Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cloth Cat Animation Studio o Gaerdydd gyda chymorth Llywodraeth Cymru wrthi’n cynhyrchu cyfres animeiddiedig fawr i’w darlledu yn China ar gyfer plant cyn oed ysgol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd prosiect cydweithredol Cloth Cat â Magic Mall – aelod o’r DaYe Transmedia Group o Beijing – yn cynnal hyd at 40 o swyddi dros y cyfnod cynhyrchu o 15 mis a chaiff y gyllideb gyfan o £3.2m ei gwario yng Nghymru, diolch i’r £225,000 o nawdd gan Lywodraeth Cymru a chredydau treth Animeiddio’r DU.

Dyma brosiect cydweithredol cyntaf Cloth Cat â China a’r gyfres gyntaf i Magic Mall, sy’n arbenigo mewn rhaglenni plant ac adloniant i’r teulu, ei chynhyrchu y tu allan i China. 

Mae’r gwaith arni wedi dechrau eisoes yn stiwdio Cloth Cat yn GloWorks, canolfan Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol ym Mae Caerdydd a bydd y gwaith animeiddio’n dechrau’r mis hwn.  Caiff y gyfres 52 pennod ei darlledu yn China ym mis Mehefin 2017 cyn ei dosbarthu trwy’r byd ar blatfformau darlledu ar y tir a digidol. 

Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Mae penderfyniad Magic Mall i ddewis Cloth Cat i gynhyrchu’r gyfres newydd hon ar gyfer y farchnad yn China yn adrodd cyfrolau am eu harbenigedd, a bydd ei dosbarthu trwy’r byd yn hysbyseb ardderchog i Gymru fel lleoliad gwych ar gyfer sector animeiddio hynod gystadleuol. 

“China sydd â’r farchnad gyfryngau sy’n tyfu gyflymaf yn y byd ac mae’r prosiect cydweithredol hwn yn cynnig cyfle ardderchog i Cloth Cat fentro i’r marchnadoedd Chineaidd ac Asiaidd cyfoethog iawn. 

“Dyma newyddion rhagorol i Cloth Cat a gweddill y sector animeiddio yng Nghymru ac rwy’n hapus iawn bod help Llywodraeth Cymru wedi dod â phrosiect rhyngwladol mawr i Gymru a fydd yn gwario arian mawr yng Nghymru. 

“Mae gwerthu deunydd i farchnadoedd rhyngwladol yn rhan bwysig o strategaeth y sector, fel y mae cefnogi busnesau cynhenid a’u helpu i dyfu.  Mae’n dda gen i ddweud bod y prosiect hwn yn mynd â’r ddau faen i’r wal.” 

Meddai Jon Rennie, pennaeth Cloth Cat, cwmni animeiddio mwyaf Cymru: 

“Rydym yn falch iawn bod Magic Mall wedi’i dewis i fynd â Luo Bao Bei at gynulleidfaoedd newydd.  Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, rydym wedi ennill prosiect a fydd yn cryfhau sylfaen sgiliau diwydiant animeiddio Cymru yn ogystal ag yn rhoi cyfle i Cloth Cat feithrin perthynas â chwmni cyffrous o China.” 

Caiff y gyfres ei chynhyrchu gan Jon Rennie, Rheolwr Cyffredinol Magic Mall Grace Tian – creadwr y cymeriad poblogaidd Luo Bao Bei (LLB) – a’r cynhyrchydd gweithredol Alex Chien.  Bydd David Ingham, awdur plant y mae galw mawr am ei dalentau, hefyd yn ymuno â’r cynhyrchiad fel Prif Awdur. 

Mae’r gyfres yn seiliedig ar y cymeriad poblogaidd, Luo Bao Bei a grëwyd gan Magic Mall yn 2008.  Nid yw’r cymeriad yn ddiarth i blant Beijing oherwydd ei rhan fel llefarydd y ddinas, eicon ymgyrchoedd diogelwch y ffyrdd a thestun rhaglenni allgymorth poblogaidd mewn ysgolion elfennol. 

Bu Magic Mall yn chwilio am bartner rhyngwladol i roi awch Gorllewinol i’r gyfres heb golli ei chalon Chineaidd er mwyn iddi allu apelio at bob marchnad.  Bydd poblogrwydd LLB a mewnbwn Cloth Cat yn sicrhau bod apêl y gyfres newydd yn fawr, gan gyfuno treftadaeth Chineaidd gydag ychydig o hiwmor a swyn Prydeinig.