Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio: asesiad effaith integredig
Crynodeb o effaith cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig am ddeunyddiau pacio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Teitl y cynnig: Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio
Swyddog(ion) sy’n llenwi’r Asesiad Effaith Integredig (enw(au) ac enw’r tîm):
Dan Stevenson
Erika Dawson
Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol
Adran: Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Pennaeth yr Is-adran/Uwch-Swyddog Cyfrifol (enw):
Rhodri Asby
Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol
Yr Ysgrifennydd Cabinet/y Gweinidog cyfrifol: Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Dyddiad Cychwyn: 01/01/2025
Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd a pham?
Ar ffurf naratif, disgrifiwch y mater dan sylw a’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig. Sut yr ydych wedi cymhwyso/sut y byddwch yn cymhwyso’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i'r camau arfaethedig, drwy gydol y cylch polisi a chyflawni?
Amcanion polisi trosfwaol cynllun Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd (EPR) ar gyfer deunydd pacio yw'n helpu i fod yn ddi-wastraff erbyn 2050, ein helpu i ddefnyddio llai o ddeunyddiau crai newydd a chyfrannu at wneud Cymru'n economi gylchol a charbon sero net. Bydd y diwygiadau'n trosglwyddo'r gost o waredu deunydd pacio i'r cynhyrchydd, a thrwy hynny cymell defnydd mwy effeithlon ar adnoddau, gwella cyfraddau ailgylchu Cymru ymhellach a lleihau sbwriel. Bydd y cynllun yn disodli'r cynllun presennol lle mae'r cynhyrchwyr ond yn talu am hyd at 7% o'r costau [1].
Yr egwyddor sy'n diffinio EPR yw mai'r 'llygrwr sy'n talu', sef y rheini sy'n gwneud y cynnyrch sy'n achosi'r llygredd sy'n talu am holl yr gostau pan fydd y cynnyrch hwnnw'n troi'n wastraff. Bydd y ffioedd y bydd gofyn i gynhyrchwyr eu talu yn cael eu modiwleiddio fel y bydd ffïoedd uwch am y cynhyrchion sydd ag effeithiau amgylcheddol uwch a ffioedd is am y rheini sydd ag effeithiau is. Bydd hyn yn cymell busnesau i ystyried effaith y deunydd pacio a ddefnyddir ar hyd cylch bywyd y cynnyrch, gan ymgorffori atal.
Wrth ddatblygu'r diwygiadau hyn i'r EPR, mae Llywodraeth Cymru wedi cymhwyso egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd y cynllun yn cymell cynhyrchwyr i ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithiol ac i gyfrannu at symud tuag at economi fwy cylchol yng Nghymru, lle y mae gwastraff yn cael ei osgoi a lle y mae adnoddau’n cael eu defnyddio cyhyd ag sy'n bosibl. Mae hyn yn rhan hanfodol o'r camau hirdymor sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, gan greu cyfleoedd economaidd wrth newid i economi carbon sero.
Mae'r diwygiadau'n rhan o set ehangach o gamau integredig i gyflawni amcanion y rhaglen lywodraethu, gan wneud cyfraniad allweddol at yr ymrwymiad i ddatgarboneiddio economi Cymru. Wrth ddatblygu'r cynllun, rhoddwyd ystyriaeth i'r angen am weithredu integredig i sicrhau canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'r nodau hyn yn cyd-fynd â nodau sefydliadau eraill o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat yng Nghymru, o ran ymateb i'r argyfwng hinsawdd a datgarboneiddio ein heconomi.
Gwnaethom ddatblygu'r cynllun gyda chydweithrediad partneriaid allweddol, gan gynnwys llywodraethau eraill y DU, Awdurdodau Lleol Cymru a chyfranogwyr o bob rhan o gadwyn gwerth y diwydiant pecynnu. Bydd rhoi'r diwygiadau hyn ar waith yn llwyddiannus yn gofyn am gydweithrediad parhaus ar draws y gadwyn becynnu, gan gynnwys gwneuthurwyr deunydd pacio, cynhyrchwyr nwyddau wedi'u pecynnu, llenwyr deunydd pacio, manwerthwyr, awdurdodau lleol, ailgylchwyr a chyrff gwaredu, defnyddwyr ac aelodau'r cyhoedd.
