch y canllawiau ar deithio'n ddiogel.

Gorfodi a dirwyon

Pwy sy'n gorfodi'r cyfyngiadau?

Caiff y cyfyngiadau eu gorfodi gan swyddogion gorfodi awdurdodau lleol a'r heddlu.

Beth gaiff yr heddlu a swyddogion gorfodi awdurdodau lleol ei wneud?

Cânt gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig neu argymell erlyn mewn llys ynadon. Yn ogystal, mae ganddynt bwerau eang i gymryd camau ymarferol i wasgaru cynulliadau, ei gwneud yn ofynnol i bobl fynd adref a chael mynediad i eiddo.

Beth os na chymerir camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn safle neu weithle?

Mae swyddogion gorfodi yr awdurdodau lleol yn gallu cyflwyno hysbysiad gwella mangre. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n gyfrifol am y safle (a elwir yn ‘fangre’ yn y ddeddfwriaeth) gymryd camau penodedig ac, os na chymerir y camau hynny, gall swyddog gyflwyno ‘hysbysiad cau mangre’ a fydd yn golygu y bydd yn rhaid cau'r safle. Gall swyddogion hefyd gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig, gan ddechrau o £1,000 am drosedd gyntaf a chodi gydag unrhyw droseddau pellach.

Pan fo’n angenrheidiol, caiff swyddog hefyd roi hysbysiad cau mangre heb fod wedi rhoi hysbysiad gwella mangre cyn hynny.

Felly, os na fydd pobl yn cydymffurfio, gellir cau'r fangre.

Beth fydd yr heddlu yn ei wneud?

Bydd yr heddlu yng Nghymru yn trafod â phobl, yn esbonio beth sydd angen iddynt ei wneud ac yn eu hannog i gydymffurfio. Ond rhoddwyd pwerau i'n heddluoedd a byddant yn eu defnyddio – caiff y cyfyngiadau eu gorfodi os na fydd pobl yn ymateb.

Beth yw'r cosbau ariannol?

Mae rheoliadau'r coronafeirws yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyflwyno hysbysiad cosb benodedig ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o dorri'r rheoliadau, gan gynnwys dirwy o £60; bydd hyn yn codi i £120 am ail drosedd ac fe fydd yn parhau i ddyblu ar gyfer troseddau yn dilyn hynny, hyd at uchafswm o £1,920. Fodd bynnag, os caiff yr unigolyn ei erlyn, caiff llys orfodi unrhyw ddirwy (nid oes uchafswm).

Mae trefnu digwyddiad cerddoriaeth didrwydded ar gyfer mwy na 30 o bobl yn drosedd ar wahân. Digwyddiadau yw'r rhain nad ydynt wedi'u trwyddedu neu eu hawdurdodi fel arall o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Bydd torri'r gwaharddiad hwn yn drosedd y gellir ei chosbi drwy gollfarn a dirwy ddiderfyn neu, yn lle collfarn, drwy gosb benodedig a bennir ar £10,000.  

Mae'r ddirwy ddiderfyn neu gosb benodedig sylweddol i drefnwyr y digwyddiadau anghyfreithlon hyn yn adlewyrchu'r canlyniadau difrifol posibl i iechyd y cyhoedd ar hyn o bryd.

Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn deall difrifoldeb y sefyllfa rydym yn ei hwynebu ac y byddant yn cydymffurfio â'r rheoliadau, heb orfod eu cosbi.