Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Ym mis Gorffennaf 2006, ailgyflwynwyd  yr arfer o gynnal cyfrifiad ddwywaith y flwyddyn o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. Gwnaed hyn yn sgil argymhellion yr Adolygiad o'r Gwasanaethau a Ddarperir i Sipsiwn a Chrwydriaid (sic), a gynhaliwyd gan Bwyllgor Cyfle Cyfartal Llywodraeth Cymru yn 2003, ac adolygiad Llywodraeth Cymru o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru a gynhaliwyd gan Pat Niner o Brifysgol Birmingham 2006.

Rhwng mis Ionawr 2011 a mis Ionawr 2020, cynhaliwyd cyfrifiadau ddwywaith y flwyddyn gan y tîm casglu data o fewn Llywodraeth Cymru (cynhaliwyd casgliadau data blaenorol gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol). Cyhoeddwyd data o'r cyfrifiadau hyn mewn cyfres o ddatganiadau ystadegol cyntaf (a thablau cysylltiedig gan StatsCymru).  Dosbarthwyd yr allbynnau hyn yn ystadegau swyddogol.

Yn 2015 i 2016, datblygodd Llywodraeth Cymru'r system casglu data ar-lein ar gyfer Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan sy'n ei gwneud yn bosibl i awdurdodau lleol yng Nghymru gofnodi gwersylloedd anawdurdodedig wrth iddynt ddigwydd a chofnodi safleoedd awdurdodedig. Cynhaliwyd y casgliad ar-lein a’r gwaith o gynnal y cyfrifiadau chwe-misol ar yr un pryd o fis Gorffennaf 2016 ymlaen gyda gwaith cysoni rheolaidd yn digwydd i asesu cywirdeb y data ar-lein.urrently from July 2016 onwards with periodic reconciliation exercises undertaken to assess the accuracy of the online data.

Newid yn ffynhonnell y data

Golygodd dechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020 fod angen ail-flaenoriaethu adnoddau dadansoddol Llywodraeth Cymru yn gyflym iawn. O ganlyniad i hyn, ataliwyd y cyfrifiadau chwe-misol dros dro cyn penderfynu’n gynnar yn 2021 i roi'r gorau i'r gwaith cyfrif yn gyfan gwbl. Ni chyfrifwyd carafannau ym mis Gorffennaf 2020 ymlaen a chyhoeddwyd y datganiad ystadegol diwethaf ym mis Ebrill 2020.

Er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru yn parhau i fod ar gael, mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru wedi datblygu allbwn ystadegol newydd sy’n deillio o’r casgliad ar-lein, Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan. Ers dechrau 2021, mae ystadegwyr wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i nodi, deall a datrys problemau sy’n parhau ynghylch ansawdd data. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon wedi'i chynnwys yn yr adran 'Y Broses Cysoni Data' isod.

Y broses cysoni data

Hysbysir awdurdodau lleol o flaen llaw o ddyddiad y cyfrifiad nesaf a gofynnir iddynt adolygu ansawdd y data y maent wedi'u cyflwyno i gasgliad ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan.

Yna cymerir rhan o’r data sy'n berthnasol i ddyddiad y cyfrifiad o adroddiadau casglu a chysoni ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data yn yr adroddiadau hyn ac yn cynnal cyfres o wiriadau o ran synnwyr. Mae hyn yn golygu cymharu'r data yn erbyn ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol er mwyn nodi problemau posibl â’r data.

Yna cyhoeddir yr adroddiadau cysoni a gofynnir i awdurdodau lleol gadarnhau cywirdeb eu data a/neu fynd i'r afael ag unrhyw bryderon ynghylch ansawdd data. Os oes angen, rhoddir cyfle i awdurdodau lleol ddiwygio neu gywiro eu data. Mewn achosion o'r fath, llunnir a chyhoeddir adroddiad cysoni diwygiedig.

Os nad yw awdurdod lleol yn ymateb i'r adroddiad cysoni, tybir bod y data ar gyfer yr awdurdod lleol hwnnw yn gywir er bod cafeat ar hynny yn y tablau data.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Cynhyrchir Ystadegau Swyddogol i safonau proffesiynol uchel a bennir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Cynhelir adolygiadau sicrhau ansawdd rheolaidd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Fe'u cynhyrchir yn rhydd o unrhyw ddylanwad gwleidyddol.

Mae'r data a gyhoeddir fel rhan o'r datganiad ar Gyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr wedi'u dynodi'n ystadegau arbrofol ac maent y tu allan i gwmpas yr Ystadegau Gwladol.

