Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg ac yn y farchnad lafur: 2022 a 2023 (dros dro)
Gwybodaeth am y gweithgareddau dysgu a statws y farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ar gyfer 2022 a 2023 (dros dro).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r datganiad hwn yn darparu gwybodaeth gryno am weithgareddau dysgu a statws marchnad lafur pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru, ar sail nifer o ffynonellau data gwahanol. Mae rhagor o fanylion am y ffynonellau hyn a tharddiad yr ystadegau hyn wedi’u darparu yn ein nodyn methodoleg.
Darperir amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2022 ac amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2023 sy’n defnyddio’r data gorau sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer pob agwedd ar gyfranogiad; mae hyn yn cynnwys rhywfaint o ddata terfynol, rhywfaint o ddata dros dro a rhywfaint o fodelu.
Mae’r datganiad hwn yn darparu’r ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer un o’r 50 dangosydd lles cenedlaethol. Mae’r amcangyfrifon hyn yn darparu amcangyfrifon NEET mwy dibynadwy a chadarn oherwydd eu bod yn cynnwys sawl ffynhonnell ddata. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y ffynonellau NEET ar gael yn ein canllaw i ddeall y gwahanol ffynonellau ystadegau ar bobl ifanc sy'n NEET yng Nghymru.
Mae amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2022 yn cynnwys rhan o gyfnod pandemig y Coronafeirws (COVID-19). Er bod nifer o’r cyfyngiadau Coronafeirws wedi’u llacio yn ystod 2022, mae’n bosibl fod rhai o’r newidiadau a nodwyd yn parhau i gael eu heffeithio gan amodau a achoswyd gan y pandemig. Er enghraifft dysgu a ohiriwyd neu a fethwyd, newidiadau i arholiadau ac asesiadau a newidiadau yn amgylchiadau’r farchnad lafur yn ystod cyfnod y pandemig.
Mae ansicrwydd ychwanegol ynghylch yr amcangyfrifon hyn, oherwydd problemau gyda rhai o'r ffynonellau data a ddefnyddiwyd. Darperir esboniad yn yr adran am wybodaeth ansawdd allweddol.
Prif bwyntiau
Pobl ifanc 16 i 24 oed
- Cyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg neu hyfforddiant oedd 49.7% yn 2023, gostyngiad bach o 49.8% yn 2022.
- Y gyfran mewn cyflogaeth oedd 59.5% yn 2023, cynnydd o 57.1% yn 2022.
- Mae’r amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2022 yn ddangos bod y gyfran a oedd yn NEET wedi gostwng o 16.0% yn 2021 i 13.9% yn 2022. Mae amcangyfrifon dros dro'n awgrymu bod y gyfran wedi gostwng wedyn i 13.6% yn 2023.
Pobl ifanc 16 i 18 oed
- Cyfranogiad pobl ifanc 16 i 18 oed mewn addysg a hyfforddiant oedd 73.2% yn 2023, gostyngiad o 73.7% yn 2022.
- Y gyfran mewn cyflogaeth oedd 41.2% yn 2023, gostyngiad o 42.2 yn 2022.
- Mae’r amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2022 yn dangos bod y gyfran a oedd yn NEET wedi gostwng rhwng 2021 a 2022 o 14.1% i 12.3%. Roedd y gostyngiad hwn wedi’i ysgogi gan ostyngiad yn y gyfradd diweithdra ac anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed.
- Mae amcangyfrifon dros dro'n awgrymu bod y gyfran hon wedi gostwng ymhellach i 10.1% yn 2023.
Pobl ifanc 19 i 24 oed
- Cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed mewn addysg neu hyfforddiant oedd 38.5 yn 2023, cynnydd bach o 38.4% yn 2022.
- Y gyfran mewn cyflogaeth oedd 68.2% yn 2023, cynnydd o 64.2% yn 2022.
