Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau allweddol

Ar 18 Ionawr 2024, adroddwyd fod 1,216 o garafannau Sipsiwn a Theithwyr a 158 o safleoedd yng Nghymru.  

Rhwng Ionawr 2023 ac Ionawr 2024, cynyddodd cyfanswm nifer y carafanau Sipsiwn a Theithwyr 14% (1,216 carafanau yn Ionawr 2024 i gymharu a 1,066 yn Ionawr 2023), ac nath cyfanswm nifer y safleoedd cynyddu 11% (158 safleoedd awdurdodedig a anawdurdodedig yn Ionawr 2024 i gymharu a 142 yn Ionawr 2023).

Newid yn ffynhonnell y data

Defnyddiwyd offeryn casglu ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan i ddod o hyd i ddata cyfrif carafannau rhwng mis Ionawr 2021 a mis Gorffennaf 2023. Daeth yr offeryn hwn i ben yn 2023, ac o fis Ionawr 2024 ymlaen MapDataCymru fu'r ffynhonnell ar gyfer casglu data Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses hon yn yr adroddiad ansawdd.

Carafannau yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio

Adeg cyfrif Ionawr 2024, cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru oedd 1,216. Roedd 1055 o garafannau ar safleoedd awdurdodedig â chaniatâd cynllunio, gan gyfrif am 87% o'r holl garafannau. O'r rhain, roedd 647 (61%) ar safleoedd rhent cymdeithasol a 408 (39%) ar safleoedd a ariennir yn breifat. Caerdydd, Sir y Fflint, a Sir Benfro oedd â'r cyfanswm uchaf o garafannau; gyda Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Thorfaen yn eu ddilyn; Gyda'i gilydd, roedd y chwe awdurdod lleol hyn yn cyfrif am tua dwy ran o dair (65%) o'r holl garafanau.

Mae Ffigur 1 isod yn dangos dadansoddiad o’r carafannau yn ôl statws awdurdodedig ac anawdurdodedig.

Ffigur 1: Carafannau Sipsiwn a Theithwyr yn ôl math o safle, Ionawr 2024

Image

Disgrifiad Ffigwr 1: Siart cylch sy’n dangos canran y carafannau sydd ar safleoedd awdurdodedig (87%), safleoedd anawdurdodedig ar dir sy’n eiddo i Sipsiwn (7%) a safleoedd anawdurdodedig ar dir nad yw’n eiddo i Sipsiwn (6%).

Ffynhonnell: Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (Llywodraeth Cymru).

Roedd 84 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig ar dir a oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy'n cyfrif am 7% o'r holl garafannau. Roedd 77 o garafannau eraill (6% o'r holl garafannau) ar safleoedd anawdurdodedig ar dir nad oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy’n gyfanswm o 161 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Mae hyn yn gynnydd o 16% yn nifer y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ers mis Ionawr 2023, pan oedd 139 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Cynyddodd nifer y safleoedd anawdurdodedig o 37 ym mis Ionawr 2023 i 43 ym mis Ionawr 2024.

Abertawe oedd â'r nifer uchaf o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig (34 o garafannau, yn cyfrif am 21% o’r holl garafannau ar safleoedd anawdurdodedig). 

Mewn rhai achosion, mae carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ond mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â cheisio cael gwared ar y gwersyll. Ym mis Ionawr 2024 roedd 97 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Gwelwyd y nifer fwyaf o'r rhain ym Abertawe lle'r oedd 28 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Roedd 64 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig nas goddefir yng Nghymru. 

Dengys ffigyrau 2 a 3 isod, yn y drefn honno, nifer y carafannau a’r safleoedd yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio.

Darperir tablau manwl ar lefel awdurdodau lleol yn y daenlen ODS o dan y tab data. Cewch fwy o wybodaeth gefndirol ac am ansawdd yn yr adroddiad ansawdd. Esbonnir termau sydd ag ystyr arbennig yn yr eirfa.

Ffigur 2: Nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio, Ionawr 2018 hyd at Ionawr 2024 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad Ffigwr 2: Siart llinell sy’n dangos nifer y carafannau ar safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig. Ers Ionawr 2021, yn gyffredinol mae’r nifer o garafannau wedi bod yn uwch ym mis Gorffennaf nag ym mis Ionawr. Oedd yr nifer o garafannau ar safleoedd awdurdodedig yn uwch ym mis Ionawr 2024 a’i gymharu â blynyddoedd diweddar.

Ffynonellau: Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr, Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (Llywodraeth Cymru)

[Nodyn 1] Oherwydd pandemig y Coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020. 

[Nodyn 2] O fis Ionawr 2021 ymlaen, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (a MapDataCymru o Ionawr 2024) i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd data am ragor o wybodaeth.

Ffigur 3: Nifer y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio, Ionawr 2011 hyd at Ionawr 2024 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad Ffigwr 3: Siart llinell sy’n dangos nifer y safleoedd yn ôl p’un a awdurdodwyd hwy ai peidio. Ers Ionawr 2011, mae nifer y safleoedd awdurdodedig wedi dangos cynydd cyson. Roedd cynnydd yn nifer y safleoedd anawdurdodedig rhwng mis Ionawr 2023 a mis Ionawr 2024.

Ffynonellau: Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr, Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (Llywodraeth Cymru)

[Nodyn 1] Oherwydd pandemig y Coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020. 

[Nodyn 2] O fis Ionawr 2021 ymlaen, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (a MapDataCymru o Ionawr 2024) i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd data am ragor o wybodaeth.

Lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol

Darparwyd 465 o leiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar 18 Ionawr 2024. O'r rhain, roedd 463 yn lleiniau preswyl ac roedd 2 yn lleiniau tramwy.

Sir Benfro, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r nifer uchaf o leiniau a ddarparwyd gan awdurdodau lleol (83, 80 a 67 o leiniau’r un, yn y drefn honno) gan gyfrif am tua hanner cyfanswm nifer y lleiniau (50%). Adroddodd 6 awdurdod lleol nad oedd ganddynt unrhyw leiniau ar 18 Ionawr 2024. Ar adeg y cyfrif, roedd 96% o'r lleiniau preswyl wedi'u meddiannu.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd Cyfrif carafanau Sipsiwn a Theithwyr.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Andy O’Rourke
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB: 52/2024