Amseroldeb a phrydlondeb

Cynhyrchir data ar gyfer dyddiad cyfrifiad penodol ym mis Ionawr neu fis Gorffennaf bob blwyddyn, gan roi cipolwg ar nifer a lleoliad y carafannau ar y dyddiad penodol hwnnw. Caiff rhan o’r adnodd ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan ei lawrlwytho bythefnos ar ôl dyddiad y cyfrifiad. Yna caiff adroddiadau cysoni sy'n crynhoi data ar gyfer pob awdurdod lleol eu cyhoeddi'n brydlon a chyhoeddir data cyn gynted â phosibl ar ôl pob dyddiad cyfrifiad.

Hygyrchedd ac eglurder

Cyhoeddir y datganiad ystadegol cyntaf hwn ymlaen llaw, ac yna fe'i cyhoeddir ar adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir tablau manylach ar lefel awdurdodau lleol fel taenlenni i gyd-fynd â’r datganiad.  

Perthnasedd i ddefnyddwyr

Fel y nodwyd uchod, ailgyflwynwyd y broses o gyfrif carafannau a theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru ddwywaith y flwyddyn ym mis Gorffennaf 2006 yn dilyn argymhellion yr Adolygiad o'r Gwasanaethau a Ddarperir i Sipsiwn a  Chrwydriaidr  a gynhaliwyd gan Bwyllgor Cyfle Cyfartal Llywodraeth Cymru yn 2003, ac adolygiad Llywodraeth Cymru o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru a gynhaliwyd gan Pat Niner o Brifysgol Birmingham 2006.

Mae Adran 101 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy'n byw yn eu hardal neu'n troi at eu hardal.

Mae Cynllun Gweithredu Wrth-hiliol Cymru (2022) yn amlinellu strategaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol weithredol. Mae hyn yn effeithio ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr oherwydd eu statws fel grŵp nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Amlinellir yn y cynllun y bydd lleisiau'r cymunedau hyn wedi cael eu clywed ac y gweithredir arnynt erbyn 2030. Mae'r cynllun gweithredu yn cydnabod bod “angen llety diogel sy'n ystyried agweddau diwylliannol er mwyn i unigolion ffynnu mewn rhannau eraill o'u bywydau ac er mwyn ymdrin â'r diffyg safleoedd a'r llety o ansawdd gwael sydd ar gael i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru” ac yn ymrwymo i nifer o gamau gweithredu gan gynnwys adolygu'r cyllid presennol ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, ailddrafftio canllawiau a chomisiynu rhaglen beilot i ddarparu cyngor annibynnol i'r rhai sy'n ceisio datblygu safleoedd preifat.

Nid yw'r cyfrif carafannau yn amcangyfrif nifer y Sipsiwn a Theithwyr sydd angen safleoedd. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod llawer o bobl sy'n nodi eu bod yn 'Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig' yn byw mewn cartrefi nad ydynt yn strwythurau symudol.

Mae amrywiaeth o grwpiau yn defnyddio ystadegau Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys llywodraeth genedlaethol a lleol, ymchwilwyr, myfyrwyr, yn ogystal â dinasyddion unigol sydd â diddordeb yn y cyfrif.

Defnyddir y cyfrif wrth asesu ceisiadau gan awdurdodau lleol ar gyfer y Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae’r isod yn rhai o'r ffyrdd eraill y defnyddir y cyfrifiad:

  • monitro cynnydd tuag at dargedau
  • datblygu polisi
  • cynghori Gweinidogion
  • • llywio trafodaeth yn Senedd Cymru a thu hwnt

Y Broses Cysoni Data

Hysbysir awdurdodau lleol o flaen llaw o ddyddiad y cyfrifiad nesaf a gofynnir iddynt adolygu ansawdd y data y maent wedi'u cyflwyno i gasgliad ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan.

Yna cymerir rhan o’r data sy'n berthnasol i ddyddiad y cyfrifiad o adroddiadau casglu a chysoni ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data yn yr adroddiadau hyn ac yn cynnal cyfres o wiriadau o ran synnwyr. Mae hyn yn golygu cymharu'r data yn erbyn ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol er mwyn nodi problemau posibl â’r data.

Yna cyhoeddir yr adroddiadau cysoni a gofynnir i awdurdodau lleol gadarnhau cywirdeb eu data a/neu fynd i'r afael ag unrhyw bryderon ynghylch ansawdd data. Os oes angen, rhoddir cyfle i awdurdodau lleol ddiwygio neu gywiro eu data. Mewn achosion o'r fath, llunnir a chyhoeddir adroddiad cysoni diwygiedig.

