Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau allweddol

Ar 22 Gorffennaf 2021, adroddwyd fod 1,095 o garafannau Sipsiwn a Theithwyr a 143 o safleoedd yng Nghymru.

Rhwng Ionawr 20211 a Gorffennaf 2021, mae cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr wedi cynyddu 2.8% (30 o garafannau) ac mae cyfanswm nifer y safleoedd (awdurdodedig ac anawdurdodedig) wedi cynyddu 2.9% (4 o safleoedd).

Nodyn

(1) Fel arfer, byddem yn cymharu'r ffigurau diweddaraf â'r mis cyfatebol yn y flwyddyn galendr flaenorol. Fodd bynnag, oherwydd pandemig y coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020.

Carafannau yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio

Adeg cyfrif Gorffennaf 2021, cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru oedd 1,095. Roedd 928 o garafannau ar safleoedd awdurdodedig â chaniatâd cynllunio, gan gyfrif am 85% o'r holl garafannau. O'r rhain, roedd 618 (67%) ar safleoedd rhent cymdeithasol a 310 (33%) ar safleoedd a ariennir yn breifat.

Mae Siart 1 isod yn dangos dadansoddiad o’r carafannau yn ôl statws awdurdodedig ac anawdurdodedig.

Image
Siart gylch yw Siart 1 sy'n dangos canran y carafannau yn ôl eu statws awdurdodi. Carafannau awdurdodedig yw'r gyfran fwyaf, a Charafannau ar safleoedd anawdurdodedig, carafannau ar safleoedd ar dir Sipsiwn eu hunain yw’r ail fwyaf.

Roedd 92 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig ar dir a oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy'n cyfrif am 8% o'r holl garafannau. Roedd 75 o garafannau eraill (7% o'r holl garafannau) ar safleoedd anawdurdodedig ar dir nad oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr.

Caerdydd, Sir Benfro, Sir y Fflint a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r cyfanswm uchaf o garafannau; gyda’i gilydd roedd y rhain yn cyfrif am 53% o'r holl garafannau. Casnewydd oedd â'r nifer uchaf o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig (49 o garafannau, yn cyfrif am 29% o’r holl garafannau ar safleoedd anawdurdodedig).

Mewn rhai achosion, mae carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ond mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â cheisio cael gwared ar y gwersyll. Ym mis Gorffennaf 2021 roedd 97 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Gwelwyd y nifer fwyaf o'r rhain ym Mro Morgannwg lle'r oedd 30 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Roedd 70 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig nas goddefir.

Darperir tablau manwl ar lefel awdurdodau lleol yn y tablau cysylltiedig. Cewch fwy o wybodaeth gefndirol ac am ansawdd yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg. Esbonnir termau sydd ag ystyr arbennig yn yr eirfa.

Image
Siart far wedi'i stacio yw Siart 2 sy'n dangos nifer y carafannau yn ôl statws awdurdodi'r safle y maent wedi’u parcio arno. Safleoedd awdurdodedig yw'r categori mwyaf a safleoedd anawdurdodedig yw'r lleiaf.
Image
Dros amser mae nifer y safleoedd awdurdodedig wedi bod yn cynyddu'n gyson, tra bod nifer y safleoedd anawdurdodedig wedi aros yn gymharol sefydlog.

Lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol

Darparwyd 409 o leiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar 22 Gorffennaf 2021. O'r rhain, roedd 407 yn lleiniau preswyl ac roedd 2 yn lleiniau tramwy.

Caerdydd, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r nifer uchaf o leiniau a ddarparwyd gan awdurdodau lleol (80, 73 a 67 o leiniau’r un, yn y drefn honno) gan gyfrif am dros hanner cyfanswm nifer y lleiniau (54%). Adroddodd 8 awdurdod lleol nad oedd ganddynt unrhyw leiniau ar 22 Gorffennaf 2021. Ar adeg y cyfrif, roedd 98% o'r lleiniau preswyl wedi'u meddiannu.

Mae Siart 4 yn dangos dadansoddiad dros amser o nifer y lleiniau yng Nghymru.

Image
Siart far wedi'i stacio yw Siart 4 sy'n dangos y duedd dros amser (2018-2021) yn nifer lleiniau awdurdodau lleol. Lleiniau preswyl a feddiennir yw'r categori mwyaf o bell ffordd. Niferoedd bach iawn yw'r lleill.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Daniel Boon
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
Email: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 326/2021