- Mae’r amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2022 yn ddangos bod y gyfran a oedd yn NEET wedi gostwng o 16.9% yn 2021 i 14.6% yn 2022. Mae amcangyfrifon dros dro'n awgrymu bod y gyfran wedi cynyddu wedyn i 15.2% yn 2023.
Cyfranogiad pobl ifanc 16 i 18 oed mewn addysg ac yn y farchnad lafur
Yn dilyn dechrau’r dirwasgiad yn 2008, cafwyd cynnydd yng nghyfran pobl ifanc 16 i 18 oed a oedd mewn addysg neu hyfforddiant, i lefelau o tua 80%. Rhwng 2013 a 2023 gostyngodd y gyfran yn raddol i 73.2% yn 2023.
Yn dilyn ffigur isaf y gyfres o 27.9% yn 2011 gwelwyd cynnydd graddol yn y gyfran mewn cyflogaeth, ond syrthiodd hyn yn sydyn yn 2020 (blwyddyn gyntaf y pandemig COVID-19) i 32.2%. Ers hynny mae’r gyfradd wedi cynyddu i 41.2% yn 2023.
Ffigur 1: Cyfran pobl ifanc 16 i 18 oed Cymru sy’n NEET, sydd mewn cyflogaeth neu sydd mewn addysg neu hyfforddiant, 2013 i 2023 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed mewn addysg neu hyfforddiant wedi gostwng yn raddol rhwng 2013 a 2023, gyda’r gyfran mewn cyflogaeth wedi cynyddu yn gyffredinol dros yr un cyfnod. Mae’r gyfran NEET wedi aros yn gymharol sefydlog nes cynyddu yn 2021, gan ostwng eto wedyn i lefelau cyn y pandemig.
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Y Brifysgol Agored ac CCAUC
[Nodyn 1] Gall unigolyn fod mewn addysg/hyfforddiant a chyflogaeth.
(p): Mae ffigurau 2023 yn rhai dros dro
Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc (StatsCymru)
Cyflogaeth
- Yn 2023, roedd 41.2% o bobl ifanc 16 i 18 oed mewn cyflogaeth lawn amser neu ran-amser.
- Yn 2023, roedd 16.7% o bobl ifanc 16 i 18 oed mewn cyflogaeth lawn amser neu ran-amser ac nid mewn addysg na hyfforddiant, cynnydd o’r 14.0% yn 2022.
- Amcangyfrifwyd bod 24.4% o bobl ifanc 16 i 18 oed mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant ac mewn cyflogaeth yn 2023, gostyngiad o’i gymharu â 28.1% yn 2022. Myfyrwyr mewn addysg lawn amser a oedd hefyd yn gweithio’n rhan-amser oedd y rhan fwyaf o’r rhain.
Addysg a hyfforddiant
- Roedd 73.2% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn cymryd rhan mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant (llawn amser neu ran-amser) yn 2023, gostyngiad o 73.7% yn 2022.
- Roedd cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn 59.9%, gostyngiad o gymharu â 60.6% yn 2022.
- Roedd cyfran uwch o ferched 16 i 18 oed mewn addysg lawn amser – 62.4% o gymharu â 57.6% o fechgyn yn 2023.
- Yn ôl blwyddyn oedran unigol, roedd 69.7% o’r holl bobl ifanc 16 oed mewn addysg lawn amser yn 2023 o gymharu â 61.2% o bobl ifanc 17 oed a 49.7% o bobl ifanc 18 oed.
- Roedd mwy o fechgyn na merched yn cymryd rhan mewn hyfforddiant. Mewn cyfanswm, roedd 8,300 o bobl ifanc 16 i 18 oed yn cymryd rhan mewn hyfforddiant (cyrsiau dysgu seiliedig ar waith a hyfforddiant cysylltiedig â swydd) yn 2023. Mae hyn yn cynnwys oddeutu 5,400 (9.5%) o fechgyn a 2,900 (5.4%) o ferched.
Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
- Amcangyfrifwyd bod 11,000 o bobl ifanc 16 i 18 oed (10.1%) yn NEET yn 2023, o gymharu â 13,200 (12.3%) yn 2022.
- Roedd nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed a oedd yn NEET yn cynnwys 5,600 (5.2%) o bobl ifanc di-waith a 5,400 (4.9%) a oedd yn economaidd anweithgar (ac eithrio myfyrwyr) yn 2023 o gymharu â 3,300 (3.1%) o bobl ifanc di-waith a 9,900 (9.2%) a oedd economaidd anweithgar (ac eithrio myfyrwyr) yn 2022.
Cyfranogiad pobl ifanc 19 i 24 oed mewn addysg ac yn y farchnad lafur
Arhosodd y gyfran o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn addysg neu hyfforddiant ar yr un lefel fwy neu lai ers 2013, gan symud rhwng 37% a 39%, gyda’r data diweddaraf yn amcangyfrif cyfran o 38.5% yn 2023.
Mewn cyferbyniaeth, mae’r gyfran mewn cyflogaeth wedi cynyddu’n raddol ers 2013 i gyrraedd 65.4% yn 2017. Mae’r gyfran wedi amrywio ers hynny, gan syrthio i 61.4% yn 2020, a chodi i 68.2% yn 2023.
Ffigur 2: Cyfran pobl ifanc 19 i 24 oed Cymru sy’n NEET, mewn cyflogaeth neu mewn addysg neu hyfforddiant, 2013 i 2023 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell sy'n dangos bod cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed mewn addysg neu hyfforddiant wedi aros yn gymharol sefydlog ers 2013. Mae’r gyfran mewn cyflogaeth wedi amrywio, ond wedi cynyddu’n gyffredinol ers 2013. Mae’r gyfran NEET wedi gostwng yn gyffredinol ers 2013.
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Y Brifysgol Agored ac CCAUC
[Nodyn 1] Gall unigolyn fod mewn addysg/hyfforddiant a chyflogaeth.
(p): Mae ffigurau 2023 yn rhai dros dro
Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc (StatsCymru)
Cyflogaeth
- Yn 2023, amcangyfrifwyd bod 68.2% o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn cyflogaeth lawn amser neu ran-amser.
- Roedd 46.2% o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn cyflogaeth lawn amser neu ran-amser ond nid mewn addysg neu hyfforddiant yn 2023.
- Yn ogystal, amcangyfrifwyd bod tua 21.9% o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant ac mewn cyflogaeth yn 2023, cynnydd o gymharu ag 17.2% yn 2022. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain fyfyrwyr mewn addysg lawn amser a oedd hefyd yn gweithio’n rhan-amser.
Addysg a hyfforddiant
- Mewn cyfanswm, roedd 38.5% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn cymryd rhan mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant (llawn amser neu ran-amser) yn 2023.
- Roedd 28.2% o bobl ifanc 19 i 24 oed mewn addysg lawn amser yn 2023, i lawr ychydig o 28.4% yn 2022.
- Roedd cyfran uwch o ferched 19 i 24 oed (30.8%) na bechgyn 19 i 24 oed (25.8%) mewn addysg lawn amser yn 2023.
- Roedd 13,300 (5.8%) o bobl ifanc 19 i 24 oed yn cymryd rhan mewn hyfforddiant (cyrsiau dysgu seiliedig ar waith a hyfforddiant cysylltiedig â swydd) yn 2023, gyda chyfranogiad ymysg merched yn 5.8% a bechgyn yn 5.7%.
- Roedd cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn gostwng gydag oedran. O’r holl bobl ifanc 19 oed, roedd 47.4% mewn addysg lawn amser yn 2023 o gymharu ag 20.5% o bobl ifanc 22 oed a 10.8% o bobl ifanc 24 oed.
Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
- Amcangyfrifwyd bod 35,100 o bobl ifanc 19 i 24 oed (15.2%) yn NEET yn 2023, cynnydd o gymharu ag 14.6% yn 2022.