Cywirdeb

Yn gyffredinol, gall y ffactorau canlynol effeithio ar yr ymateb ac ansawdd y data:

  • Awdurdodau Lleol ddim yn cyflwyno data i'r adnodd ar-lein yn brydlon (mae'r broses o gasglu data yn wirfoddol, heb unrhyw gymhellion penodol i Awdurdodau Lleol gyflwyno data na chosbau i'r rhai nad ydynt yn gwneud hynny)
  • arferion cyfrif annigonol
  • daearyddiaeth – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig mawr sy'n gofyn am adnoddau cyfatebol o fawr i fapio pob safle
  • drwgdybiaeth ar ran Sipsiwn a Theithwyr

Cymharedd a chysondeb

Wrth gymharu tueddiadau dros amser mae angen ystyried y newid yn ffynhonnell y data o gasgliad y cyfrifiad (cyn Ionawr 2021) i gasgliad ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (o fis Ionawr 2021 ymlaen). Er bod ymdrechion wedi'u gwneud i sicrhau bod y data mor gymaradwy â phosibl, mae'n bosibl bod y gwahaniaethau mewn dulliau casglu data wedi cael effaith. Rydym yn cynghori cymryd gofal wrth ddehongli tueddiadau dros amser.

Mae cymariaethau ystyrlon o’r ffigurau ar gyfer Cymru dros amser hefyd wedi'u cyfyngu gan Awdurdodau Lleol na wnaethant gymryd rhan ym mhob cyfrif blaenorol. Cynghorir felly mai dim ond ar gyfer Awdurdodau Lleol sydd wedi cymryd rhan ym mhob cyfrif perthnasol y dylid gwneud cymariaethau dros amser.

Mae'r data ar gyfer y Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr yn amrywio yn ôl y tymor. I gymharu ffigurau dros amser cynghorir edrych ar gyfrifiadau'r gaeaf a'r haf bob blwyddyn ar wahân. Mae'r cyfrif yn digwydd ddwywaith y flwyddyn i adlewyrchu tueddiadau a newidiadau ym mhreswylfeydd y gaeaf a theithiau’r haf. Mae ffigurau'r blynyddoedd blaenorol yn dangos bod nifer y carafannau anawdurdodedig yn uwch yn ystod cyfrif yr haf (Gorffennaf).

Mae gwybodaeth gyfatebol ar gyfer Lloegr ar gael ar wefan GOV.UK. Mae dyddiadau'r cyfrif carafannau ar gyfer Cymru a Lloegr fel arfer yn cael eu cysoni ymlaen llaw er mwyn osgoi cyfrif carafannau sy'n teithio dros y ffin ddwywaith. Fodd bynnag, ni chynhaliwyd cyfrid gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ym mis Ionawr 2021.

Diwygiadau

Rydym yn dilyn polisi diwygiadau ystadegol Llywodraeth Cymru.

Ystadegau cysylltiedig ar gyfer gweledydd eraill y DU

Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 wedi’u cyhoeddi ar ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd. Rydym wedi cyhoeddi crynodeb o’r maes pwnc ar gyfer Cymru, gan gynnwys nifer y preswylwyr arferol yng Nghymru a nododd eu hethnigrwydd fel “Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” neu “Roma” yng Nghyfrifiad 2021. Mae setiau data ar gael ar wefan NOMIS y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae Ystadegau Cyfrif Carafannau ar gyfer gwledydd eraill y DU ar gael drwy ddilyn y dolenni canlynol:

Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (2021 ymlaen) a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Lloegr (cyn 2021).

Mae Llywodraeth yr Alban yn casglu ac yn cyhoeddi gwybodaeth am deithwyr yn yr Alban. Mae’n werth nodi bod adolygiad o'r sylfaen dystiolaeth ar gael.