Mae ymgysylltu wedi bod yn sylfaenol i ddatblygu'r cynllun, gan gynnwys trwy'r ymrwymiad i EPR yn Mwy nag Ailgylchu, strategaeth yr economi gylchol. Wrth ddatblygu'r strategaeth, cynhaliwyd dros 40 o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru, cysylltwyd â thua 1,000 o randdeiliaid a chynhaliwyd digwyddiadau penodol i dargedu pobl ifanc, busnesau, awdurdodau lleol, y sector gwastraff, grwpiau amgylcheddol, y byd academaidd ac eraill.
Cynhaliwyd hefyd sawl ymgynghoriad yn benodol ar gynllun yr EPR, ar y cyd â llywodraethau'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cynhaliwyd y cyntaf yn 2019, ar gyflwyno'r cynllun. Roedd yr ail, a gynhaliwyd yn 2021, yn ceisio barn ar gynigion polisi penodol. Bu hwnnw'n amhrisiadwy o ran sicrhau bod y diwygiadau'n ymarferol ac yn effeithiol, ac roedd mwyafrif llethol yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cymeradwyo'r cynigion. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft yn haf 2023; law yn llaw â hwnnw, cynhaliwyd digwyddiadau i drafod manylion y cynllun â chynrychiolwyr o bob rhan o'r gadwyn becynnu, o ran ei ddyluniad a sut i'w roi ar waith. Er mwyn cryfhau cyfranogiad y gadwyn werth ymhellach, sefydlwyd Grŵp Llywio Gweinyddwyr y Cynllun yn 2024, i roi cyngor ar fanylion dylunio a gweithredu. Roedd cynrychiolwyr ar y Grŵp Llywio hwn o gymdeithasau masnach y busnesau yr effeithir arnynt, ac awdurdodau lleol a sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, i sicrhau bod cynrychiolaeth eang arno.
Prif effaith y cynllun fydd cymell pobl i ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon, sy'n hanfodol er mwyn i Gymru allu newid i fod yn economi gylchol. Mae hynny'n rhan o'r disgrifiad statudol o'r nod 'Cymru lewyrchus'. Bydd rhoi'r cyfrifoldeb am reoli cynhyrchion ar ddiwedd eu hoes i'r busnesau hynny sy'n rhoi'r cynhyrchion hynny ar y farchnad yn cymell busnesau i wneud penderfyniadau mwy amgylcheddol gyfrifol ac effeithlon o ran adnoddau. Drwy gydol datblygiad y cynllun, ymgynghorwyd ag ystod eang o fusnesau a chyrff masnach i wneud y mwyaf o effaith gadarnhaol EPR. Bydd sut i reoli'r costau hyn yn benderfyniad masnachol i bob cynhyrchydd unigol. Bydd rhai am amsugno'r costau, bydd rhai eraill am ddefnyddio llai o ddeunydd pacio neu newid y deunyddiau a ddefnyddir, a bydd rhai eraill am basio'r costau i'r defnyddiwr. Os y bwriad yw pasio'r costau i'r defnyddiwr, y rheini sy'n prynu llawer o gynhyrchion â llawer o ddeunydd pacio amdanynt fydd yn teimlo'r effaith fwyaf.
Yr amcangyfrif canolog o Werth Net Presennol cyflwyno'r cynllun yng Nghymru yw - £8.22 miliwn. Erbyn 2034, rhagwelir y bydd y cynllun yn arbed tua 23kt o allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn yng Nghymru, a 149kt dros y cyfnod arfarnu o 10 mlynedd.
Ceir arbedion amhosib eu mesur hefyd wrth ddefnyddio llai o ddeunyddiau crai newydd ac yn sgil buddion amgylcheddol ac economaidd cysylltiedig, ac yn sgil hefyd creu system fwy sefydlog a thryloyw a fydd yn datrisgio buddsoddiadau mewn arloesi ac yn annog cynllunio strategol. Mae Llywodraeth Cymru yn deall y bydd yr arian gaiff ei dalu gan gynhyrchwyr yn arian chwanegol at gyllidebau presennol yr awdurdodau lleol. Felly, bydd awdurdodau lleol yn gallu ailgyfeirio arian cyhoeddus sy'n cael ei wario ar hyn o bryd ar ddarparu gwasanaethau gwastraff pacio i ddarparu gwasanaethau eraill.
Bydd y diwygiadau hyn yn cael eu cyflwyno drwy offeryn statudol ar lefel y DU gyfan. Bydd yn cael ei osod yn Senedd y DU yn amodol ar gydsyniad Gweinidogion Cymru, gan fod hwn yn faes o gyfrifoldeb datganoledig. Cyflwynwyd set gychwynnol o reoliadau ar gyfer casglu data gan fusnesau yr effeithir arnynt yn y Senedd yn 2023: Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023
[1] Daw'r ffigyrau gwreiddiol o “Expected impact of Packaging Extended Producer Responsibility (EPR) and the Deposit Return Scheme for drinks containers (DRS) on food and drink prices”. Nid yw'r dogfennau hyn ar gael yn gyhoeddus.