- Roedd 13.9% o ferched 19 i 24 oed yn NEET yn 2023, cynnydd o 2.5 pwynt canran o gymharu â 2022. Sbardunwyd hyn gan gynnydd yng nghyfran y rhai di-waith a’r y rhai a oedd yn economaidd anweithgar.
- Roedd 16.4% o fechgyn 19 i 24 oed yn NEET yn 2023 o gynharu ag 17.6% yn 2022.
- Roedd y 35,100 o bobl ifanc 19 a 24 oed yn NEET yn 2023 yn cynnwys 8,500 (3.7%) o bobl ifanc di-waith a 26,600 (11.6%) a oedd yn economaidd anweithgar (ac eithrio myfyrwyr). Roedd y gyfran ddi-waith wedi gostwng o gymharu â 2022 (o 4.1%) ond roedd y gyfran a oedd yn economaidd anweithgar (ac eithrio myfyrwyr wedi cynyddu (o 10.6%).
Mae Ffigur 3 yn cymharu cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn ôl lefel astudio yn 2023 o gymharu â’r sefyllfa yn 2018. Er bod cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn gostwng gydag oedran, roedd cyfraddau cyfranogiad pobl ifanc 22 i 24 oed yn uwch yn 2023 na 5 mlynedd ynghynt, gyda’r cyfraddau cyfranogi ar gyfer pobl ifanc 16 i 21 oed yn is. I’r rhai 16 oed, gostyngodd cyfranogiad mewn addysg lawn amser 4.5 pwynt canran rhwng 2018 a 2023. I’r rhai 17 oed, gostyngodd y cyfranogiad hwn 5.5 pwynt canran ac i’r rhai 18 oed, gostyngodd 3.7 pwynt canran yn ystod yr un cyfnod.
Ffigur 3: Cyfranogiad mewn addysg lawn amser yn ôl lefel astudiaeth ac oedran, 2018 a 2023
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar wedi'i stacio yn dangos bod cyfran uwch o'r rhai rhwng 22 a 24 oed mewn addysg amser llawn yn 2023 o'i gymharu â 2018, tra bod cyfran lai o'r rhai rhwng 16 a 21 oed mewn addysg amser llawn dros yr un cyfnod. I'r rhai 16 ac 17 oed, Ysgolion ac Addysg Bellach yw'r ddau brif fath o addysg llawn amser, ond i'r rhai sy'n 18 oed neu'n hŷn mae hyn yn newid i Addysg Uwch.
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Y Brifysgol Agored ac CCAUC
Dangosydd cenedlaethol a charreg filltir genedlaethol
Mae’r datganiad yma yn cynnwys data ar gyfer un o’r dangosyddion lleisiant cenedlaethol (Dangosydd 22: Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran).
Mae carreg filltir genedlaethol yn gysylltiedig â'r dangosydd 'Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050’. Er bod y datganiad hwn yn ystyried data ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed a phobl ifanc 19 i 24 oed ar wahân, mae'r garreg filltir genedlaethol yn seiliedig ar yr ystod oedran 16 i 24 llawn.
Mae amcangyfrifon dros dro yn dangos bod 86.4% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2023, i fyny o 86.1% yn 2022.
Cyd-destun polisi a gweithredol
Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno cipolwg blynyddol ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg ac yn y farchnad lafur. Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r ystadegau i fonitro tueddiadau yn lefel cyfranogiad addysg a hyfforddiant, a chyfran pobl ifanc sy’n NEET.