Gwybodaeth am lety i deithwyr yng Ngogledd Iwerddon.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Geirfa

Carafannau

Gall 'carafán' gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

  • cartrefi symudol, carafannau, trelars a cherbydau preswyl eraill ar safleoedd a gwersylloedd Sipsiwn neu Deithwyr, p'un a ydynt yn bodloni'r union ddiffiniad cyfreithiol o garafán ai peidio
  • carafannau teithiol ar safleoedd Sipsiwn neu Deithwyr a gwersylloedd hyd yn oed os na phreswylir ynddynt yn barhaol
  • pebyll, llochesi dros dro (benders) neu iwrts lle mae'r rhain yn llety byw 'parhaol' i Sipsiwn neu Deithwyr

Sipsiwn a Theithwyr

At ddibenion y datganiad hwn mae 'Sipsiwn a Theithwyr' yn cynnwys Sipsiwn a Theithwyr Traddodiadol ac Ethnig neu aelodau o grwpiau Teithwyr Newydd anhraddodiadol sy'n byw mewn carafannau neu anheddau symudol eraill, p'un a ydynt yn bodloni'r union ddiffiniad cyfreithiol o 'Sipsi' neu 'Teithiwr' ai peidio. Nid yw'r cyfrif carafannau wedi'i gynllunio i fod yn amcangyfrif o boblogaeth Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig yng Nghymru.

Safleoedd awdurdod lleol

Safleoedd a weithredir gan Awdurdodau Lleol neu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddarparu llety i Sipsiwn a Theithwyr.

Gwersylloedd ‘heb eu goddef’

Mae gwersyll 'heb ei oddef' yn un: lle mae’r Awdurdod Lleol neu'r heddlu yn defnyddio, neu'n paratoi i ddefnyddio, eu pwerau o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 i ddileu'r gwersyll, neu pan fo'r tirfeddiannwr (gan gynnwys yr Awdurdod Lleol) wedi cychwyn, neu'n paratoi i gychwyn, gweithredu naill ai drwy'r llysoedd neu o dan hawliau'r gyfraith gyffredin i adennill meddiant o'r tir.

Llain

Bydd llain, y cyfeirir ati hefyd fel plot, yn amrywio yn ôl maint aelwyd y preswylydd. Gall un llain ddarparu ar gyfer nifer o garafannau.

Safleoedd a ariennir yn breifat

Gall safleoedd Sipsiwn a Theithwyr â chaniatâd cynllunio a ariennir yn breifat gynnwys:

  • safleoedd â chaniatâd cynllunio sy'n eiddo i Sipsiwn a Theithwyr ar gyfer eu meddiannaeth eu hunain a/neu eu teulu a/neu ar gyfer eu gosod yn fasnachol
  • safleoedd sy'n eiddo i unrhyw unigolyn neu gorff preifat arall sydd â chaniatâd cynllunio i'w defnyddio fel safle Sipsiwn neu Deithwyr
  • safleoedd sy'n eiddo i Awdurdod Lleol ond sy'n cael eu prydlesu i gorff neu unigolyn nad yw'n perthyn i’r awdurdod lleol, neu a reolir gan gorff neu unigolyn o’r fath, o dan drefniadau nad ydynt yn rhoi rheolaeth i'r Awdurdod Lleol ar y safleoedd (yn hollbwysig yn cynnwys pennu rhent a gosod lleoedd)

‘Gellir dehongli 'â chaniatâd cynllunio' i gynnwys safleoedd heb 'ganiatâd cynllunio' fel y cyfryw, ond gyda hawliau defnyddio sefydledig neu statws cynllunio arall sy'n golygu na ellir cymryd camau gorfodi o ran cynllunio.

Gwersylloedd a oddefir

Mae gwersyll 'a oddefir' yn un lle mae'r Awdurdod Lleol a/neu berchennog y tir wedi penderfynu peidio â cheisio cael gwared ar y gwersyll, a lle mae'r gwersyll wedi'i 'oddef' neu'n debygol o gael ei 'oddef' am gyfnod amhenodol o fisoedd neu flynyddoedd.

Safleoedd anawdurdodedig ar dir Sipsiwn neu Deithwyr eu hunain

Safleoedd anawdurdodedig lle mae Sipsiwn a Theithwyr yn byw ar eu tir eu hunain mewn carafannau/anheddau symudol heb ganiatâd cynllunio na hawliau defnyddio sefydledig. Gall safleoedd o'r fath amrywio o ran maint ac i ba raddau y mae'r tir wedi'i 'ddatblygu' gyda ffyrdd, lleiniau penodol, safleoedd caled, blociau amwynder ac ati.

Safleoedd anawdurdodedig ar dir nad yw'n eiddo i Sipsiwn neu Deithwyr

Carafannau/anheddau symudol ar safleoedd heb ganiatâd cynllunio ar dir nad yw'n eiddo i Sipsiwn neu Deithwyr. Gall y tir fod mewn perchnogaeth gyhoeddus neu breifat, gan gynnwys y briffordd.