Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu’r darpariaethau yn Rhan 4 a Rhan 5 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).
Cynnwys
DTGT/5000 Cyfrifo’r dreth
Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud ag adrannau 39 i 45 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017. Maen nhw’n cwmpasu'r meysydd canlynol:
- dyletswydd ar weithredwr safle tirlenwi (LSO) i ddychwelyd ffurflen dreth
- cyfrifo'r dreth sy'n daladwy a swyddogaeth anfoneb dirlenwi
- talu, ad-dalu ac adennill treth
- dyletswydd ar weithredwr safle tirlenwi i gadw crynodeb treth o warediadau tirlenwi
Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â Phennod 3, Rhan 3 o DCRhT, ac mae canllawiau i’w gweld yn DCRhT/1010 - DCRhT/1150.
DTGT/5010 Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth
Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi ddychwelyd ffurflen dreth i ACC mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu. Rhaid i’r ffurflen dreth gynnwys asesiad o swm y dreth sydd i’w chodi a gwneud datganiad bod yr wybodaeth a ddarparwyd ganddynt yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf eu gwybodaeth.
Pan fo gweithredwr safle tirlenwi wedi awdurdodi asiant i weithredu ar ei ran, rhaid i'r ffurflen dreth gynnwys ardystiad gan yr asiant bod y gweithredwr wedi datgan bod y ffurflen yn gywir.
Ar gyfer gweithredwyr safleoedd tirlenwi cofrestredig, mae'r cyfnod cyfrifyddu cyntaf fel arfer yn dechrau ar y diwrnod y maen nhw’n dechrau cynnal gweithrediadau trethadwy; os yw’n ddiweddarach, ar y diwrnod y byddan nhw’n cofrestru gyda ACC. Daw'r cyfnod hwn i ben ar y diwrnod a roddwyd iddyn nhw gan ACC. O hynny ymlaen, y cyfnod cyfrifyddu fydd pob cyfnod dilynol o 3 mis (gweler DTGT/5020 ar gyfnodau cyfrifyddu amrywiol am yr eithriad i’r rheol hon).
Rhaid dychwelyd ffurflenni treth ynghyd ag unrhyw daliad treth fan bellaf ar y diwrnod gwaith olaf o bob mis yn dilyn y mis pryd mae’r cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben (y ‘dyddiad llenwi’). (gweler DTGT/5020 ar gyfnodau cyfrifyddu amrywiol am yr eithriad i’r rheol hon).
Er enghraifft, os yw cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar 30 Mehefin, rhaid cyflwyno ffurflen dreth a thalu'r dreth erbyn y diwrnod gwaith olaf ym mis Gorffennaf.
O ran gweithredwyr safleoedd tirlenwi sydd heb gofrestru, mae dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth yn dal i fod ac mae'r cyfnod cyfrifyddu cyntaf yn dechrau ar y diwrnod y dechreuodd y gweithredwr gynnal gweithrediadau trethadwy hyd at ddiwedd y chwarter calendr pryd mae’r unigolyn yn dechrau cynnal gweithrediadau trethadwy (gweler DTGT/3100 am y ddyletswydd i gofrestru ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi). Er enghraifft, os yw’r gweithrediadau trethadwy yn dechrau ar 3 Ebrill, bydd y cyfnod cyfrifyddu cyntaf yn dod i ben ar 30 Mehefin (gyda 31 Gorffennaf yn ddyddiad ffeilio). O hynny ymlaen, bob chwarter calendr y bydd pob cyfnod cyfrifyddu (sef cyfnod o 3 yn dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr).
Gall gweithredwr y safle tirlenwi ddiwygio ffurflen TGT o fewn 12 mis i’r dyddiad ffeilio drwy hysbysu ACC (DCRhT/1020).
Mae rhagor o wybodaeth am ddiwygio ffurflenni treth ar gael yng nghanllawiau ACC, Sut mae diwygio eich ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi.
DTGT/5020 Pŵer i amrywio cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad ffeilio
Gellir gwneud cais am amrywio hyd cyfnod cyfrifyddu a'r dyddiad ffeilio ar gyfer ffurflen dreth, er mwyn cyd-fynd â phrosesau busnes.