Cyhoeddwyd y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yn wreiddiol yn 2013 ac fe'i adnewyddwyd ym mis Medi 2022. Mae’r Fframwaith yn fecanwaith systematig i adnabod ac ymateb i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET, sydd yn NEET a/neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae'n canolbwyntio ar bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ac yn cynnwys 6 cydran craidd:
- Adnabod unigolion yn gynnar
- Broceru
- Monitro cynnydd
- Darpariaeth
- Cyflogadwyedd a chyfleoedd cyflogaeth
- Atebolrwydd
Mae'r ystadegau hyn yn berthnasol i Cymru Gryfach, Tecach, Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau. Mae'r atodiad technegol ar gyfer y strategaeth yn cyfeirio at y dangosydd cenedlaethol yn seiliedig ar ddata o'r datganiad hwn (gweler hefyd yr adran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol isod). Mae'r ystadegau hyn hefyd yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc.
Gwybodaeth ansawdd
Perthnasedd
Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r ystadegau i fonitro tueddiadau yn lefel cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant, a chyfran pobl ifanc sy’n NEET.
Mae defnyddwyr allweddol eraill yr ystadegau hyn yn cynnwys:
- aelodau o’r Senedd a Gwasanaeth Ymchwil Senedd Cymru
- adrannau eraill y llywodraeth
- myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
Cywirdeb
Amrywioldeb wrth Samplu
Mae cyfrannau statws economaidd yn cael eu hamcangyfrif o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Felly, bydd yr amcangyfrifon hyn yn amrywio yn sgil camgymeriadau samplu a chamgymeriadau eraill a dylid eu trin yn ofalus. O ganlyniad, mae angen dehongli newidiadau mewn tueddiadau yn ofalus, gan y gallent ddeillio o effeithiau samplu yn ogystal ag effeithiau go iawn. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl gwahaniaethu rhwng yr effeithiau hyn.
Mae'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi gweld gostyngiad ym meintiau’r samplau dros y blynyddoedd diwethaf ac nid yw wedi cael ei ailbwysoli yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, gan arwain at fwy o anwadalrwydd ac ansicrwydd mewn amcangyfrifon a gynhyrchir o'r arolwg. Mae'n dal i fod yn briodol defnyddio'r ystadegau yn y datganiad hwn, ond dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o’r anwadalrwydd a’r ansicrwydd cynyddol ynghylch yr amcangyfrifon sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Polisi diwygiadau
Bydd ffigurau dros dro 2023 yn cael eu datgan yn derfynol yng nghyhoeddiad y flwyddyn nesaf. Mae’r tabl canlynol yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2022 a gyhoeddwyd yn natganiad y llynedd a’r amcangyfrif terfynol a gyhoeddwyd ar gyfer y gyfres allweddol o’r gyfran sy’n NEET, a’r gyfran sydd mewn addysg neu hyfforddiant. Bydd yr amcangyfrifon hyn hefyd yn cael eu heffeithio gan ddiwygiadau i amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth rhwng 2012 a 2021. Mae rhagor o wybodaeth am ddiwygiadau'r boblogaeth ar gael yn yr adran sy’n dilyn.
Categori data | NEET: nifer | NEET: y cant | Mewn addysg neu hyfforddiant: nifer | Mewn addysg neu hyfforddiant: y cant |
---|---|---|---|---|
Dros dro | 14,400 | 13.3 | 77,500 | 71.8 |
Terfynol | 13,200 | 12.3 | 78,800 | 73.7 |
Gwahaniaeth | -1,200 | -1.0 | 1,300 | 1.9 |
Categori data | NEET: nifer | NEET: y cant | Mewn addysg neu hyfforddiant: nifer | Mewn addysg neu hyfforddiant: y cant |
---|---|---|---|---|
Dros dro | 34,500 | 14.6 | 92,000 | 38.9 |
Terfynol | 33,000 | 14.6 | 86,500 | 38.4 |
Gwahaniaeth | -1,500 | 0.0 | -5,500 | -0.5 |
Mae Tabl 1a a Tabl 1b yn dangos y gwahaniaeth rhwng amcangyfrifon dros dro a data terfynol 2022 ar gyfer y rhai 16 i 18 oed a 19 i 24 oed.
