Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Bil yn cynnig cyflwyno isafbris ar gyfer cyflenwi alcohol yng Nghymru, a’i gwneud yn drosedd i gyflenwi alcohol am lai na’r pris hwnnw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) wedi cael ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw (dydd Llun, 23 Hydref 2017) gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans. 

Bydd y Bil yn mynd i'r afael â phryderon iechyd hirdymor a phenodol ynghylch effeithiau goryfed alcohol, sy'n arwain at amcangyfrif o 50,000 o dderbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn, gan gostio £120m i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru bob blwyddyn. Yn 2015, cafwyd 463 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.

Mae'r Bil newydd yn cefnogi strategaeth gynhwysfawr Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag yfed niweidiol a pheryglus drwy ddelio ag argaeledd a fforddiadwyedd alcohol rhad a chryf. Mae hyn yn rhan o ymdrechion ehangach i wella a diogelu iechyd poblogaeth Cymru. 

Mae’r Bil yn cynnig cyflwyno isafbris ar gyfer cyflenwi alcohol yng Nghymru, a’i gwneud yn drosedd i gyflenwi alcohol am lai na’r pris hwnnw. Mae'r Bil yn cynnig y byddai lefel yr isafbris uned at y diben hwn yn cael ei phennu mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru. 

Roedd ymchwil yn 2014 ar effeithiau cyflwyno isafbris uned o 50c (er enghraifft) yn amcangyfrif y canlynol: 

  • byddai isafbris uned o 50c yn arwain at 53 yn llai o farwolaethau a 1,400 yn llai o dderbyniadau i ysbytai yng Nghymru bob blwyddyn 
  • byddai isafbris uned o 50c yn arbed dros £130m i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru dros 20 mlynedd, drwy leihau'r effeithiau ar wasanaethau iechyd, fel yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys 
  • byddai'n lleihau absenoldebau o'r gweithle, ac amcangyfrifir y byddai'r nifer hwn yn gostwng 10,000 o ddiwrnodau'r flwyddyn. 
Dros 20 mlynedd, gallai cyflwyno isafbris uned gyfrannu £882m at economi Cymru o ran lleihau nifer y rheini sy'n absennol o'r gwaith neu’n troseddu oherwydd alcohol neu sy'n dioddef o salwch sy'n ymwneud ag alcohol. 

Mae’r Bil yn cynnig: 

  • fformiwla ar gyfer cyfrifo'r isafbris cymwys am alcohol drwy ddefnyddio canran cryfder yr alcohol, ei gyfaint a'r isafbris uned 
  • pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i bennu’r isafbris uned 
  • sefydlu gweithdrefn orfodi dan arweiniad awdurdodau lleol â phwerau mynediad, pwerau i erlyn oherwydd troseddau a phwerau i roi hysbysiadau cosb benodedig. 
Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans:

“Mae niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn broblem sylweddol o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Roedd modd osgoi pob un o'r 463 o farwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol yn 2015 a byddai pob un o'r marwolaethau hyn wedi cael effaith andwyol ar deulu a ffrindiau'r unigolion. Mae niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol hefyd yn cael effaith fawr ar wasanaethau cyhoeddus fel y gwasanaeth iechyd. 

"Mae cysylltiad clir iawn ac uniongyrchol rhwng lefelau goryfed ac argaeledd alcohol rhad. Felly mae angen inni gymryd camau pendant nawr i fynd i'r afael â fforddiadwyedd alcohol fel rhan o ymdrechion ehangach i ddelio â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. 

"Bydd y Bil rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn mynd i'r afael â goryfed alcohol drwy ei gwneud yn drosedd i fanwerthwyr werthu alcohol cryf am brisiau isel. Bydd yn gwneud cyfraniad pwysig i wella canlyniadau iechyd  drwy sicrhau bod atal ac ymyrryd yn fuan yn ganolog i'n gwaith o leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Bydd hyn yn sicr yn helpu i achub bywydau." 

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:

"Wrth i alcohol ddod yn fwy fforddiadwy, mae'r lefelau yfed wedi cynyddu. Wrth i'r lefelau yfed gynyddu, mae lefel y niwed yn cynyddu. Mae modd osgoi pob marwolaeth sydd wedi'i phriodoli i alcohol, gan ddangos bod angen cymryd camau atal pellach ar frys. 

"Mae cynyddu pris alcohol drwy gyflwyno isafbris uned yn rhoi ffordd effeithiol ac effeithlon inni o leihau lefelau goryfed alcohol a niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. 

“Effaith fach bydd hyn yn ei chael ar yfwyr cymedrol. Yfwyr niweidiol a pheryglus fydd yn gweld yr effeithiau mwyaf sylweddol, oherwydd eu bod nhw’n fwy tebygol o yfed cynhyrchion alcohol rhatach a chryfach.”