Neidio i'r prif gynnwy

O dan gynlluniau newydd Llywodraeth Cymru i gefnogi amrywiaeth a thryloywder mewn llywodraethau lleol, bydd yn haws i gynghorwyr fynychu cyfarfodydd y cyngor o bell a rhannu swyddi'r cabinet, a bydd hefyd rhaid i gynghorau ddarlledu eu cyfarfodydd ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a gyflwynwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd, yn darparu ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau, democratiaeth, perfformiad a llywodraethiant llywodraethau lleol.

Mae cynyddu amrywiaeth ymysg aelodau etholedig yn helpu cynghorau i gynrychioli'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn well drwy gyflwyno amrywiaeth mwy eang o safbwyntiau a phrofiadau.

Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Bil yn:

  • Cryfhau trefniadau presennol er mwyn galluogi cynghorwyr i fynychu cyfarfodydd y cyngor o bell a chael cyfnodau o absenoldeb teuluol. Bydd y newid yn ei gwneud yn haws i ddiweddaru trefniadau ar gyfer cyfnodau o absenoldeb teuluol wrth i bolisi ddatblygu yn y maes hwn;
  • Galluogi rhannu swydd yng Ngweithrediaeth/Cabinet y cyngor, gan gynnwys swydd yr Arweinydd. Bydd hefyd yn caniatáu i swyddi aelodau Gweithredol/aelodau Cabinet cynorthwyol gael eu creu;
  • Diwygio'r meini prawf cymhwysedd i ymgeiswyr etholiadau llywodraeth leol er mwyn caniatáu i ddinasyddion o unrhyw wlad (sy'n byw'n gyfreithlon yng Nghymru) sefyll, yn ddarostyngedig i feini prawf anghymhwyso;
  • Galluogi cyflogeion y cyngor i sefyll mewn etholiad (y rhai hynny nad ydynt mewn swyddi a gyfyngir yn wleidyddol/uwch-swyddogion) heb orfod ymddiswyddo yn gyntaf (bydd rhaid iddynt ymddiswyddo pe baent yn cael eu hethol);
  • Rhoi dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau'r grŵp.

Bydd y Bil hefyd yn sicrhau y bydd penderfyniadau gwleidyddol yn cael eu gwneud yn gyhoeddus. Er mwyn cefnogi hyn, mae'r Bil rhoi gofynion newydd ar waith o ran ymgysylltu â'r cyhoedd a chyfranogiad y cyhoedd.

Bydd rhaid i Gynghorau:

  • Gael strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, gyda'r nod o'i gwneud yn haws i'r cyhoedd ddeall sut mae llywodraeth leol yn gweithio, yn gwneud penderfyniadau, a sut y gall bobl leol gyfrannu. Fel rhan o hyn, bydd rhaid i Gynghorau gyhoeddi canllaw ynghylch eu cyfansoddiadau mewn 'iaith syml'.
  • Llunio cynllun deisebau, sy'n nodi sut y bydd awdurdodau lleol yn mynd i'r afael â deisebau, gan gynnwys e-ddeisebau;
  • Defnyddio technoleg i wella tryloywder a galluogi'r cyhoedd i gymryd rhan ym musnes y cyngor drwy ddarlledu cyfarfodydd cyhoeddus, a sicrhau fod dogfennaeth cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi'n ddigidol.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

Fel rhan o'n huchelgais i gael llywodraeth leol gadarn yng Nghymru, rydym am i bobl deimlo bod eu cynghorwyr yn eu cynrychioli'n dda. Mae'r cynigion yn y Bil hwn wedi'u dylunio i gynyddu amrywiaeth ymysg ein cynghorwyr lleol, yn ogystal â chynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol.

Rydym am alluogi democratiaeth leol sy'n adlewyrchu ein hamrywiaeth fel cenedl. Bydd y Bil yn helpu i annog llawer mwy o bobl yng Nghymru i sefyll i fod yn gynghorwyr, a sicrhau bod pobl o bob cefndir yn gallu gwneud swyddi arweiniol a gweithredol. Mae'r Bil hefyd yn cymryd camau i annog amrywiaeth ehangach o aelodau'r cyhoedd i fod yn rhan o ddemocratiaeth leol.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod llywodraethau lleol yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau cyhoeddus gwell i bawb drwy helpu’r bobl sydd angen cymorth fwyaf, a hynny pan y byddant ei angen a lle y byddant ei angen.