Cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr: Ionawr 2025 (ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad)
Mae'r datganiad hwn yn manylu ar nifer y carafanau, lleiniau a safleoedd ar gyfer poblogaethau Sipsiwn a Theithwyr yn ôl yr awdurdod lleol a'u tueddiadau dros amser.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Hoe i'r diweddariadau am y tro
Nid yw'r datganiad ystadegol ynghylch cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr wedi cael ei lunio am y tro yn dilyn cyhoeddiad Ionawr 2025. Ni fydd y diweddariadau i'r gyfres hon yn cael eu llunio am y tro er mwyn adolygu'r broses o gasglu data ynghylch cyfrif carafannau yn 2025. Fel rhan o'r adolygiad hwn, byddwn yn ystyried gwelliannau i helpu i sicrhau bod datganiadau ystadegol, i'r dyfodol, yn adlewyrchu'n gywir y llety sydd ar gael ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.
Rydym yn gobeithio casglu'r data nesaf ym mis Ionawr 2026 ar ôl cwblhau'r adolygiad hwn. Os ydych yn defnyddio cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr, ac am roi adborth ar y cyhoeddiad hwn, cysylltwch â YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru.
Mae'r adolygiad hwn o gasglu data yn cyd-daro â'r ymgynghoriad cyhoeddus ar bedair o ddogfennau canllaw Llywodraeth Cymru. Un ohonynt yw 'Cynnal Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr', sydd i'w gyhoeddi yn ystod misoedd yr haf. Mae cynnal Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr yn ofyniad statudol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 er mwyn i awdurdodau lleol asesu anghenion llety cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, ac mae'n rhaid ei gynnal bob pum mlynedd. Gall y canllawiau diwygiedig ar gyfer cyfrif carafannau fod yn rhan o'r prif ddata a gesglir i hwyluso asesiad Cylch 3 o anghenion llety, sydd i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 24 Chwefror 2027.
Prif bwyntiau
Ar 16 Ionawr 2025, nodwyd bod 1,320 o garafannau Sipsiwn a Theithwyr a 177 o safleoedd yng Nghymru.
Rhwng Ionawr 2024 a Ionawr 2025, cynyddodd cyfanswm nifer carafannau Sipsiwn a Theithwyr 9% (1,320 o garafannau ym mis Ionawr 2025 o'i gymharu â 1,216 ym mis Ionawr 2024), a chynyddodd cyfanswm nifer y safleoedd 12% (177 o safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig ym mis Ionawr 2025, o'i gymharu â 158 ym mis Ionawr 2024). Safleoedd preifat oedd 79% o'r safleoedd awdurdodedig ledled Cymru.
Newid yn ffynhonnell y data
Defnyddiwyd adnodd casglu data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan i ddod o hyd i ddata cyfrif carafannau rhwng Ionawr 2021 a Gorffennaf 2023. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r adnodd hwn yn 2023 ac, o fis Ionawr 2024 ymlaen, MapDataCymru fu'r ffynhonnell ar gyfer casglu data Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon wedi'i chynnwys yn yr adroddiad ansawdd.
Carafannau yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio
Adeg cyfrif Ionawr 2025, cyfanswm nifer carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru oedd 1,320. Roedd 1,147 o garafannau ar safleoedd awdurdodedig â chaniatâd cynllunio, gan gyfrif am 87% o'r holl garafannau. O'r rhain, roedd 692 (60%) ar safleoedd rhent cymdeithasol a 455 (40%) ar safleoedd a ariennir yn breifat.
Sir y Fflint oedd â'r cyfanswm uchaf o garafannau, sef 231. Yng Nghaerdydd roedd y nifer uchaf wedyn, lle roedd 222 o garafannau, yna Sir Benfro, lle roedd 178 o garafannau, ac yna Castell-nedd Port Talbot, lle roedd 93 o garafannau. Gyda'i gilydd, yn y 4 awdurdod lleol hyn yr oedd mwy na hanner (55%) o'r holl garafannau a gofnodwyd yng Nghymru ar 16 Ionawr 2025.
