Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae Eluned Morgan wedi rhoi ei sêl ar ei deddf gyntaf fel Prif Weinidog Cymru. Mae'r gyfraith newydd gan y Senedd yn helpu i foderneiddio'r weinyddiaeth etholiadol ac yn cael gwared ar rwystrau i ymgysylltu democrataidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwynwyd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i'r Senedd am y tro cyntaf ym mis Hydref 2023 ac fe'i pasiwyd gan Senedd Cymru ym mis Gorffennaf eleni.

Mae'r gyfraith newydd yn golygu mai dinasyddion Cymru fydd y rhai cyntaf o'r Deyrnas Unedig i gael eu cofrestru'n awtomatig ar y gofrestr bleidleisio, gan ddilyn gwledydd fel Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal sydd â system debyg eisoes ar waith.

Amcangyfrifir y gallai hyd at 400,000 o bobl nad ydynt eisoes wedi cofrestru i bleidleisio gael eu hychwanegu at y gofrestr.

Ochr yn ochr â chofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru, bydd y ddeddf newydd yn:

  • sefydlu corff newydd i Gymru gyfan sy'n gyfrifol am gydgysylltu'r gwaith o weinyddu etholiadau Cymru yn effeithiol.
  • creu llwyfan gwybodaeth newydd i bleidleiswyr ar-lein.
  • cyflwyno mesurau i gynyddu amrywiaeth yn aelodaeth y Senedd a llywodraeth leol.

Mae'r ddeddf hefyd wedi ymrwymo i ehangu rôl a chylch gwaith Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru:

"Dylai pob person sy'n byw yng Nghymru gael y cyfle i fwrw eu pleidlais mewn etholiadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu bywydau. Er bod gan bawb yr hawl i benderfynu a ydyn nhw'n pleidleisio, bydd cofrestru awtomatig yn helpu i chwalu'r rhwystrau posibl rhag pleidleisio.

"Mae cyflwyno'r gyfraith hon yn gam enfawr ymlaen i wneud system o weinyddiaeth etholiadol yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain."