Nifer y carafanau Sipsiwn a Theithwyr ar safleoedd awdurdodedig, anawdurdodedig ac awdurdod lleol ar 18 Gorffennaf 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Roedd 1,051 o garafanau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru wedi eu cofnodi yng Nghymru ar y 18 Gorffennaf 2019.
- Roedd cyfanswm o 127 o safleoedd ar draws Cymru.
Safleoedd awdurdodedig
- O gymharu'r cyfrif ym mis Gorffennaf 2019 a mis Gorffennaf 2018, mae nifer y carafanau ar safleoedd awdurdodedig wedi codi gan 5% (42 carafán).
Safleoedd anawdurdodedig
- Roedd 52 carafán ar safleoedd anawdurdodedig ar dir a oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy’n cyfrif am 5% o’r holl garafanau.
- Roedd 63 o garafanau eraill (6% o’r holl garafanau) ar safleoedd anawdurdodedig ar dir nad oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr.
- Mae nifer y carafanau Sipsiwn a Theithwyr ar safleoedd anawdurdodedig wedi gostwng 32% rhwng Gorffennaf 2018 a Gorffennaf 2019.
Safleoedd Sipsiwn a ddarperir gan awdurdodau lleol
- Roedd 404 o leiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar y 18 Gorffennaf 2019.
Adroddiadau
Cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr, Gorffennaf 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.