Ffigur 1: Carafannau Sipsiwn a Theithwyr yn ôl math o safle, Ionawr 2025
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart gylch sy'n dangos canran y carafannau sydd ar safleoedd awdurdodedig (87%), safleoedd anawdurdodedig ar dir sy'n eiddo i Sipsiwn (6%), a safleoedd anawdurdodedig ar dir nad yw'n eiddo i Sipsiwn (7%).
Ffynhonnell: Cyfrif carafannau Cymru Gyfan, MapDataCymru (Llywodraeth Cymru).
Roedd 80 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig ar dir ac oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy'n cyfrif am 6% o'r holl garafannau. Roedd 93 o garafannau eraill (7% o'r holl garafannau) ar safleoedd anawdurdodedig ar dir nad oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy'n dod â chyfanswm y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig i 173. Mae hyn yn gynnydd o 7% mewn carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ers Ionawr 2024, pan oedd 161 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Cynyddodd nifer y safleoedd anawdurdodedig 19%, o 43 ym mis Ionawr 2024 i 51 ym mis Ionawr 2025.
Sir y Fflint oedd â'r nifer uchaf o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig, sef 64. Yn Abertawe roedd y nifer uchaf wedyn, lle roedd 25 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Gyda'i gilydd, mae'r ddau awdurdod lleol hyn yn cyfrif am ychydig dros hanner (51%) yr holl garafannau ar safleoedd anawdurdodedig.
Mewn rhai achosion, mae carafannau ar safleoedd anawdurdodedig, ond mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â cheisio cael gwared ar y gwersyll. Ym mis Ionawr 2025 roedd 80 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Yn Abertawe y gwelwyd y nifer fwyaf o'r rhain, lle roedd 24 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig ac oddefir, sy'n cynrychioli 30% o'r carafannau anawdurdodedig a oddefid yng Nghymru ar 16 Ionawr 2025. Roedd 93 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig nas goddefir.
Darperir tablau manwl ar lefel awdurdodau lleol yn y daenlen ODS o dan y tab data. Cewch fwy o wybodaeth gefndirol ac am ansawdd yn yr adroddiad ansawdd.
Ffigur 2: Nifer carafannau Sipsiwn a Theithwyr yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio, Ionawr 2018 hyd at Ionawr 2025 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell sy'n dangos nifer y carafannau ar safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig. Mae nifer y carafannau ar safleoedd awdurdodedig wedi cynyddu'n gyffredinol dros amser. Mae nifer y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig wedi parhau i fod yn gymharol gyson o'i chymharu.
Ffynhonnell: Cyfrif carafannau Cymru Gyfan, MapDataCymru (Llywodraeth Cymru).
[Nodyn 1] Oherwydd pandemig y Coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2020.
[Nodyn 2] O fis Ionawr 2024, defnyddiwyd data MapDataCymru i gyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried patrymau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.
Safleoedd yn ôl p’un a gawsant eu hawdurdodi ai peidio a'u math
Ar 16 Ionawr 2025, roedd 177 o safleoedd wedi'u cofnodi ledled Cymru. O'r rhain, roedd 126 (71%) yn safleoedd awdurdodedig ac roedd 51 (29%) yn safleoedd anawdurdodedig.
O'r 126 o safleoedd awdurdodedig, gosodwyd 27 yn nosbarth safleoedd rhent cymdeithasol a 99 yn nosbarth safleoedd rhent preifat. Safleoedd awdurdodedig a gâi eu rhentu'n breifat oedd y math mwyaf cyffredin o safle, gan gynrychioli 79% o safleoedd awdurdodedig a 56% o'r holl safleoedd yng Nghymru.
Ffigur 3: Nifer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn ôl math a ph’un a gawsant eu hawdurdodi ai peidio, Ionawr 2025
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart gylch yn dangos canran y safleoedd yn ôl p'un a gawsant eu hawdurdodi ai peidio, a'u math ar 16 Ionawr 2025, roedd 56% yn safleoedd awdurdodedig a gâi eu rhentu'n breifat, roedd 15% yn safleoedd awdurdodedig a gâi eu rhentu'n gymdeithasol, ac roedd 29% yn safleoedd anawdurdodedig.
Ffynhonnell: Cyfrif carafannau Cymru Gyfan, MapDataCymru (Llywodraeth Cymru).
