Neidio i'r prif gynnwy

Y prif bwyntiau

Ar 18 Gorffenaf 2024, adroddwyd fod 1,282 o garafannau Sipsiwn a Theithwyr a 169 o safleoedd yng Nghymru.  

Rhwng Gorffennaf 2023 ac Gorffennaf 2024, cynyddodd cyfanswm nifer y carafanau Sipsiwn a Theithwyr 14% (1,282 carafanau yn Gorffennaf 2024 i gymharu a 1,128 yn Gorffennaf 2023), ac nath cyfanswm nifer y safleoedd cynyddu 13% (169 safleoedd awdurdodedig a anawdurdodedig yn Gorffennaf 2024 i gymharu a 150 yn Gorffennaf 2023). Safleoedd preifat oedd 78% o’r safleoedd awdurdodedig ar draws Cymru. 

Newid yn ffynhonnell y data

Defnyddiwyd offeryn casglu ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan i ddod o hyd i ddata cyfrif carafannau rhwng mis Ionawr 2021 a mis Gorffennaf 2023. Daeth yr offeryn hwn i ben yn 2023, ac o fis Ionawr 2024 ymlaen MapDataCymru fu'r ffynhonnell ar gyfer casglu data Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses hon yn yr adroddiad ansawdd.

Carafannau yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio

Adeg cyfrif Gorffennaf 2024, cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru oedd 1,282. Roedd 1,095 o garafannau ar safleoedd awdurdodedig â chaniatâd cynllunio, gan gyfrif am 85% o'r holl garafannau. O'r rhain, roedd 659 (60%) ar safleoedd rhent cymdeithasol a 436 (40%) ar safleoedd a ariennir yn breifat.

Ffigur 1: Carafannau Sipsiwn a Theithwyr yn ôl math o safle, Gorffennaf 2024

Image

Disgrifiad Ffigwr 1: Siart cylch sy’n dangos canran y carafannau sydd ar safleoedd awdurdodedig (85%), safleoedd anawdurdodedig ar dir sy’n eiddo i Sipsiwn (7%) a safleoedd anawdurdodedig ar dir nad yw’n eiddo i Sipsiwn (8%).
Ffynhonnell: Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan, MapDataCymru (Llywodraeth Cymru).

Roedd 89 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig ar dir a oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy'n cyfrif am 7% o'r holl garafannau. Roedd 98 o garafannau eraill (8% o'r holl garafannau) ar safleoedd anawdurdodedig ar dir nad oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy’n gyfanswm o 187 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Mae hyn yn gynnydd o 24% yn nifer y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ers mis Gorffennaf 2023, pan oedd 151 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Cynyddodd nifer y safleoedd anawdurdodedig o 39 ym mis Gorffennaf 2023 i 53 ym mis Gorffennaf 2024.

Ffigur 2: Nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio, Ionawr 2018 hyd at Gorffennaf 2024 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad Ffigwr 2: Siart llinell sy’n dangos nifer y carafannau ar safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig. Mae nifer y carafanau ar safleoedd awdurdodedig wedi cynyddu yn gyffredinol dros amser. Mae nifer y carafanau ar safleoedd anawdurdodedig wedi aros yn gymharol gyson.

Ffynonellau: Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan, MapDataCymru (Llywodraeth Cymru)

[Nodyn 1] Oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020. 

[Nodyn 2] O fis Ionawr 2021 ymlaen, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (a MapDataCymru o Ionawr 2024) i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd data am ragor o wybodaeth.

Caerdydd oedd â'r cyfanswm uchaf o garafanau, sef 211. Yn dilyn hyn roedd Sir y Fflint gyda 203 o garafanau, Sir Benfro gyda 141 o garafanau a Chastell-nedd Port Talbot gyda 100 o garafanau. Gyda'i gilydd, roedd y pedwar awdurdod lleol hyn yn cynnwys mwy na hanner (51%) yr holl garafanau a gofnodwyd yng Nghymru ar 18 Gorffennaf 2024.

Sir y Fflint ac Abertawe oedd â'r nifer uchaf o garafanau ar safleoedd anawdurdodedig, gyda 34 o garafanau yr un. Yn dilyn yn agos roedd Casnewydd gyda 31 o garafanau ar safleoedd anawdurdodedig. Gyda'i gilydd, mae'r 3 awdurdod lleol hyn yn cyfrif am 53% o'r holl garafanau ar safleoedd anawdurdodedig.   