Rhaid i weithredwr safle tirlenwi cofrestredig wneud cais ysgrifenedig i ACC i newid cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad ffeilio.
Rhaid i ACC roi hysbysiad o'i benderfyniad i'r gweithredwr safle tirlenwi. Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, bydd yr hysbysiad yn cynnwys manylion yr amrywiad. Os bydd y cais yn cael ei wrthod, bydd ACC yn rhoi hysbysiad o hyn. Gall ACC ei hun hefyd amrywio naill ai hyd cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad ffeilio.
DTGT/5030 Cofnodion
haid i weithredwr safle tirlenwi gadw’r cofnodion sydd eu hangen er mwyn gallu cyflwyno ffurflen dreth gyflawn a chywir . a gallu dangos hyn i ACC yn ddiweddarach. Ymdrinnir â gofynion cadw cofnodion cyffredinol yng nghanllawiau Deddf Casglu a Rheoli Trethi yn DCRhT/1140.
Mae cofnodion penodol ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi yn cynnwys y canlynol:
- cofnodion busnes a chyfrifyddu
- nodiadau trosglwyddo ac unrhyw gofnodion gwreiddiol neu gopïau mewn perthynas â’r deunyddiau sydd wedi cyrraedd neu wedi gadael safle tirlenwi
- pob anfoneb (gan gynnwys anfonebau tirlenwi) a dogfennau tebyg y mae gweithredwr y safle tirlenwi yn eu cyhoeddi neu’n eu derbyn
- pob nodyn credyd a debyd neu ddogfennau eraill a dderbyniwyd sy’n dystiolaeth o gynnydd neu ostyngiad yn swm unrhyw ystyriaeth ar gyfer trafodiad perthnasol y mae gweithredwr y safle tirlenwi yn ei gyhoeddi neu’n ei dderbyn
- cofnodion colled ar brofion tanio
- cytundeb dull pwyso arall
- cofnod(ion) credyd ansolfedd cwsmer
- cofnod(ion) man nad yw at ddibenion gwaredu
- os yw’n berthnasol, arolygon safle a dadansoddiadau cemegwyr o wastraff a dderbyniwyd i’w waredu.
- cyfanswm y tunelli o wastraff a dderbyniwyd i’w waredu yn y safle tirlenwi, gyda chofnodion ar wahân ar gyfer gwastraff cyfradd safonol, gwastraff cyfradd is, gwastraff sy’n destun rhyddhad a gwastraff wedi'i eithrio.
- cofnodion disgownt dŵr
Rhestr ddangosol o’r dogfennau gofynnol yw hon ond nid yw’n rhestr gyflawn.
Mae’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi a’r Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi yn nodi am ba hyd mae’n rhaid cadw’r cofnodion a restrir uchod a fydd yn golygu’n gyffredinol bod angen cadw cofnodion am o leiaf chwe blynedd ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth. Gall y cyfnod hwn fod yn hirach os yw ffurflen dreth wedi'i newid neu os bu ymchwiliad i’r ffurflen dreth.
DTGT/5040 Treth i’w chodi mewn cysylltiad â chyfnod cyfrifyddu ac anfonebau tirlenwi
Mae’r dreth i'w chodi am warediad a gafodd ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig yn cael ei chodi am y cyfnod cyfrifyddu pryd cafodd y gwarediad ei wneud.
Er enghraifft, os cafodd gwarediad trethadwy ei wneud ar 1 Mawrth, byddai treth yn cael ei chodi yn y cyfnod cyfrifyddu a ddaw i ben ar 31 Mawrth.
Yr eithriad i hyn yw pan fydd gweithredwr safle tirlenwi yn cyhoeddi anfoneb dirlenwi mewn perthynas â gwarediad. Mae cyhoeddi anfoneb dirlenwi (ynghyd â’r wybodaeth sy'n ofynnol yn ôl y ddeddfwriaeth ac sy’n cael ei hegluro yn DTGT/5050) yn golygu y bydd y dreth sy’n daladwy ar warediad yn ddyledus yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y cyhoeddwyd yr anfoneb ynddo, yn hytrach na'r cyfnod cyfrifyddu y gwneir y gwarediad ynddo.
