Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau allweddol

Ar 31 Ionawr 2021, adroddwyd fod 1,065 o garafannau Sipsiwn a Theithwyr a 139 o safleoedd yng Nghymru.

Rhwng Ionawr 2020 ac Ionawr 2021, mae cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr wedi gostwng 2.5% (27 o garafannau) ac mae cyfanswm nifer y safleoedd (awdurdodedig ac anawdurdodedig) wedi cynyddu 2.2% (3 o safleoedd).

Carafannau yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio

Adeg cyfrif Ionawr 2021, cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru oedd 1,065. Roedd 912 o garafannau ar safleoedd awdurdodedig â chaniatâd cynllunio, gan gyfrif am 86% o'r holl garafannau. O'r rhain, roedd 608 (67%) ar safleoedd rhent cymdeithasol a 304 (33%) ar safleoedd a ariennir yn breifat.

Image
Carafannau awdurdodedig yw'r gyfran fwyaf, a Charafannau ar safleoedd anawdurdodedig, carafannau ar safleoedd ar dir Sipsiwn eu hunain yw’r ail fwyaf

Roedd 83 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig ar dir a oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy'n cyfrif am 8% o'r holl garafannau. Roedd 70 o garafannau eraill (7% o'r holl garafannau) ar safleoedd anawdurdodedig ar dir nad oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr.

Caerdydd, Sir Benfro, Sir y Fflint a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r cyfanswm uchaf o garafannau; gyda’i gilydd roedd y rhain yn cyfrif am 54% o'r holl garafannau. Casnewydd oedd â'r nifer uchaf o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig (49 o garafannau, yn cyfrif am tua chwarter y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig).

Mewn rhai achosion, mae carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ond mae'r Awdurdod Lleol wedi penderfynu peidio â cheisio cael gwared ar y gwersyll. Ym mis Ionawr 2021 roedd 77 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Gwelwyd y nifer fwyaf o'r rhain ym Mro Morgannwg lle'r oedd 30 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Roedd 76 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig nas goddefir.

Darperir tablau manwl ar lefel Awdurdodau Lleol yn y tablau cysylltiedig. Cewch fwy o wybodaeth gefndirol ac am ansawdd yn yr adran Gwybodaeth Allweddol am Ansawdd. Esbonnir termau sydd ag ystyr arbennig yn yr eirfa. Ceir rhagor o gefndir, gwybodaeth am ansawdd a geirfa yn yr adroddiad ansawdd.

Image
Nifer y carafannau yn ôl statws awdurdodi'r safle y maent wedi’u parcio arno. Safleoedd awdurdodedig yw'r categori mwyaf a safleoedd anawdurdodedig yw'r lleiaf.

Nodiau

Oherwydd pandemig y Coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020.

Ar gyfer mis Ionawr 2021, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth.

Image
Dros amser mae nifer y safleoedd awdurdodedig wedi bod yn cynyddu'n gyson, tra bod nifer y safleoedd anawdurdodedig wedi aros yn gymharol sefydlog.

Nodiau

Oherwydd pandemig y Coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020.

Ar gyfer mis Ionawr 2021, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth

Lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol

Darparwyd 435 o leiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru ar 31 Ionawr 2021. O'r rhain, roedd 433 yn lleiniau preswyl ac roedd 2 yn lleiniau tramwy.

Sir Benfro, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r nifer uchaf o leiniau a ddarparwyd gan Awdurdodau Lleol (98, 80 a 62 o leiniau’r un, yn y drefn honno) gan gyfrif am dros hanner cyfanswm nifer y lleiniau (55%). Adroddodd 8 Awdurdod Lleol nad oedd ganddynt unrhyw leiniau ar 31 Ionawr 2021. Ar adeg y cyfrif, roedd 96% o'r lleiniau preswyl wedi'u meddiannu.

Image
Lleiniau preswyl a feddiennir yw'r categori mwyaf o bell ffordd. Niferoedd bach iawn yw'r lleill.

Nodiau

Oherwydd pandemig y Coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020. 

Ar gyfer mis Ionawr 2021, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Scott Clifford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
Email: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 193/2021