I'r rhai rhwng 16 a 18 oed, mae'r newidiadau yn deillio o ddiwygiadau ar i fyny yn y nifer mewn addysg amser llawn a rhan-amser a diwygiadau ar i lawr yn y nifer nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant. I'r rhai rhwng 19 a 24 oed mae'r newidiadau yn cael eu heffeithio gan ddiwygiadau ar i lawr yn y nifer mewn addysg amser llawn a'r nifer mewn cyflogaeth. Mae cyfanswm poblogaeth y ddau grŵp oedran hefyd wedi gweld gostyngiad oherwydd y ffigurau poblogaeth canol blwyddyn diwygiedig.
Dim ond yn unol â diwygiadau i ddata gwreiddiol y gwneir diwygiadau ar gyfer blynyddoedd cynharach. Efallai na fydd y cyfansymiau'n cyfateb oherwydd talgrynnu.
Ceir rhagor o wybodaeth yn Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur: nodyn methodoleg.
Data ar y boblogaeth
Caiff amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth hyd at ac yn cynnwys 2023 (yn seiliedig ar amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar gyfer amcangyfrifon o 2012 a chyfrifiad 2011 ar gyfer blynyddoedd cynharach), ynghyd â rhagamcanion o’r boblogaeth 2022, eu defnyddio i gyfrif yr amcangyfrifon cyfranogiad hyn. Mae amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn flaenorol rhwng 2012 a 2021 wedi’u diwygio yn y datganiad hwn er mwyn cynnwys amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailseilio gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Cymariaethau â blynyddoedd blaenorol
Diweddarwyd y fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu data'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ym mlwyddyn academaidd 2022/23, gan effeithio ar amcangyfrifon NEET o 2022 ymlaen. Bach iawn yw effaith y newid hwn yn y fethodoleg ar yr amcangyfrifon, gyda'r gwahaniaeth yn y boblogaeth myfyrwyr addysg uwch rhwng yr hen fethodoleg a'r fethodoleg newydd yn llai nag 1 pwynt canran. O ystyried hyn, nid oes angen torri’r gyfres amser, a gellir gwneud cymariaethau cyn ac ar ôl 2022 o hyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y nodyn methodoleg.
Amseroldeb a phrydlondeb
Cyhoeddir y Datganiad Ystadegol hwn yn flynyddol, fel arfer yn yr hydref, ac mae'n cynnwys diwedd y flwyddyn flaenorol (data dros dro) a'r flwyddyn gynt (data terfynol). Fe'i cyhoeddwyd yn hwyrach eleni oherwydd oedi cyn cyhoeddi data'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, sy’n darparu gwybodaeth a ddefnyddir i gynhyrchu’r amcangyfrifon yn yr adroddiad hwn.
Hygyrchedd ac eglurder
Mae’r datganiad ystadegol hwn yn cael ei gyn-gyhoeddi ac yna ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil Llywodraeth Cymru. Mae’r holl ddata sylfaenol ar gyfer y datganiad hwn a blynyddoedd eraill ar gael ar wefan StatsCymru.
Agweddau cymharydd a chydlyniant
Ar gyfer y datganiad hwn, amcangyfrifwyd cyfranogiad mewn addysg ac yn y farchnad lafur drwy ddefnyddio data poblogaeth, addysg a dysgu seiliedig ar waith ynghyd â’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol i amcangyfrif statws y farchnad lafur. Mae rhagor o wybodaeth am y ffynonellau hyn a tharddiad yr ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn ar gael yn ein nodyn methodoleg.
Yn ogystal â’r datganiad hwn rydym yn cyhoeddi bwletin Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) i ddarparu ystadegau NEET mwy amserol a manwl (ond nid yn llai cadarn yn ystadegol) i ddefnyddwyr yn seiliedig ar yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn unig.
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein harferion ystadegol yn cael eu rheoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gadw atynt.
Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyn yn bodloni’r safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Rydym yn cyhoeddi canllawiau i ddefnyddwyr ar y gwahanol ffynonellau NEET ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynnwys arweiniad manwl ar y gwahaniaethau rhwng y ffynonellau a'r diffiniadau, a throsolwg cryno o'r fethodoleg a ddefnyddir ar gyfer pob ffynhonnell.
Mae'r data ar gyfer y datganiad hwn wedi'u cyfrifo o ddata gweinyddol, data arolygon a data wedi'u modelu, ac maent wedi'u gosod gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru gan sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol. Mae gwybodaeth am bob un o'r ffynonellau a'r fethodoleg wedi'i manylu yn y nodyn methodoleg sy'n gysylltiedig â'r datganiad hwn.
Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.
Mae'r ystadegau hyn wedi'u cyhoeddi ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn ystod y prosesu, mae'r mynediad at y data wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau neu sicrhau ansawdd, neu sydd angen eu gweld at ddibenion gweithredol. Derbynwyr cymwys yn unig sy'n cael mynediad at y data cyn eu rhyddhau yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Ansawdd
Yr amcangyfrifon yn y datganiad hwn yw'r ffynhonnell bendant o amcangyfrifon NEET ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. Mae'r amcangyfrifon hyn yn darparu amcangyfrifon NEET mwy dibynadwy a chadarn na datganiad NEET yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth oherwydd eu bod yn cynnwys sawl ffynhonnell o ddata gweinyddol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y ffynonellau NEET ar gael yn ein canllaw i ddeall y gwahanol ffynonellau ystadegau ar bobl ifanc sy'n NEET yng Nghymru.
Defnyddir yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth fel rhan o'r broses i gyfrifo'r amcangyfrifon a gyflwynir yn y datganiad hwn (mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y nodyn methodoleg). Mae'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi gweld gostyngiad ym meintiau’r samplau dros y blynyddoedd diwethaf ac nid yw wedi cael ei ailbwysoli yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, gan arwain at fwy o anwadalrwydd ac ansicrwydd mewn amcangyfrifon a gynhyrchir o'r arolwg. Mae'n dal i fod yn briodol defnyddio'r ystadegau yn y datganiad hwn, ond dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol bod mwy o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrifon.
Wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn, mae pob cam dan arweiniad ystadegwyr proffesiynol. Sicrhawyd ansawdd yr holl ystadegau cyn eu cyhoeddi.
Gwerth
Mae ein hystadegau swyddogol ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn dangos y tueddiadau yng nghyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n NEET yng Nghymru. Unwaith y bydd ffigurau terfynol ar gyfer ysgolion ac addysg uwch ar gael, caiff yr ystadegau hyn eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall y tueddiadau diweddaraf mewn cyfraddau NEET. Bydd yr ystadegau yn cael eu diweddaru'n flynyddol.
Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
- Cyngor i Weinidogion
- Llywio'r broses benderfynu ynglŷn â pholisi addysg a chyflogadwyedd yng Nghymru
- Cynorthwyo a monitro cynnydd rhaglenni sydd â'r nod o ddarparu a gwella cyfleoedd addysgol a chyflogaeth i bobl ifanc yng Nghymru, megis y Warant i Bobl Ifanc, y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, a'r dangosydd cenedlaethol.
Ochr yn ochr â'r datganiad hwn mae tablau ar StatsCymru, gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n galluogi ymwelwyr i weld, trin, creu a lawrlwytho data.
Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr. Hefyd, cyhoeddir ein holl allbynnau ar ystadegau ysgolion yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol sef:
- (22) Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf mae’n rhaid cyfeirio atynt mewn dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.
Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.
Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.
Yn y datganiad hwn, mae dangosydd 22 ‘Canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran’, yn cyfateb i garreg filltir genedlaethol:
- Bydd o leiaf 90% o’r rhai 16-24 oed oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050
Rhagor o wybodaeth am ’Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Rydym am gael eich adborth
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. E-bostiwch yr adborth i ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru.
Trwydded Llywodraeth Agored
Mae’r holl gynnwys ar gael o dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0, oni nodir fel arall.