Skip to main content

Dim ond 7 wythnos sydd i fynd nes Procurex Cymru 2020 a Gwobrau GO Cymru ac mae’r agendâu yn dod at ei gilydd er mwyn darparu diwrnod arall gwych o ddysgu a rhwydweithio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau yn cynnwys:

  • Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid 
  • Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
  • Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd 
  • Cath Hill, Cyfarwyddwr Grŵp, CIPS 
  • Emma Waldron, Rheolwr Risg, Caffael a Llywodraeth, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Mae llawer mwy bellach wedi'u rhestru ar y wefan - cymerwch ennyd i edrych ar y wefan a dechrau cynllunio eich diwrnod.

 Byddem yn eich annog i archebu eich lle – gall personél y sector cyhoeddus fynychu am ddim, ac mae eich tocynnau yn cynnwys pecyn arlwyo. Cliciwch yma i archebu ar-lein heddiw.

Peidiwch ag anghofio bod dal modd cyflwyno cais ar gyfer Gwobrau GO Cymru'n. Mae'r broses yn weddol syml, ac mae hyn yn gyfle gwych i chi gydnabod y gwaith rydych chi a'ch timau yn ei wneud – beth am roi cynnig arni a bloeddio amdano!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y naill ddigwyddiad neu'r llall cysylltwch â'r trefnwyr yn uniongyrchol: events@procurexwales.co.uk neu enquiries@goawards.co.uk

Rhannu’r dudalen hon