Adran 8. Casgliad
8.1 Sut y mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?
Mae'r diwygiadau i Gyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd (EPR) ar gyfer deunydd pacio yn cymhwyso'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu. Mae'r busnesau o dan sylw wedi cyfrannu at ddatblygu'r diwygiadau trwy dri ymgynghoriad ynghyd â gweithgorau penodol.
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal yn 2019 ar y cyd â llywodraethau eraill y DU ar amcanion eang y cynllun arfaethedig. Cafwyd 679 o ymatebion unigol i'r ymgynghoriad a 34 o ymatebion ymgyrch. Yna cynhaliwyd ymgynghoriad arall ar y cyd ledled y DU ar gynigion manylach ar gyfer y polisi EPR rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2021. Fel rhan ohono, cynhaliwyd digwyddiadau trafod wedi'u teilwra i grwpiau penodol gan gynnwys cynhyrchwyr, manwerthwyr, busnesau ailgylchu a mudiadau'r trydydd sector ledled y DU.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft yn haf 2023; fel rhan ohono, cynhaliwyd digwyddiadau penodol i drafod y cynllun â chynrychiolwyr o bob rhan o'r gadwyn becynnu, o ran ei ddyluniad a sut i'w roi ar waith. Cafodd cyfranogiad y gadwyn werth ei gwella ymhellach yn ystod 2024 trwy sefydlu Grŵp Llywio Gweinyddwyr y Cynllun, a sefydlwyd i roi cyngor manwl ar ddylunio a gweithredu.
Ar lefel fwy cyffredinol, mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys yr ymrwymiad i gyflwyno cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr i gymell busnesau i leihau gwastraff . Mae'r ymrwymiad wedi'i gynnwys hefyd yn strategaeth yr economi gylchol, Mwy nag Ailgylchu. Cafodd ymgynghoriad ei gynnal ar y strategaeth olaf rhwng mis Rhagfyr 2019 ac Ebrill 2020, pan gynhaliwyd dros 40 o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru a thu hwnt, gan gysylltu â thua 1,000 o ddinasyddion a rhanddeiliaid drwy'r digwyddiadau a'r ymgynghoriad ysgrifenedig.
8.2 Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol, y rhai cadarnhaol a'r rhai negyddol?
Pwrpas y diwygiadau hyn yw gweithredu'r egwyddor mai'r llygrydd sy'n talu trwy sicrhau mai'r busnesau sy'n rhoi'r deunydd ar farchnad y DU sy'n talu am gost rheoli'r deunydd pacio ar ddiwedd ei oes. Felly, bydd y cynigion yn effeithio ar fusnesau sy'n gwneud, yn gwerthu neu'n trin deunydd pacio.
Penderfyniad masnachol y cynhyrchydd fydd sut i reoli'r costau hyn - bydd rhai am amsugno'r costau; bydd eraill am ddefnyddio llai o ddeunydd pacio, a bydd eraill am basio'r costau i'r defnyddiwr. Bydd yr opsiwn a ddewisir yn dibynnu ar amodau'r farchnad a'r gystadleuaeth rhwng cynhyrchwyr. Os bydd y busnesau dan sylw yn dewis pasio'r costau i'r defnyddiwr, bydd y defnyddwyr hynny sy'n prynu llawer o gynhyrchion â llawer o ddeunydd pacio amdanynt yn teimlo'r effaith yn fwy na'r rheini nad ydynt yn gwneud. Os bydd busnes yn dewis trosglwyddo rhai o'i gostau, yna bydd y cynnydd yn y prisiau yn cael mwy o effaith ar bobl mewn grwpiau incwm is sydd â llai o incwm i'w wario. Ond bydd pobl yn gallu osgoi hyn trwy ddewis cynhyrchion sydd wedi'u pecynnu llai ac sy'n fwy cynaliadwy. Yn ogystal, mae gan y busnesau hynny sydd naill ai ddim yn pasio'r costau neu sy'n defnyddio'u hadnoddau'n fwy effeithlon neu'n gwella'u dyluniad y potensial i wneud eu hunain yn fwy cystadleuol.
