Mae'n rhaid i fusnesau sy'n cyflenwi ac yn defnyddio deunydd pecynnu dalu am ei reoli pan fydd yn troi’n wastraff.
Cynnwys
Y cynllun
Mae EPR ar gyfer deunydd pecynnu yn un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Mae'n golygu y bydd yn rhaid i fusnesau sy'n cyflenwi ac yn defnyddio deunydd pecynnu dalu am ei reoli pan fydd yn troi’n wastraff.
Pwy sy'n rheoli'r cynllun
Pecyn UK [GOV.UK] yw gweinyddwr y cynllun sy'n gweithredu ar ran pedair gwlad y DU. Bydd hefyd yn cael ei alw'n Pecyn UK.
Bydd yn:
- Gosod cyfraddau’r ffioedd ar gyfer deunydd pecynnu
- Derbyn ar gyfer throi eu deunydd pecynnu yn sbwriel.
Pam mae’n bwysig
Mae'r cynllun ledled y DU yn anelu at:
- leihau deunydd pecynnu diangen
- cynyddu effeithlonrwydd adnoddau ac ansawdd a maint ailgylchu
- lleihau faint o ddeunydd pecynnu sydd mewn ffrydiau gwaredu gwastraff
- lleihau sbwriel o ddeunydd pecynnu, a
- annog ailddefnyddio deunydd pecynnu
Rydym eisoes ar y blaen ar lefel fyd-eang o ran ailgylchu, ac rydym am anelu’n uwch. Ond nid oes atebion ailgylchu ar gyfer sawl math o becynnu yn bodoli neu maent yn ddrud eu rheoli. Mae cyflwyno EPR ar gyfer deunydd pecynnu yn ffordd o wella ailgylchu. Bydd hefyd yn helpu'r sector i ddatgarboneiddio trwy gefnogi trawsnewidiad sylweddol.
Y nod yw:
- mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur
- aeiladu economi gryfach a gwyrddach
- bod yn sero net yng Nghymru erbyn 2050
Cyhoeddwyd datganiad polisi ar 27 Ionawr sy'n nodi'r hyn y bydd Pack UK yn ei wneud yn ei flwyddyn gyntaf: Datganiad polisi ar y cyd ar gyfer y Deyrnas Unedig ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith [GOV.UK]
Ymgynghoriadau
Fe wnaethom ymgynghori ar yr EPR ar gyfer pecynnu, fel a ganlyn:
- Ymgynghoriad ar ddiwygio system cyfrifoldeb cynhyrchwyr pecynnu y DU Chwefror 2019 [DEFRA.GOV.UK]
- Dogfen Ymgynghori Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchydd dros Becynnu 24 Mawrth 2021 [DEFRA.GOV.UK].
Cyhoeddom Gyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig ar gyfer Pecynnu: crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad ac ymateb y llywodraeth 26 Mawrth 2022 [GOV.UK]
Cyhoeddom yr Ymgynghoriad ar y Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchydd (Pecynnu a Gwastraff Pecynnu) drafft [2024] 28 Gorffennaf 2023 [DEFRA.GOV.UK]
Ffioedd sylfaen EPR darluniadol
Rydym bellach yn cyhoeddi'r cyfraddau ffioedd sylfaenol EPR pecynnu enghreifftiol ar gyfer 2025/26 [GOV.UK]