Y dogfennau i'w defnyddio ar gyfer gwneud cais i'n Huned Adolygu Caffael adolygu penderfyniadau dethol darparwyr.
Manylion
Mae'n bosibl y bydd penderfyniadau dethol darparwyr o dan Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru yn cael eu hadolygu. Mae'n rhaid i ddarparwyr ystyried y dogfennau canlynol cyn anfon sylw at yr Uned:
- gweithdrefnau sy'n nodi sut y bydd yr Uned yn adolygu penderfyniadau
- meini prawf cymhwysedd cyn gofyn i'r Uned adolygu penderfyniadau dethol darparwyr
- pecynnau cymorth y Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru
- canllawiau statudol Cyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru
- Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025
Dylid gwneud pob sylw drwy ffurflen yr Uned Adolygu Caffael.