Mewn rhai achosion, mae carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ond mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â cheisio cael gwared ar y gwersyll. Ym mis Gorffennaf 2024 roedd 84 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Gwelwyd y nifer fwyaf o'r rhain ym Abertawe lle'r oedd 28 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Roedd 103 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig nas goddefir yng Nghymru. 

Darperir tablau manwl ar lefel awdurdodau lleol yn y daenlen ODS o dan y tab data.

Safleoedd yn ôl awdurdodiad a math

Ar 18 Gorffennaf 2024, cofnodwyd 169 o safleoedd ledled Cymru.  O'r rhain, roedd 116 (69%) yn safleoedd awdurdodedig a 53 (31%) yn safleoedd anawdurdodedig. 
O'r 116 safle awdurdodedig, roedd 25 yn safleoedd rhentu cymdeithasol a 91 yn safleoedd rhentu preifat. Safleoedd rhentu preifat awdurdodedig oedd y math mwyaf cyffredin o safle, yn cyfrif am 78% o safleoedd awdurdodedig a 54% o'r holl safleoedd yng Nghymru.

Ffigur 3: Nifer y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn ôl math o safle ac awdurdodiad, Gorffennaf 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart cylch sy'n dangos canran y safleoedd yn ôl awdurdodiad a math. Ar 18 Gorffennaf 2024, roedd 54% yn safleoedd rhentu preifat awdurdodedig, 15% yn safleoedd rhentu cymdeithasol awdurdodedig, a 31% yn safleoedd anawdurdodedig.

Ffynonellau: Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan, MapDataCymru (Llywodraeth Cymru)

Ffigur 4: Nifer y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio, Ionawr 2011 hyd at Gorffennaf 2024 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart llinell sy'n dangos nifer y safleoedd yn ôl awdurdodiad. Mae nifer y safleoedd awdurdodedig wedi cynnyddu’n gyson dros amser, gan dreblu fwy neu lai ers mis Ionawr 2011. Mae nifer y safleoedd anawdurdodedig wedi amrywio drwyddi draw, ond bu cynnydd amlwg ym mis Gorffennaf 2024 o'i gymharu â mis Gorffennaf 2023. 

Ffynonellau: Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan, MapDataCymru (Llywodraeth Cymru)

[Nodyn 1] Oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020. 

[Nodyn 2] O fis Ionawr 2021 ymlaen, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (a MapDataCymru o Ionawr 2024) i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd data am ragor o wybodaeth.

Sir Benfro oedd â’r nifer fwyaf o safleoedd rhentu preifat awdurdodedig, sef 19. Yn dilyn hyn roedd Sir y Fflint (12 safle), Sir Gaerfyrddin (11 safle) a Phen-y-bont ar Ogwr (10 safle). Yn yr awdurdodau lleol hyn oedd 57% o safleoedd rhentu preifat awdurdodedig Cymru. Yn Sir Benfro roedd y nifer fwyaf o safleoedd rhentu cymdeithasol awdurdodedig, sef 5. Yn dilyn hyn roedd Castell-nedd Port Talbot a Phowys gyda 3 safle yr un. 

Sir Ddinbych, Ynys Môn a Cheredigion oedd yr unig Awdurdodau Lleol heb unrhyw safleoedd awdurdodedig.

Sir y Fflint oedd â’r nifer fwyaf o safleoedd anawdurdodedig (11), sydd tua un rhan o bump o'r holl safleoedd anawdurdodedig ledled Cymru. Yn dilyn hyn roedd Abertawe a oedd yn cynnwys 6 safle anawdurdodedig.

Lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol

Darparwyd 466 o leiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar 18 Gorffenaf 2024. Mae hyn yn 14% o gynnydd ers mis Gorffennaf 2023, pan oedd 410 o leiniau. O'r rhain, roedd 464 yn lleiniau preswyl ac roedd 2 yn lleiniau tramwy.

Sir Benfro, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r nifer uchaf o leiniau a ddarparwyd gan awdurdodau lleol (83, 80 a 67 o leiniau’r un, yn y drefn honno) gan gyfrif am tua hanner cyfanswm nifer y lleiniau (49%). Adroddodd 6 awdurdod lleol nad oedd ganddynt unrhyw leiniau ar 18 Gorffennaf 2024. Ar adeg y cyfrif, roedd 447 o’r lleiniau preswyl wedi’u meddiannu (96%).

Torfaen yw'r unig awdurdod lleol i adrodd am unrhyw leiniau tramwy ar adeg y cyfrif, a chofnodwyd bod y ddau ohonynt yn wag. 

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd Cyfrif carafanau Sipsiwn a Theithwyr.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Jones
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB: 94/2024