Is-bwnc
Cyfyngiadau cyfredol
Newidiadau diweddar a newidiadau i ddod
O 26 Ebrill
Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu, bydd modd cymryd y camau llacio canlynol:
- caniatáu i letygarwch awyr agored agor
- caniatáu gweithgareddau awyr agored a drefnwyd ymlaen llaw ar gyfer hyd at 30 o bobl
- caniatáu derbyniadau priodas awyr agored ar gyfer hyd at 30 o bobl
- caniatáu i atyniadau ymwelwyr awyr agored agor
O 12 Ebrill
- codi’r cyfyngiadau ar deithio o fewn y Deyrnas Unedig a’r Ardal Deithio Gyffredin
- yr holl ddisgyblion a myfyrwyr i ddychwelyd i ysgolion a lleoliadau addysg bellach
- caiff campysau prifysgolion agor ar gyfer dysgu cyfunol wyneb yn wyneb ac ar-lein ar gyfer yr holl fyfyrwyr
- caiff yr holl siopau a gwasanaethau cysylltiad agos agor
- bydd lleoliadau priodas yn cael gadael i ddarpar gleientiaid ymweld â’u safle drwy apwyntiad yn unig