Mae cyflwyno EPR yn cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni amcanion llesiant canlynol Llywodraeth Cymru:
- ‘Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl’
Mae'r cynllun yn cefnogi'r symudiad at economi fwy cylchol trwy ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon - ailgylchu mwy a defnyddio deunyddiau am gyfnod hirach. Bydd hefyd yn arwain at ddefnyddio llai o ddeunyddiau crai a llai o ddeunydd pacio untro.
- 'Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn'
Bydd rhoi'r cyfrifoldeb am holl gostau net gwastraff pacio i gynhyrchwyr yn ymgorffori gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a natur o fewn cylch bywyd y deunydd pacio, gan annog defnyddio llai o ddeunyddiau crai a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. - 'Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol'
Bydd y cynllun yn helpu i adeiladu economi sy'n seiliedig ar gynaliadwyedd trwy gymhwyso'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu, gan gymell defnydd mwy effeithlon ar adnoddau a llai o ddefnydd ar ddeunyddiau crai a hybu rhagor o dwf yn y sector ailgylchu.
Mae'r cynllun hefyd yn cyfrannu'n uniongyrchol at y Nodau Llesiant:
Cymru lewyrchus - cefnogi'r symudiad tuag at Gymru gylchol, ddiwastraff a charbon sero net erbyn 2050. Bydd yn arwain at fwy o ailgylchu yng Nghymru ac at ddefnydd mwy effeithlon ar adnoddau ac at ddefnyddio llai o ddeunydd pacio untro a deunyddiau crai, gan helpu i gadw adnoddau ar gyfer eu defnyddio mewn economi gylchol.
Cymru Gydnerth - cyfrannu at echdynnu llai o deunyddiau crai a dinistrio llai o gynefinoedd, gan ddiogelu bioamrywiaeth hefyd.
Cymru o Gymunedau Cydlynol – bydd diwygio'r cynllun yn y dyfodol yn cwmpasu holl gostau net rheoli deunydd pacio fydd wedi'i daflu'n sbwriel, gan drwy hynny daclo hagrwch sbwriel mewn cymunedau, gan arwain at Gymru Iachach.
Cymru â Diwylliant Bywiog – cefnogi safle cydnabyddedig Cymru fel cenedl ailgylchu gyda diwylliant ailgylchu y mae pobl a chymunedau yn falch ohono. Bydd EPR yn ymgorffori cynaliadwyedd o fewn cymdeithas Cymru.
Cymru sy'n Gyfrifol yn fyd-eang – cymell defnydd mwy effeithlon ar adnoddau a llai o ddefnydd ar ddeunyddiau crai, gan drwy hynny gyfrannu at ddinistrio llai o gynefinoedd ac at lai o allyriadau.
Cymru Fwy Cyfartal – cymhwyso'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu er mwyn cyflwyno system decach sy'n adlewyrchu costau net llawn gwastraff pecynnu.
Mae'r diwygiadau'n canolbwyntio ar gymhwyso'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu i adennill yr holl gostau net. Nid ydynt yn effeithio'n uniongyrchol ar bobl â nodweddion gwarchodedig. O'r herwydd, nid oes Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant wedi'i gynnal.
8.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Mae'r diwygiadau wedi'u cynllunio i gymhwyso'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu ar gyfer rheoli gwastraff pacio, sef y rheini sy'n gwneud y cynnyrch sy'n achosi'r llygredd sy'n talu am yr holl gostau pan fydd y cynnyrch yn troi'n wastraff. Bydd y ffioedd y bydd gofyn i gynhyrchwyr eu talu yn cael eu modiwleiddio fel y bydd ffïoedd uwch am y cynhyrchion sydd ag effeithiau amgylcheddol uwch a ffioedd is am y rheini sydd ag effeithiau is. Bydd hyn yn cymell busnesau i ystyried effaith y deunydd pacio a ddefnyddir ar hyd ei gylch bywyd cyfan, gyda'r nod o ddefnyddio llai o ddeunydd pacio diangen, defnyddio mwy o ddeunydd pacio sydd wedi'i ailgylchu ac annog ailddefnyddio deunydd pacio. Fel ymrwymiad penodol yn y Rhaglen Lywodraethu, mae'r newidiadau'n rhan o bolisi allweddol i gefnogi'r symudiad tuag at economi gylchol a helpu i sicrhau Cymru ddiwastraff a charbon sero-net erbyn 2050. Drwy ddefnyddio llai ac ailgylchu mwy o ddeunydd pacio, bydd y cynllun yn lleihau'r allyriadau carbon cysylltiedig a'r defnydd o ddeunyddiau crai ac yn cynhyrchu llai o sbwriel ac effeithiau cysylltiedig. Bydd y cynllun yn arbed tua 23kt o allyriadau carbon y flwyddyn erbyn 2034.
