Gwybodaeth ar amcangyfrif y bobl sy’n cysgu ar y stryd dros gyfnod o ddwy wythnos, a’r nifer o bobl a welwyd yn cysgu ar y stryd yn Tachwedd 2017.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cyfrif cenedlaethol o gysgu allan
Prif bwyntiau
- Amcangyfrifodd awdurdodau lleol fod 345 o bobl yn cysgu ar y stryd ar draws Cymru yn y pythefnos rhwng yr 16eg a’r 29ain Hydref 2017. Mae hyn yn gynnydd o 10% (32 person) o gymharu â Hydref 2016.
- Adroddodd awdurdodau lleol fod cyfanswm o 188 o bobl wedi cael eu gweld yn cysgu ar y stryd yng Nghymru rhwng yr oriau o 10yh ar y 9ed a 5yb ar 10ed Tachwedd 2017. Mae hyn yn gynnydd o draean (47 person) ar y flwyddyn flaenorol.
- Cofnododd awdurdodau lleol 233 safle gwely argyfwng ar draws Cymru. O’r rhain roedd 42 (18%) yn wag ac ar gael ar noson y cyfrif (9ed Tachwedd 2017). Mewn 10 awdurdod lleol lle cofnodwyd pobl yn cysgu ar y stryd ar noson y cyfrif, doedd dim safleoedd gwely argyfwng gwag ar gael.
Noder
Mae ystod o ffactorau a all effeithio ar gyfrif nosweithiau sengl y rheini sy'n cysgu ar y stryd, gan gynnwys lleoliad, amseru a'r tywydd. Mae'r cyfrif a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2017 yng Nghymru yn amcangyfrif ciplun. Gall ond rhoi syniad bras iawn o lefelau cysgu ar y stryd ar noson y cyfrif.
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yn y datganiad hwn yn cwmpasu'r ymarferiad monitro cysgu ar y stryd a gynhaliwyd ledled Cymru yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd 2017 ac yn seiliedig ar y data a ddarperir gan awdurdodau lleol.
Nid yw'r datganiad yn cynnwys unrhyw wybodaeth am ddigartrefedd statudol, sy'n cynnwys camau a gymerwyd gan awdurdodau lleol i atal neu leddfu digartrefedd dan y Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Adroddiadau
Cyfrif cenedlaethol o gysgu allan, Tachwedd 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.