Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r gwaith ffilmio wedi dechrau yn Dragon Studios, Pencoed ar un o’r cynyrchiadau teledu Americanaidd drutaf erioed i gael ei ffilmio yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Will yn gyfres ddrama o’r radd flaenaf yn seiliedig ar fywyd cynnar William Shakespeare. Bydd yn cael ei ffilmio yng Nghymru a’i darlledu yn yr Unol Daleithiau a hon fydd y cynhyrchiad â’r gyllideb uchaf a’r gwariant mwyaf erioed i gael ei ffilmio yng Nghymru. 

Dyma’r cynhyrchiad Americanaidd diweddaraf i ddod i Gymru ac mae’n dilyn cynyrchiadau uchel eu proffil eraill megis Da Vinci's Demons, The Bastard Executioner a The Collection.

Mae wedi cael cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a rhagwelir y bydd y £18 miliwn yn cael ei wario yn yr economi leol yn sgil y cynhyrchiad hwn. 

Mae’r gyfres gyntaf o naw pennod wedi’i chomisiynu yn dilyn llwyddiant y rhaglen beilot a ffilmiwyd yn Llundain. 

Yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd modd ffilmio cyfran sylweddol o’r cynhyrchiad yng Nghymru. 

Wrth groesawu’r newyddion disgrifiodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi fod sicrhau’r gwaith hwn yn dipyn o gamp ac yn hwb aruthrol i sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

“Mae hwn wir yn ticio pob bocs. Mae ganddo’r gyllideb uchaf o blith pob cynhyrchiad a ffilmiwyd yng Nghymru hyd yma. Hefyd, bydd cyfanswm yr hyn a gaiff ei wario’n lleol yn uwch nag erioed ac mae hynny’n newyddion da i’r sector ffilm a theledu yng Nghymru. 

“Mae’n cefnogi ein strategaeth ar gyfer y sector i ddenu drama o’r radd flaenaf i Gymru gan ganolbwyntio’n benodol ar farchnad lewyrchus yr Unol Daleithiau. Mae’n debygol hefyd y bydd cyfres arall yn cael ei chreu. Rwyf yn falch bod y cymorth Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn dod i Gymru. 

“Mae’n rhoi llwyfan inni hyrwyddo Cymru, nid yn unig yn yr Unol Daleithiau ond ym mhob cwr o’r byd, fel lleoliad da i ffilmio, lle mae arbenigedd a thalent go iawn. Bydd yn rhoi cyfle da i gwmnïau a gweithwyr llawrydd o Gymru a bydd hefyd yn fodd i estyn y gadwyn gyflenwi a gwella ac uwch-sgilio’r criwiau sydd gennym yma yng Nghymru.”

Bydd Ninth Floor UK Productions Limited – y cwmni sy’n gyfrifol am y gyfres – yn gweithio yn Dragon Studio Pencoed am naw mis y flwyddyn a bydd y gwaith ffilmio ar leoliad yn digwydd yn Ne Cymru ac yn Llundain. 

Mae TNT wedi archebu 10 pennod o Will, drama newydd sbon sy’n adrodd hanes gwyllt y William Shakespeare ifanc a Laurie Davidson, actor newydd fydd yn chwarae’r rhan honno. Hefyd, bydd y canlynol yn cymryd rhan yn y ffilm: Olivia DeJonge (The Visit, Hiding), Colm Meaney (Star Trek: Deep Space Nine, Hell on Wheels), Mattias Inwood (The Shanara Chronicles), Jamie Campbell Bower (Sweeney Todd, The Twilight Saga) ac Ewen Bremner (Trainspotting, Snowpiercer).

Ar ddechrau cyfres Will, mae William Shakespeare (Davidson) yn ifanc ac newydd gyrraedd byd y theatr pync-roc yn Llundain yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn y byd nwydus a threisgar hwn, mae ei dalent amrwd yn wynebu cynulleidfaoedd cythryblus, eithafwyr crefyddol a sioeau ymylol swnllyd. Mae hon yn fersiwn gyffrous, beryglus ac oesol o fywyd Shakespeare ac mae’r gerddoriaeth fodern sy’n gefndir iddo yn tynnu sylw at ei nodweddion byrbwyll, ei demtasiynau chwantus a’i ddisgleirdeb.

Dywedodd Alison Owen, y Cynhyrchydd Gweithredol, 

“Mae’r cynhyrchiad wedi sicrhau nifer o fanteision drwy ffilmio yn Dragon International Film Studios. Drwy ddefnyddio pedwar llwyfan Dragon Studios a’r ardal allanol eang, rydym wedi gallu creu byd cwbl newydd mewn un lle.

“Mae strydoedd Llundain yng nghyfnod Shakespeare yn ymledu i’r ardal allanol a thra bo’r Theatr anferth wedi’i lleoli ar un llwyfan, mae’r setiau mewnol ychwanegol yn cwblhau holl leoliadau’r sioe. Hefyd, defnyddiwyd lleoliadau allanol godidog eraill i ffilmio a’r rheini dafliad carreg o’r stiwdio. Mae hyn oll yn rhoi digon o amrywiaeth i dirwedd weledol y sioe.

“Mae’r stiwdio’n agos iawn i gymaint o leoliadau a golyga hynny ein bod wedi gallu bod yn uchelgeisiol gyda’r sioe a hynny mewn modd didrafferth ac effeithiol. Rydym wedi cael gwir werth am arian wrth ddefnyddio’r gyllideb i roi’r sioe ar y sgrin. Rydym wedi gallu defnyddio criw hynod brofiadol sydd wedi’u lleoli yn yr ardal, yng Nghaerdydd ac Abertawe, a hefyd dim ond ychydig oriau i ffwrdd y mae Llundain. Mae wedi bod yn ddewis perffaith inni.”

Mae staff y cynhyrchiad yn cydweithio’n agos â Sgrîn Cymru i sicrhau eu bod yn defnyddio talent leol gymaint ag sy’n bosibl. Os bydd Will yn llwyddo’n fasnachol ledled y byd, y gobaith yw y bydd cyfres arall yn cael ei lleoli yng Nghymru yn y dyfodol.