Ffigur 4: Nifer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn ôl p’un a gawsant eu hawdurdodi ai peidio, Ionawr 2011 hyd at Ionawr 2025 [Nodyn 1][Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell sy'n dangos nifer y safleoedd yn ôl p'un a gawsant eu hawdurdodi ai peidio. Mae nifer y safleoedd awdurdodedig wedi dangos cynnydd cyson dros amser, gan dreblu bron ers mis Ionawr 2011. Mae nifer y safleoedd anawdurdodedig wedi amrywio ar hyd yr amser, ond mae wedi bod yn uwch yn gyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwelwyd cynnydd mewn safleoedd o'r fath rhwng Ionawr 2024 a Ionawr 2025, yn dilyn cynnydd tebyg rhwng Ionawr 2023 a Ionawr 2024.
Ffynhonnell: Cyfrif carafannau Cymru Gyfan, MapDataCymru (Llywodraeth Cymru).
[Nodyn 1] Oherwydd pandemig y Coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2020.
[Nodyn 2] O fis Ionawr 2024, defnyddiwyd data MapDataCymru i gyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried patrymau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.
Yn Sir Benfro roedd y nifer fwyaf o safleoedd awdurdodedig a gâi eu rhentu'n breifat, lle roedd 24. Yn Sir y Fflint roedd y nifer fwyaf wedyn (13 safle), yna Sir Gaerfyrddin (11 safle), ac yna Pen-y-bont ar Ogwr (10 safle). Yn yr awdurdodau lleol hyn roedd 59% o'r safleoedd awdurdodedig a gâi eu rhentu'n breifat ledled Cymru. Yn Sir Benfro hefyd roedd nifer fwyaf y safleoedd awdurdodedig a gâi eu rhentu'n gymdeithasol, lle roedd 5. Yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys roedd y nifer fwyaf wedyn, lle roedd 3 safle yr un.
Ceredigion ac Ynys Môn oedd yr unig awdurdodau lleol lle nad oedd safleoedd awdurdodedig.
Yn Sir y Fflint roedd y nifer fwyaf o safleoedd anawdurdodedig, lle roedd 16 safle, sy'n cynrychioli 31% o'r holl safleoedd anawdurdodedig ledled Cymru. Yn Abertawe roedd y nifer fwyaf wedyn, lle roedd 6 safle anawdurdodedig. Yn achos 7 awdurdod lleol, nid oedd unrhyw safleoedd anawdurdodedig.
Lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol
Ar 16 Ionawr 2025, roedd 472 o leiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a ddarparwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru, sy'n debyg i'r nifer ar safleoedd awdurdodau lleol ym mis Ionawr 2024 (465 o leiniau). O'r rhain, roedd 470 yn lleiniau preswyl ac roedd 2 yn lleiniau tramwy.
Yn Sir Benfro, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot roedd nifer uchaf y lleiniau a ddarparwyd gan awdurdodau lleol (83, 80 a 67 o leiniau yn y drefn honno). Mae hyn yn cyfrif am bron i hanner (49%) cyfanswm nifer y lleiniau a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nododd 4 awdurdod lleol nad oedd ganddynt leiniau ar 16 Ionawr 2025. Adeg y cyfrif, roedd 454 (97%) o leiniau preswyl wedi'u meddiannu.
Torfaen yw'r unig awdurdod lleol i gofnodi lleiniau tramwy adeg y cyfrif, a nodwyd bod y ddau yn wag.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad yw'r rhain gan fod y dull a ddefnyddir i'w creu yn dal i gael ei ddatblygu, ac mae yna ambell broblem o ran ansawdd y data. Mae'r adroddiad ar wybodaeth am ansawdd a methodoleg yn rhoi rhagor o fanylion allweddol. Mae ein datganiad ynghylch i ba raddau y cydymffurfir â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU) a luniwyd gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) wedi'i gynnwys yn yr adroddiad ar wybodaeth am ansawdd a methodoleg, gan ddarparu manylion am sut rydym yn cydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.
Mae gwybodaeth fanwl am ansawdd a methodoleg y data i'w gweld yn adroddiad ansawdd Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr.