Neidio i'r prif gynnwy

Mae pobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n gweithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwneud cyfraniad enfawr i’n cymunedau ac yn aelodau hynod o werthfawr o’r staff.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma neges Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon a Rebecca Evans, y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gan bobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd rôl allweddol i’w chwarae yng ngweithrediad ein gwasanaethau iechyd yn ôl data sy’n dangos bod tua 6% o feddygon yng Nghymru wedi’u hyfforddi mewn gwlad arall sy’n perthyn i’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Vaughan Gething:

 “Dyma’r amser i ni feddwl yn glir am yr hyn mae’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn ei olygu i’r GIG a’i ddyfodol.

“Nid oes amheuaeth y bydd heriau mawr o’n blaenau - cyllid, trwyddedu meddyginiaethau newydd a recriwtio yn ddim ond tair o’r heriau hynny. Bydd angen creadigrwydd a gwaith caled ar ran pawb ohonon ni sy’n gweithio yn y sector i fynd i’r afael â’r heriau hynny a mwy.

“Ond beth bynnag yr heriau fydd yn ein hwynebu, rwyf am gyfleu neges bwysig iawn. Mae gennym staff o wledydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd a phedwar ban byd yn gweithio yn y GIG. Mae gen i barch mawr at bob un ohonyn nhw.

“Mae eu cyfraniad i’n gwasanaeth yn enfawr a deallaf y gall canlyniad y refferendwm achosi rywfaint o bryder anochel am yr hyn mae’n ei olygu iddyn nhw a’u teuluoedd. Rwyf am roi’r sicrwydd i unrhyw aelod o’r staff sy’n pryderu - p’un ai a ydyn nhw o’r Undeb Ewropeaidd neu o unrhyw fan arall o’r byd - eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac na fydd y GIG yn goddef unrhyw ffurf ar anoddefgarwch na chamwahaniaethu a fydd yn codi yn unrhyw ran o’r sefydliad yn sgil y penderfyniad.”


Dywedodd Rebecca Evans: 

“Mae staff o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn gwbl hanfodol i weithrediad ein sector gofal cymdeithasol. Maent ymhlith y miloedd o unigolion sy’n cynnig gofal urddasol i unigolion ddydd ar ôl dydd. Maent yn rhan allweddol o’r system iechyd a gofal cymdeithasol integredig o’r safon uchaf rydyn ni wrthi’n ei datblygu.

“Nid oes amheuaeth bod y refferendwm diweddar wedi achos ansicrwydd a phryder i lawer. Gadewch i mi fod yn gwbl glir, mae croeso arbennig o hyd i staff o wledydd yr Undeb Ewropeaidd – ac o bedwar ban byd – yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi.

“Mae’r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref yn amlinellu cred Llywodraeth Cymru y dylai dinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig gadw’r hawl i wneud hynny ar ôl i’r Deyrnas Unedig dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd. Dyma’r amser i’r Ysgrifennydd Cartref roi sicrwydd i bawb o’r Undeb Ewropeaidd sy’n cyfrannu gymaint at gymdeithas Cymru na fyddant yn colli eu hawl i breswylio yma.”