Er mwyn manteisio ar y rheol hon, rhaid cyhoeddi'r anfoneb cyn pen 14 diwrnod i’r gwarediad, gan ddechrau gyda'r diwrnod y gwneir y gwarediad. Gall hyn olygu bod gwarediad yn cael ei wneud yn ystod un cyfnod cyfrifyddu a bod yr anfoneb am y gwarediad hwnnw yn cael ei chyhoeddi yn ystod y cyfnod cyfrifyddu nesaf. Yn y senario hwn, mae’r dreth yn daladwy yn ystod y cyfnod cyfrifyddu diweddarach.
Er enghraifft, os yw gweithredwr safle tirlenwi yn defnyddio chwarteri calendr fel ei gyfnodau cyfrifyddu a bod gwarediad trethadwy yn cael ei wneud ar 28 Mehefin ac y cyhoeddir anfoneb dirlenwi mewn perthynas ag ef ar 1 Gorffennaf, y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer y gwarediad hwnnw fydd y chwarter calendr sy'n dod i ben 30 Medi yn hytrach na 30 Mehefin.
Os yw gweithredwr safle tirlenwi yn dymuno ymestyn y cyfnod o 14 diwrnod (h.y. er mwyn iddynt allu cyhoeddi anfoneb dirlenwi fwy na 14 diwrnod ar ôl y gwarediad a dal i fanteisio ar y rheol y bydd y dreth yn daladwy yn y cyfnod cyfrifyddu hwnnw), bydd yn rhaid iddo wneud cais ysgrifenedig i ACC. Gall y cais hwn ymwneud â'r holl warediadau a wneir ar y safle tirlenwi neu â disgrifiad penodol o warediadau.
Bydd ACC yn gwneud penderfyniad ar gais o'r fath ac yn hysbysu gweithredwr y safle tirlenwi o’u penderfyniad. Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, rhaid i'r hysbysiad nodi'r cyfnod hirach a'r gwarediadau trethadwy y mae'r cyfnod hirach hwn yn berthnasol iddynt. Gall ACC roi hysbysiad pellach yn amrywio neu'n tynnu'r gymeradwyaeth yn ôl.
Os nad yw gweithredwr y safle tirlenwi am fanteisio ar y rheol sy'n dweud bod y dreth yn daladwy yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y cyhoeddir yr anfoneb, mae angen iddo hysbysu ACC o hyn cyn i anfoneb dirlenwi gael ei chyhoeddi. Gall gweithredwr safle tirlenwi amrywio neu dynnu'r hysbysiad hwn yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ACC.
Amlinellir cynnwys anfoneb dirlenwi yn adran nesaf y canllawiau (DTGT/5050). Rhaid i anfoneb fodloni'r gofynion fel yr eglurir yn yr adran honno os yw gweithredwr y safle tirlenwi yn dymuno manteisio ar y rheol a drafodir uchod.
DTGT/5050 Anfoneb Dirlenwi
Nodir cynnwys anfoneb dirlenwi yn Atodlen 3 Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi. Rhaid i anfoneb dirlenwi gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Rhif adnabod (dylai'r rhif hwn fod yn unigryw)
- Dyddiad dyroddi’r anfoneb
- Enw a chyfeiriad y person sy’n rhoi’r anfoneb
- Y rhif cofrestru a aseinir i’r person hwnnw gan ACC
- Enw a chyfeiriad y person y rhoddir yr anfoneb iddo
- Dyddiad gwneud y gwarediad trethadwy
- Disgrifiad o’r deunydd yn y gwarediad trethadwy
- Cyfradd y dreth sydd i’w chodi ar y deunydd yn y gwarediad trethadwy
- Pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy
- Unrhyw ddisgownt a gymhwysir o dan adran 19(3) o Ddeddf TGT mewn cysylltiad â dŵr sydd yn y deunydd
- Unrhyw ryddhad a hawlir mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy
- Swm y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy
- Cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r anfoneb
Pan roddir anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, rhaid iddi ddangos, mewn cysylltiad â phob gwarediad, yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6 i 12 uchod.