Bydd y cynllun yn cyfrannu at gyflawni Amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru a'r Nodau Llesiant statudol a nodir uchod. Mae'r diwygiadau'n cefnogi'r symudiad tuag at atebion mwy cynaliadwy i ddiwallu anghenion y presennol mewn perthynas â defnyddio deunydd pacio, gan fynd i'r afael yr un pryd ag effeithiau presennol ac arfaethedig deunydd pacio, a fyddai fel arall yn peryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Bydd y cynigion yn effeithio ar fusnesau sy'n gwneud neu'n gwerthu deunydd pacio, neu'n trin gwastraff deunydd pacio. O dan y system bresennol, mae'r busnesau hyn yn gyfrifol am lai na saith y cant o gostau casglu, ailgylchu a glanhau gwastraff a sbwriel deunydd pacio [2]. O dan y diwygiadau, bydd gofyn i'r cynhyrchwyr dan sylw dalu awdurdodau lleol am holl gostau net casglu a rheoli gwastraff deunydd pacio domestig. Bydd hynny'n costio £71m y flwyddyn ledled Cymru (ar gyfartaledd dros y cyfnod arfarnu o 10 mlynedd).
Er mwyn lleihau effeithiau hyn ar fusnesau llai, byddwn yn cynnal y trothwy de minimis presennol (trosiant o £2m a rhoi 50 tunnell o ddeunydd pacio ar y farchnad) ar gyfer cynhyrchwyr y bydd gofyn iddynt dalu ffioedd i dalu am gostau gwaredu ac sydd â rhwymedigaethau o dan y system PRN. Bydd y diwygiadau hefyd yn cynnwys trothwy de minimis o drosiant o £1m a rhoi 25 tunnell o ddeunydd pacio ar y farchnad - bydd gofyn i gynhyrchwyr sydd rhwng y ddau drothwy adrodd faint o ddeunydd pacio, yn ôl deunydd a math, y maent yn ei roi ar y farchnad yn 2024. Ni fydd angen iddynt hwy dalu ffioedd i dalu costau gwaredu na bodloni ymrwymiadau ailgylchu. Byddwn yn defnyddio’r dull hwn tan o leiaf 2026, pan fyddwn yn ei adolygu. Bydd hyn yn lleihau’r baich ar gynhyrchwyr bach, tra’n parhau i’w cynnwys yn y system, gan gynyddu eu hymwybyddiaeth o effeithiau eu deunydd pacio.
Bydd gweithgynhyrchwyr a mewnforwyr deunydd pacio gwag yn gyfrifol hefyd o dan y drefn hon am y deunydd pacio sy'n cael ei werthu i fusnesau bach sydd o dan y trothwy de minimis. Mae hyn yn golygu mai'r gwneuthurwr neu'r mewnforiwr sy'n gwerthu'r deunydd pacio gwag i'r busnes bach fydd yn talu ffioedd y cynhyrchydd, nid y busnes bach. Bydd hyn yn arwain at gofnodi mwy o ddeunydd pacio yn y system a rhannu’r costau’n decach rhwng cynhyrchwyr, tra’n diogelu’r busnesau lleiaf rhag rhwymedigaethau adrodd beichus.
8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac wedi iddo gael ei gwblhau?
Bydd y busnesau o dan sylw yn cael targedau ailgylchu statudol ar gyfer y deunydd pacio maen nhw'n ei roi ar y farchnad. Mae monitro cydymffurfiaeth â'r targedau hyn yn rhan hanfodol o'r gwaith monitro a gorfodi y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud fel rheoleiddwyr y cynllun yng Nghymru.
Bydd Gweinyddwr y Cynllun, a fydd yn cael ei sefydlu i redeg y drefn dalu ar gyfer cynhyrchwyr a'i rhoi ar waith, yn cael Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) a bydd Gweinidogion y pedair gwlad yn goruchwylio fframwaith llywodraethu'r corff hwn.
Hefyd, mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i'r pedair gwlad gynnal adolygiad ar y cyd o effeithiolrwydd y cynllun. Rhaid cyhoeddi'r adroddiad cyntaf erbyn 31 Rhagfyr 2028 ac yn achlysurol wedi hynny, ond o leiaf bob 5 mlynedd.
[2] Ymgynghoriad ar ddiwygio system cyfrifoldeb cynhyrchwyr pecynnu y DU, 2019, tudalen 27, ar gael [DEFRA.GOV.UK]