DTGT/5060 Talu'r dreth
Rhaid i swm y dreth sydd yn y ffurflen dreth gael ei thalu ar neu cyn diwrnod ffeilio’r ffurflen dreth
Bydd llenwi'r ffurflen dreth yn hwyr neu dalu’r dreth yn hwyr yn golygu bod gweithredwr y safle tirlenwi yn agored i gosbau. Mae mwy o wybodaeth am gosbau ar gael yn ein canllawiau technegol ar y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi.
Os yw gweithredwr safle tirlenwi yn diwygio’r ffurflen, rhaid i'r dreth gael ei thalu ar y dyddiad llenwi fan bellaf (os yw’r ffurflen yn cael ei diwygio cyn y dyddiad llenwi) neu pan fydd yr unigolyn yn rhoi gwybod am y diwygiad i ACC (os yw’n cael ei diwygio ar ôl y dyddiad llenwi). Mae canllaw ar y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi yn ymdrin â gofynion talu pan mae ffurflen dreth yn cael ei diwygio mewn amgylchiadau eraill (er enghraifft gan ACC neu yn ystod ymchwiliad).
Yn gyffredinol, y dreth fel y'i hasesir ar y ffurflen dreth yw'r dreth a godir. Pan fydd hawliad i gredyd ansolfedd cwsmer yn gysylltiedig, gall yr atebolrwydd newid. Gweler ein canllawiau technegol ar gredyd ansolfedd cwsmeriaid
DTGT/5070 Dyletswydd i gadw crynodeb o’r dreth gwarediadau tirlenwi
Rhaid i bob gweithredwr safle tirlenwi gadw cofnod a elwir yn grynodeb treth gwarediadau tirlenwi. Mae angen y crynodeb hwn ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu a rhaid iddo gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- swm y dreth sy'n daladwy
- swm y credyd treth a hawliwyd (os yn berthnasol)
- swm y dreth a dalwyd
Gall ACC nodi cynnwys a fformat y cofnod hwn ymhellach.
Mae crynodeb treth gwarediadau tirlenwi yn gofnod sy'n rhaid ei gynnal a’i gadw yn unol ag adran 38 (1) DCRhT. Gall methu â chadw'r cofnodion hyn arwain at gosb am fethu â chadw cofnodion cywir ac o bosibl gosb am anghywirdeb. Gweler ein canllawiau DCRhT ar gosbau am ragor o wybodaeth.
DTGT/5080 Gohirio adennill y dreth
Pan fydd gweithredwr safle tirlenwi yn gofyn i ACC adolygu penderfyniad, neu’n apelio i’r tribiwnlys treth yn erbyn penderfyniad gan ACC, oherwydd ei fod yn meddwl bod gormod o dreth wedi cael ei chodi, caiff ofyn i ACC ohirio adfer y dreth (neu ran ohoni).
Wrth wneud cais i ohirio, rhaid i weithredwr y safle tirlenwi nodi’r wybodaeth ganlynol:
- y swm perthnasol o dreth
- y rhesymau pam maen nhw'n meddwl bod swm y dreth a godir yn ormodol
- pam eu bod yn credu y byddai adennill y dreth yn achosi caledi ariannol
Caiff ACC roi cais am ohirio pan fydd yn meddwl bod gan weithredwr y safle tirlenwi sail resymol i feddwl fod y swm yn ormodol a phan fydd yn meddwl y byddai’n achosi caledi ariannol i weithredwr y safle tirlenwi petai’n mynd ati i adfer y swm. Bydd angen ystyried hyn fesul achos, ond caiff gynnwys amgylchiadau pryd mae anghydfod dilys rhwng ACC a gweithredwr safle tirlenwi (er enghraifft yn ymwneud â dehongli'r gyfraith) a phan allai talu'r dreth cyn setlo’r anghydfod hwnnw olygu effaith ariannol sylweddol a niweidiol ar redeg y safle tirlenwi.
Os yw ACC yn cytuno i ohirio cyn adfer y dreth, caiff wneud amod i weithredwr y safle tirlenwi roi sicrhad digonol.